Aelod o’r Tîm, Gweithlu Integredig

Dyddiad cau: 03/08/2025 | Cyflog: Gradd 2: £25,898 - £26,909 | Lleoliad: Ardal Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morganwg

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gweithlu Integredig (Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg) / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £25,898 yn codi i £26,909 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: Wythnos sy'n cychwyn 18/08/25

Rhif swydd: 200920

Y rôl

Rydym am benodi unigolyn brwdfrydig i ymuno â’n tîm Gweithlu Integredig, sy’n gweithio yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg yng Nghanol De Cymru.

Yn y rôl werthfawr, ymarferol hon, byddwch yn ymuno â thîm ymroddedig sy’n ymfalchïo yn ei ddiben. Byddwch yn cyflawni amrywiaeth o dasgau hanfodol, ymarferol ar draws safleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru — o seilwaith perygl o lifogydd i safleoedd coedwigaeth a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol — gan ein helpu i gadw cymunedau’n ddiogel a galluogi natur i ffynnu.

Mae hon yn rôl sy’n gorfforol egnïol, yn yr awyr agored yn bennaf — byddwch yn gweithio ym mhob tywydd ac yn aml mewn lleoliadau heriol, anghysbell ochr yn ochr â thîm bach o ddau i bedwar cydweithiwr. Fel aelod allweddol o’r tîm, bydd gofyn i chi weithredu amrywiaeth o offer llaw, fel bachau, pladuriau, ac offer pŵer fel strimwyr a llifiau polyn a pheiriannau arbenigol eraill fel peiriant torri gwair robot a pheiriant naddu coed. Byddwch hefyd yn cyflawni rôl bwysig arolygwr trwy oruchwylio’r gwaith o symud peiriannau’n ddiogel ar safle.

O ystyried natur a lleoliad ein gwaith, rydym yn chwilio am rywun sy’n hunangymhellol, yn ymwybodol o ddiogelwch, yn hyderus wrth weithio yn y dŵr neu’n agos ato, yn gyfforddus yn defnyddio offer a chyfarpar, yn gyfathrebwr effeithiol, yn gweithio’n dda o fewn amgylchedd tîm, ac yn hyderus wrth ddefnyddio TG sylfaenol. Darperir hyfforddiant llawn i’ch helpu i lwyddo.

Yn ogystal, byddwch yn rhan o dîm ymateb brys 24 awr, gan gymryd rhan mewn rota wrth gefn a darparu cymorth hanfodol yn ystod digwyddiadau llifogydd neu wrth ymateb i ddigwyddiadau eraill.
Mae’r rôl yn dilyn patrwm gwaith naw diwrnod (gyda phob yn ail ddydd Gwener i ffwrdd), a darperir cerbyd â bathodyn ar gyfer teithio i’r safle ac yn ôl. Mae trwydded yrru lawn yn hanfodol. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Gareth Jones at Gareth.Jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb (bydd manylion amser a lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw) 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau. 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Darparu gwasanaeth gwaith llaw ar gyfer cynnal a chadw asedau Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n cynnwys asedau perygl llifogydd a thir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. 
  • Defnyddio offer a chyfarpar a gweithredu peiriannau mawr a pheiriannau bach, e.e. peiriant torri gwair y gellir eistedd arno, peiriannau torri gwair o bell, peiriant torri gwair llaw a pheiriant naddu coed. 
  • Sicrhau bod peiriannau, offer a chyfarpar bach sydd o fewn eich cyfrifoldeb yn cael eu cynnal a’u gweithredu yn unol â’r holl reoliadau perthnasol – er enghraifft, y Rheoliadau Darparu a Defnyddio Cyfarpar Gwaith (PUWER).
  • Gweithio dan arweiniad goruchwylwyr, a fydd yn diffinio’r tasgau i’w cwblhau.
  • Darllen a deall cyfarwyddiadau technegol ar gyfer y gwaith, gan gynnwys gwybodaeth ddiogelwch, fel bod ein tîm yn gweithredu yn unol â’r Rheoliadau Dylunio a Rheoli Adeiladu.
  • Bydd gofyn i chi weithio mewn tîm a chyfathrebu’n effeithiol â’ch cydweithwyr ac eraill, a fydd yn cynnwys aelodau’r cyhoedd a thirfeddianwyr.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Mae hyfforddiant a/neu gymhwyster sy’n gysylltiedig ag iechyd a diogelwch, e.e. cymorth cyntaf, diogelwch dŵr, gweithio’n ddiogel yr IOSH ac ati, yn ddymunol. Darperir hyfforddiant llawn os oes angen.
  2. Cymhwysedd wrth ddefnyddio ffonau clyfar, negeseuon e-bost, Microsoft Office, Teams ac ati.
  3. Mae profiad blaenorol o ddefnyddio offer yn hanfodol. Mae profiad mewn coedwigaeth, adeiladu, amaethyddiaeth neu’r amgylchedd yn ddymunol.
  4. Mae hon yn rôl sy’n gofyn llawer yn gorfforol. Mae angen lefel resymol o ffitrwydd.
  5. Rhaid bod yn hyderus wrth weithio’n ddiogel yn y dŵr ac yn agos ato. 
  6. Sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol, ac addysg hyd at lefel TGAU neu gyfwerth. 
  7. Mae meddu ar drwydded yrru lawn y DU yn hanfodol. 

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf