Arweinydd Data Agored
Dyddiad cau: 20/08/2025 | Cyflog: Gradd 6 £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg, ond Bangor a ffefrir
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Gwasanaethau Data / Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 11/09/2025
Rhif swydd: 201249
Y rôl
Rydym am benodi Arweinydd Data Agored gwybodus a rhagweithiol i reoli rhaglen Data Agored Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a chwarae rhan arwain allweddol o fewn ein Tîm Gwasanaethau Data. Dyma swydd hanfodol ar gyfer cyflawni ein huchelgais i sicrhau bod data amgylcheddol a monitro ar gael yn agored, gan gefnogi tryloywder, arloesedd a phenderfyniadau gwell ledled Cymru.
Yn y rôl hon, byddwch yn arwain y gwaith o nodi, asesu, cymeradwyo a chyhoeddi cynhyrchion data CNC, gan sicrhau eu bod yn hygyrch ac o safon ac yn cydymffurfio â'r gyfraith. Byddwch yn arwain ac yn mentora aelodau'r tîm, yn cydlynu llif gwaith, ac yn gweithredu fel cyswllt allweddol ar gyfer partneriaid allanol fel Llywodraeth Cymru (MapDataCymru) a'r Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol (Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol).
Byddwch yn gweithio ar draws y busnes i alinio ymdrechion data agored â fframweithiau llywodraethu corfforaethol a thechnoleg, gan gydweithio â chydweithwyr ym meysydd strategaeth data, meistr-reoli data a llywodraethu gwybodaeth. Bydd eich gwaith yn helpu i sicrhau bod ein data yn dilyn egwyddorion FAIR – canfyddadwy (Findable), hygyrch (Accessible), rhyngweithredol (Interoperable) ac ailddefnyddiadwy (Reusable) – gan gefnogi ein hymrwymiad i rannu gwybodaeth yn agored ac yn dryloyw.
Gan ddefnyddio eich arbenigedd mewn data amgylcheddol, byddwch yn asesu ac yn trawsnewid setiau data, yn cymhwyso safonau data, ac yn defnyddio offer fel FME a Power BI i gynnal cofrestri data, olrhain cynnydd a rhoi mewnwelediadau. Byddai dealltwriaeth o ieithoedd tagio, e.e. XML, yn fuddiol. Bydd eich gwybodaeth am ddeddfwriaeth a pholisi data yn sicrhau bod yr holl allbynnau’n bodloni safonau cyfreithiol a moesegol.
Mae’r rôl hon hefyd yn cynnig y cyfle i wella ein harferion data mewnol. Byddwch yn darparu cyngor ar draws cylch oes llawn y data – o gaffael a storio i ledaenu a gwaredu – a chefnogi staff ar bob lefel i wella sgiliau rheoli data.
Os ydych chi'n angerddol am ddata agored, yn meddu ar sgiliau technegol a chyfathrebu cryf, ac eisiau gwneud gwahaniaeth yn y ffordd y mae data amgylcheddol yn cael ei rannu a’i ddefnyddio, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Monica Jones ar monica.jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Rydym am benodi unigolyn brwdfrydig i ymuno â'n Tîm Gwasanaethau Data, sy’n rhan o'r Gyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol. Fel un o bedwar tîm o fewn ein swyddogaeth data ehangach, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â'n grwpiau digidol a thechnoleg – a byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu ein data wrth helpu eraill i ddeall a defnyddio ein data yn effeithiol i wneud penderfyniadau gwell.
Dyma gyfle cyffrous i rywun sydd â'r sgiliau cywir ymuno â thîm bach cyfeillgar a byddai'n addas i rywun sydd â sylw cryf i fanylion a gallu naturiol i gyfathrebu ac ysbrydoli ein ceidwaid data trwy hyrwyddo arfer gorau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Bod yn arbenigwr arweiniol, yn gyfrifol am ddiffinio a pherchnogi rhaglen cyhoeddi data agored CNC a chydlynu cyfnewid data rhwng CNC a thrydydd partïon. Mae hyn yn cwmpasu ystod eang a chymhleth o themâu a fformatau data sy'n cael eu creu neu eu caffael i'w defnyddio ar draws holl swyddogaethau CNC.
