Aelod Tîm Gweithlu Integredig

Dyddiad cau: 25/06/2025 | Cyflog: Gradd 3: £28,932 - £30,955 | Lleoliad: Trefynwy

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gweithlu Integredig (Gwy ac Wysg) / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £28,932 yn codi i £30,955 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos  (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Rhif swydd: 201044

Y rôl

Rydym yn chwilio am aelod tîm llawn cymhelliant a brwdfrydig i ymuno â'n tîm Gweithlu Integredig, sydd wedi'i leoli yn Ne Ddwyrain Cymru.

Yn y rôl ymarferol a gwerth chweil hon, byddwch yn cyflawni ystod o dasgau ymarferol ar draws safleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) — o seilwaith perygl llifogydd i safleoedd coedwigaeth a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol — gan ein helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, cadarnhaol i'r amgylchedd.

Fel aelod allweddol o'r tîm, byddwch yn cyfrannu at gyflawni gweithrediadau hanfodol sy'n cadw ein cymunedau'n ddiogel ac yn caniatáu i natur ffynnu. Mae hyn yn cynnwys y cyfle i drin peiriannau (fel cychod, tractorau a chloddwyr) a defnyddio llifiau cadwyn ac offer arbenigol arall yn ddiogel ac yn effeithiol.

Mae hon yn rôl egnïol yn gorfforol, yn bennaf yn yr awyr agored - byddwch yn gweithio ym mhob tywydd ac yn aml mewn lleoliadau heriol, anghysbell ochr yn ochr â thîm bychan o 2-4 o gydweithwyr. Mae gwaith ein tîm yn hanfodol ar gyfer gwarchod cynefinoedd, lleihau perygl llifogydd, a chryfhau ein gallu i ymateb i argyfyngau amgylcheddol pan fyddant yn codi.

Yn ogystal, byddwch yn rhan o dîm ymateb brys 24 awr, gan fod yn rhan o rota wrth gefn ac yn darparu cymorth hanfodol yn ystod digwyddiadau llifogydd neu ymatebion eraill i ddigwyddiadau.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i weithio o’r swyddfa CNC yn y lleoliad uchod a bydd trefniant gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan fyddwch yn cael eich penodi. Bydd unrhyw hyfforddiant neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Rob Lane  at Rober.Lane@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.  

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau. 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Efallai y byddwch yn defnyddio peiriannau a allai gynnwys cerbydau nwyddau trwm, peiriannau ac offer trwm ac arbenigol drud. 
  • Bydd gofyn i chi gyflawni'r holl waith yn unol â'r rheoliadau Dylunio a Rheoli Adeiladu ac yn unol â Pholisïau a Gweithdrefnau Lles, Iechyd a Diogelwch CNC. 
  • Byddwch yn gallu gweithio o luniadau technegol manwl a chynlluniau cyfleustodau gan ddarparwyr gwasanaeth. 
  • Byddwch yn cynghori'r Uwch Oruchwyliwr a'r Goruchwyliwr ar y cyfarpar a'r offer mwyaf priodol ar gyfer cyflawni gwaith, gan gynnwys y tu allan i oriau ac ymateb brys. Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod arferion gwaith diogel yn cael eu dilyn wrth ddefnyddio peiriannau, cyfarpar ac offer a byddwch yn gyfrifol am oruchwylio aelodau'r Tîm ar y safle wrth weithredu peiriannau ac offer o'r fath. 
  • Bydd gofyn i chi sicrhau bod peiriannau ac offer yr ydych yn gyfrifol amdanynt yn cael eu cynnal a'u trin yn unol â'r holl reoliadau perthnasol, er enghraifft trwydded ‘O’, LOLER a PUWER.
  • Bydd gofyn i chi gyfathrebu'n effeithiol â thrydydd partïon a fydd yn cynnwys aelodau o'r cyhoedd a thirfeddianwyr. 
  • Efallai y bydd gofyn i chi weithredu rhaglen gynlluniedig o reoli cynefinoedd ar gyfer GNG, gan gynnwys cynnal a gwirio seilwaith GNGau.
  • Byddwch yn rhan o dîm ymateb brys sy'n ofynnol i drin peiriannau, cyfarpar ac offer yn ystod ymateb i ddigwyddiadau llifogydd i alluogi asedau perygl llifogydd i weithredu'n effeithiol. 
  • Fel uwch aelod o'r tîm, byddwch yn aml yn cymryd yr awenau ar y safle ac yn mentora aelodau tîm neu gontractwyr llai profiadol.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Sawl blwyddyn o brofiad gweithredol perthnasol. 
  2. NVQ L2 Cadwraeth yr Amgylchedd neu gyfwerth. 
  3. Un neu fwy o'r canlynol. (i gynnwys tystiolaeth fel llyfr log, llyfr gwaith wedi'i gwblhau, cynlluniau arbenigol ac ati) 
  4. Gweithredwr llif gadwyn canolradd i gynnwys coed lluosog wedi'u chwythu i lawr gan y gwynt. (gan gynnwys CS34 ac ati) 
  5. Gweithrediadau winsio. 
  6. Gweithredwr peiriannau ac offer trwm arbenigol. CPCS neu drwydded gydnabyddedig arall. 
  7. Gwybodaeth a dealltwriaeth o Reoli Cadwraeth. 
  8. Profiad sylweddol o reoli digwyddiadau: Llifogydd / Tân Diwydiannol / gollyngiad olew / rheoli silt ac ati. 
  9. Sgiliau TGCh canolradd. e.e. AMX. 
  10. Trwydded yrru lawn y DU yn ddelfrydol i gynnwys categori B + E. (tynnu trelar) 
  11. Mae angen sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol ar gyfer y rôl. Mae TGAU gradd C (neu gyfwerth) mewn Saesneg a Mathemateg yn hanfodol.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf