Cynghorydd Arbenigol, Strategaeth Monitro a Chynllunio
Dyddiad cau: 5 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Monitro Strategaeth a Chynllunio / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr y wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: Wythnos yn cychwyn 19 Mai 2025
Rhif swydd: 201275
Y rôl
Darparu cyngor arbenigol i lywio’r gwaith o bennu cyfeiriad strategol CNC ar gyfer gweithgarwch monitro morol, y rhaglen fonitro morol flynyddol a’r rhaglen ddadansoddi labordy gysylltiedig, a chanllawiau i dimau gweithredol ar gyflawni gwaith monitro morol. Byddwch yn gweithio ar y cyd â chydweithwyr ar draws yr adrannau Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu a Gweithrediadau, swyddogion o Lywodraeth Cymru, a chynrychiolwyr o sefydliadau partner ar lefel Cymru a’r DU sy’n gwneud gwaith monitro morol.
Byddwch yn arwain a rheoli’r gwaith o ganfod a gweithredu opsiwn cyfnewid hirdymor ar gyfer gweithrediadau monitro arfordirol a mewndirol CNC yn seiliedig ar gychod, gan gynnwys y rhai hynny sy’n cael eu cyflawni ar hyn o bryd drwy gytundeb partneriaeth gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a chyflenwyr allanol. Bydd angen gweithredu'r opsiwn newydd yn llawn o fewn 5 mlynedd.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch Sue Byrne.
sue.byrne@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Darparu cyngor technegol arbenigol i lywio’r gwaith o bennu cyfeiriad strategol CNC ar gyfer monitro morol, gan sicrhau ei fod yn addas i gefnogi ein canlyniadau corfforaethol a bodloni rhwymedigaethau statudol.
- Arwain a rheoli datblygiad rhaglen fonitro morol flynyddol CNC a’r rhaglen ddadansoddi labordy gysylltiedig gan weithio gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad, rhoi ystyriaeth i gyfyngiadau o ran gweithlu ac adnoddau ariannol.
- Rhyngweithio a dylanwadu ar amrywiaeth o sefydliadau partner sy’n gweithio ar brosiectau strategol a monitro gweithredol ar lefel Cymru a’r DU.
- Cymryd rhan arweiniol wrth ddatblygu dulliau newydd ac arloesol o hybu gwell perfformiad ac effeithlonrwydd yng ngwasanaeth monitro CNC.
- Cymryd rhan mewn grwpiau sefydledig i sicrhau bod gwaith monitro’n cael ei lywodraethu’n effeithiol o fewn CNC, a chadeirio’r grwpiau fel bo’r angen.
- Mentora cydweithwyr llai profiadol yn eich tîm.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Bydd gennych wybodaeth a phrofiad arbenigol mewn monitro morol.
- Bydd gennych brofiad blaenorol o arwain a rheoli prosiectau.
- Byddwch yn gyfathrebwr hyderus gyda’r gallu i gyflwyno agweddau technegol a strategol gwaith monitro i gynulleidfaoedd mewnol ac allanol mewn ffordd gryno ac effeithiol.
- Bydd gennych brofiad blaenorol o ddatblygu strategaethau ac arweiniad gweithredol.
- Byddwch yn gallu adeiladu perthnasoedd effeithiol, a phrofiad o weithio gydag adrannau’r llywodraeth, y trydydd sector a rheoleiddwyr.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: A1 - Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.