Arweinydd Tîm Cynllunio Dŵr Integredig
Dyddiad cau: 5 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 8: £52,268 - £57,726 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Grŵp Dŵr Cynaliadwy / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £52,268 yn codi i £57,726 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: Wythnos yn cychwyn 19 Mai 2025
Rhif swydd: 201321
Y rôl
Rheoli'r tîm cynllunio dŵr yn unol â gwerthoedd CNC. Byddwch yn arwain ar ystod eang o faterion strategol, deddfwriaethol ac amgylcheddol sy'n ymwneud â datblygu a chyflawni cynlluniau integredig ar y cyd i wella'r amgylchedd dŵr. Gallwch hefyd weithredu fel yr arweinydd technegol ar gyfer eich maes arbenigol, a byddwch yn darparu cyngor a gwybodaeth arbenigol i Lywodraethau Cymru a’r DU i lunio a llywio newid deddfwriaethol, polisi'r llywodraeth ac agendâu rhanddeiliaid yn eich maes gwaith penodedig. Byddwch yn trosi deddfwriaeth, polisi Llywodraeth Cymru a strategaeth sefydliadol CNC yn ddulliau ymarferol ar gyfer camau cyflawni rheng flaen mewn amgylchedd rheoleiddio/gweithredol.
Rheoli tîm o 12 ledled Cymru yn canolbwyntio ar ystod amrywiol o waith gan gynnwys Cynlluniau Rheoli Basn Afon Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, Rhaglen Genedlaethol yr Amgylchedd, Cronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd, cemegau a hydromorffoleg. Mae'r rôl yn hanfodol i ddod â chynllunio ar gyfer dŵr ledled Cymru ynghyd ac yna gamau gweithredu i fynd i'r afael ag effeithiau. Yn eistedd yn yr adran Amgylchedd, Polisi a Thrwyddedu mae'r swydd hon yn rhan o'r Grŵp Dŵr a Natur sy'n adrodd i'r rheolwr Dŵr a Natur. Gweithio hybrid gyda pheth teithio i reoli tîm amrywiol.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Rhian Thomas a
rh.thomas@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Arwain tîm mawr o gynghorwyr arbenigol proffesiynol ac, yn ogystal â bod yn arbenigwr cydnabyddedig yn eu maes eu hunain, arwain a rheoli materion penodol a chymhleth sy’n gofyn am ddatblygu polisïau, strategaethau, cynlluniau a rhaglenni CNC.
- Arwain a rheoli materion penodol a chymhleth, megis paratoi Canllawiau, sy’n gofyn am ddatblygu polisïau, strategaethau, cynlluniau, rhaglenni ar gyfer CNC a sectorau/partneriaid perthnasol.
- Cadw perchnogaeth a goruchwyliaeth o'r maes polisi Cynllunio Dŵr Integredig er mwyn sicrhau uniondeb dulliau CNC gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Ganolog a bwriad Polisi'r UE.
- Rhoi cyngor statudol i LlC a chyrff eraill yng Nghymru a'r DU fel y bo'n briodol, ac adolygu dilynol a chynghori ynghylch y polisi, cynlluniau a strategaethau a gynhyrchwyd.
- Comisiynu tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth, yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
- Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r Byrddau Busnes, i baratoi cynhyrchion diffiniedig yn ôl yr angen.
- Llywio'r oruchwyliaeth a’r berchnogaeth o waith ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn y meysydd polisi penodol sy'n gysylltiedig â chynllunio dŵr integredig.
- Cydweithio â'r Rheolwr i ddatblygu a chyflwyno Cynllun Datblygu Personol y cytunwyd arno.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR
- Gwybodaeth o’r canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n ymwneud â Dŵr a rheolaeth amgylcheddol; ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ym maes dŵr a rheolaeth amgylcheddol; a’r materion a’r cyfleoedd yng Nghymru.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol o sut i oresgyn y blaenoriaethau, y sbardunau a'r rhwystrau cymhleth y mae CNC, partneriaid a rhanddeiliaid sy'n ymwneud â chyflawni canlyniadau dŵr yng Nghymru yn eu hwynebu wrth gyflawni canlyniadau rheoli ansawdd dŵr ac adnoddau dŵr yng Nghymru.
- Profiad o’r canlynol: Gweithio ar lefel genedlaethol, y DU a rhyngwladol yn rheoli portffolio o raglenni gwaith sy'n gysylltiedig â’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.
- Profiad o’r canlynol: Dealltwriaeth fanwl o faes rheoli dŵr a’r ystod gymhleth o elfennau sy’n ysgogi ac yn rhwystro’r broses o gyflawni.
- Byddwch yn aelod o CIWEM neu sefydliad technegol proffesiynol perthnasol arall a/neu sefydliad rheoli a/neu’n gweithio tuag at aelodaeth.
- Cynrychioli'r sefydliad gyda materion uchel eu proffil a dadleuol yn y maes cyhoeddus.
- Rhannu eich gwybodaeth a'ch arbenigedd i helpu i ddatrys problemau, gan gefnogi pob Pennaeth Busnes yn yr adran Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl y galw.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: A1 - Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.