- Diffinio ac adolygu'n barhaus ddull a pholisi CNC ar gyfer cyhoeddi data agored, gan gynnwys gwerthuso prosesau gweithredu'n rheolaidd ac archwilio technoleg i ysgogi effeithlonrwydd cynyddol. Rhoi cyngor i staff perthnasol ar fformatau cyfnewid data, trawsnewid, ansawdd, safonau ac addasrwydd ar gyfer cyhoeddi, gan gynghori perchnogion asedau gwybodaeth (yr arweinyddiaeth) ar eu rhwymedigaethau o ran cyhoeddi data agored.
- Dehongli ystod eang o ddeddfwriaeth a pholisïau gwybodaeth i ddiffinio eithriadau gyda thrydydd partïon a nodi pa setiau data y mae CNC yn eu deillio o ddata trydydd parti y gellir eu cyhoeddi'n agored, gan gyd-drafod hawliau data agored gyda chyflenwyr trydydd parti.
- Darparu arweinyddiaeth dechnegol a goruchwyliaeth ar gyfer cyd-drafod cytundebau cyfnewid data newydd a chontractau caffael data cymhleth.
- Goruchwylio cynnwys a dyluniad ein catalogau data a gwybodaeth, gan roi cyngor arbenigol ar echdynnu, adrodd a datblygu dangosyddion perfformiad allweddol.
- Cymeradwyo a yw setiau data yn addas i'w cynnwys mewn porwyr allanol a chynghori arbenigwyr technegol yn y tîm geo-ofodol ynghylch pa setiau data sy'n briodol i'w cyhoeddi, e.e. ar wasanaethau mapiau gwe allanol CNC.
- Arweinydd technegol ar gyfer technoleg cyhoeddi data CNC. Gweithio gyda phartneriaid TGCh neu gyd-gyflenwi (e.e. Llywodraeth Cymru) i helpu i ddiffinio atebion technegol newydd ar gyfer cyhoeddi data, lawrlwytho data a chyfnewid data, ac ymchwilio i dechnoleg ar gyfer mecanweithiau cyhoeddi eraill (rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau, anofodol ac ati).
- Rhoi cyngor technegol i arbenigwyr ar yr offer a'r gwasanaethau a ddefnyddir ar gyfer cyhoeddi data
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth a phrofiad manwl o reoli data gyda phwyslais ar ddata amgylcheddol.
- Profiad o reoli data neu brosiectau llywodraethu data, gan sicrhau cydymffurfedd â deddfwriaeth berthnasol.
- Dealltwriaeth dda o'r ddeddfwriaeth a'r safonau sy'n llywodraethu'r ffordd rydym yn cyhoeddi ac yn rhannu ein data a phrofiad ymarferol o weithredu cydymffurfedd.
- Profiad o dechnolegau a ddefnyddir ar gyfer cynhyrchu mewnwelediadau data, yn ogystal â'r rhai sy'n ymwneud ag echdynnu, trawsnewid a llwytho data, wrth baratoi ar gyfer cyhoeddi. Mae bod yn gyfarwydd â chymwysiadau fel PowerBI neu FME a fformat XML yn fanteisiol.
- Addysg hyd at lefel gradd mewn rheoli data neu ddisgyblaeth amgylcheddol, neu'n gallu dangos profiad perthnasol. Byddai cymhwyster proffesiynol neu weithio tuag at gymhwyster proffesiynol o fantais.
- Bydd gennych sgiliau rhyngbersonol da a byddwch yn gyfathrebwr hyderus gyda'r gallu i gyfleu pynciau technegol yn effeithiol.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.