Uwch-swyddog Rheoleiddio Diwydiant

Dyddiad cau: 11 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 y flwyddyn | Lleoliad: De Ddwyrain Cymru

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Rheoleiddio'r Diwydiant De Ddwyrain / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau

Rhif swydd: 201131 & 201132

Y rôl

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â’n Tîm Rheoleiddio Diwydiant yn y De Ddwyrain mewn swydd barhaol.

Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n teimlo’n angerddol ynglŷn â’n hamgylchedd ac sy'n gallu defnyddio ei sgiliau cyfathrebu a dylanwadu cadarn i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Os ydych yn chwilfrydig ac yn hoffi datrys problemau neu os oes gennych ddiddordeb mewn technoleg newydd ac arloesi, gallai hwn fod yn gyfle ardderchog i chi. Nid oes unrhyw ddau ddiwrnod fyth yr un fath yn y rôl hon, felly bydd angen i chi fod yn hyblyg a gallu rheoli llwythi gwaith cymhleth a hyblyg ar adegau a gwneud penderfyniadau amserol ar eich liwt eich hun.

Fel Uwch Swyddog byddwch yn gyfrifol am reoleiddio safleoedd a ganiateir ar draws ystod eang o sectorau diwydiannol gan gynnwys cemegau, bwyd a diod, metelau, cynhyrchu pŵer, papur a thecstilau, sment a mwynau, tirlenwi, a thrin gwastraff. Efallai y byddwch hefyd yn cael y cyfle i fod yn rhan o gyflwyno COMAH (Rheoli Peryglon a Damweiniau Mawr), a rheoleiddio gweithgareddau sy'n defnyddio sylweddau ymbelydrol. 

Gan weithio ar eich pen eich hun neu gydag eraill, byddwch yn ymweld â'n safleoedd sy’n cael eu rheoleiddio i sicrhau bod gweithredwyr yn cydymffurfio â gofynion eu Trwyddedau Amgylcheddol. Byddwch yn datblygu cysylltiadau gweithio proffesiynol â'n gweithredwyr, yn rhoi cyngor ac arweiniad iddynt ac yn cymryd camau gorfodi cymesur os bydd angen i wella cydymffurfiaeth a chyflawni canlyniadau amgylcheddol. 

Bydd gofyn i chi hefyd ymateb i ddigwyddiadau/adroddiadau amgylcheddol a gwneud gwaith ymchwilio priodol. 

Yn ddelfrydol bydd gennych brofiad diwydiannol neu reoleiddiol/cydymffurfio o fewn sector perthnasol a bydd gennych wybodaeth fanwl am ddeddfwriaeth berthnasol.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Wayne Grimstead, wayne.grimstead@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Asesu cydymffurfiaeth mewn gosodiadau, safleoedd COMAH, safleoedd gwastraff, a safleoedd sy'n trin sylweddau ymbelydrol.
  • Cysylltu â chynghorwyr diogelwch gwrthderfysgaeth.
  • Cymryd camau priodol i gasglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
  • Arwain ein hymateb i achosion/materion mawr neu ddadleuol mewn ffordd reolaidd.
  • Cydlynu trafodaethau cyn cyflwyno cais gyda gweithredwyr a thimau trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru i gynorthwyo amrywiadau, ceisiadau ac ildiadau trwyddedu sy’n amserol ac effeithlon ac o safon dda.
  • Pan fo diffyg cydymffurfiaeth yn cael ei nodi, penderfynu ar yr opsiwn ymyrryd mwyaf priodol a’i weithredu i sicrhau bod gweithredwyr yn dychwelyd i gydymffurfiaeth cyn gynted ag y bo'n bosibl, gyda'r effaith amgylcheddol leiaf ac ystyriaeth o'r effeithiau economaidd.
  • Gweithio gyda gweithredwyr i ddatblygu strategaethau rheoliadol tymor canolig ar gyfer y gosodiadau, gan gynnwys ymgysylltu ag uwch-reolwyr a gweithredwyr mewn cwmnïau, i sicrhau buddion lluosog.
  • Bydd yn ofynnol cymryd rhan mewn grwpiau technegol/strategol neu gynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru mewn fforymau allanol, e.e. grwpiau sector rheoleiddwyr y DU, yn ôl y gofyn.
  • Cyfrannu at grwpiau sector Cyfoeth Naturiol Cymru a grwpiau sector ar draws asiantaethau yn ôl y gofyn, i gynorthwyo mabwysiadu dulliau rheoliadol cyson a lledaenu arferion da er budd yr amgylchedd.
  • Hyfforddi a mentora aelodau'r tîm.
  • Ymateb i ddigwyddiadau a chwynion.
  • Cyfrannu at ddiwylliant iechyd, diogelwch a llesiant cadarnhaol.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth a phrofiad helaeth naill ai o weithio mewn diwydiant a reoleiddir neu fel rheoleiddiwr.
  2. Dealltwriaeth dda o brosesau a phwysau busnes masnachol.
  3. Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â busnesau a reoleiddir a'r cyhoedd, gan esbonio materion cymhleth ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
  • Dymunol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf