Swyddog Casglu Data Amgylcheddol (Hydrometreg a Thelemetreg)

Dyddiad cau: 25/08/2025 | Cyflog: Gradd 4: £32,544 - £35,377 | Lleoliad: Hyblyg ledled De Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Hydrometreg a Thelemetreg y De / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 22/09/2025

Rhif swydd: 200888

Y rôl

Mae rôl ein Swyddog Hydrometreg a Thelemetreg yn swydd lle byddwch allan yn y maes yn bennaf, a lle byddwch ar flaen y gad o ran casglu data amgylcheddol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru. Fel rhan o dîm Hydrometreg a Thelemetreg y De o fewn adran Risg Llifogydd ac Adnoddau Dŵr y De, byddwch yn gyfrifol am gynnal a gweithredu offer monitro ar draws y rhanbarth.

Bydd eich gwaith yn cynnwys mesur paramedrau amgylcheddol allweddol—megis lefelau a llif afonydd, glawiad, a lefelau dŵr daear—gan ddefnyddio amrywiaeth o offeryniaeth arbenigol. Mae’r data rydych chi’n helpu i’w casglu yn chwarae rhan hanfodol mewn darogan llifogydd, cynllunio adnoddau dŵr, a diogelu’r amgylchedd.

Os ydych chi’n mwynhau gwaith ymarferol yn yr awyr agored ac eisiau cyfrannu’n uniongyrchol at ddiogelu cymunedau a’r amgylchedd, mae’r rôl hon yn cynnig cyfle unigryw a gwerth chweil.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Jim Hawker jim.hawker@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni

 Mae’r rôl hon yn rhan o Dîm Hydrometreg a Thelemetreg y De ac y mae wedi’i lleoli’n bennaf allan yn y maes ledled De Cymru. Byddwch chi’n ymwneud yn uniongyrchol â chasglu a chynnal data o ansawdd uchel ar swm dŵr, megis lefelau afonydd, glawiad, a mesuriadau dŵr daear.


Mae’r data hyn yn cynnal rhywfaint o waith pwysicaf Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys rheoli risg llifogydd, cynllunio adnoddau dŵr, a monitro amgylcheddol hirdymor. Mae’r tîm hefyd yn cynnal archif bwysig sy’n cyfrannu at ddealltwriaeth Cyfoeth Naturiol Cymru o sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar ein hamgylchedd dŵr.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud.

  • Sicrhau bod yr holl ddata hydrometrig yn cael ei gaffael a’i drosglwyddo mewn modd diogel, amserol a chywir i gwsmeriaid.
  • Sicrhau llesiant, iechyd a diogelwch eich hun, eich tîm a’r cyhoedd ym mhob agwedd ar weithio ym maes hydrometreg a thelemetreg, gan gynorthwyo eraill yn y tîm hydrometreg a thelemetreg ym mhob agwedd ar reoli rhwydwaith hydrometrig.
  • Graddnodi offer monitro; mesur llif sianeli; cynnal a chadw safleoedd; gosod offer monitro; mewnbynnu data i archif hydrometrig. (WISKI (Systemau Gwybodaeth Dŵr gan Kisters))
  • Gweithio yn unol â chynllun gwaith diffiniedig y tîm i fodloni amcanion y tîm a chytundebau lefel gwasanaeth sydd ar waith, ond gyda lle i newid yn weithredol ar y dydd.
  • Ymateb fel y cyfarwyddir o’r tu mewn i’r tîm i gynorthwyo wrth gydlynu gwaith chwilio am namau a thrwsio offer rhagorsafoedd telemetreg pan geir tarfu ar y gwasanaeth rhybuddio am lifogydd neu safleoedd rheoli dŵr.
  • Datblygu a chynnal pwyslais mewnol / allanol cryf ar gwsmeriaid, creu cysylltiadau effeithiol, a gweithio’n dda o fewn y tîm a chyda phartneriaid i gyflawni nodau amgylcheddol i fodloni’r blaenoriaethau sy’n ofynnol gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Cefnogi’r tîm Hydrometreg a Thelemetreg yn ôl y gofyn wrth gyflawni a datblygu cynlluniau gwaith blynyddol, safonau ac arferion gwaith trwy weithio’n agos gydag aelodau’r tîm yn ôl y gofyn.
  • Cynorthwyo wrth reoli prosiectau sy’n ymwneud â gosod safleoedd hydrometrig newydd ar raddfa fach, gan sicrhau bod holl anghenion cwsmeriaid yn cael eu bodloni mewn modd amserol, diogel ac effeithlon, ac yn unol â’r rheoliadau dylunio a rheoli gwaith adeiladu.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol arnoch, ond disgwylir y byddwch wedi cyflawni’r hyn sy’n cyfateb i flwyddyn gyntaf o radd baglor mewn pwnc perthnasol, neu y bydd gennych y lefel gyfatebol o wybodaeth.
  2. Bydd angen i chi allu cyfathrebu’n dda, gallu arddangos sgiliau rhyngbersonol effeithiol, a bod yn aelod cryf o dîm.
  3. Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gadarn o iechyd a diogelwch a rheoliadau perthnasol, gan weithio’n ddiogel yn y swydd.
  4. Dealltwriaeth o systemau gwaith hydrometreg a thelemetreg a sut mae’r tîm yn chwarae rhan yn y ffordd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli dŵr a pherygl llifogydd trwy gymhwyso egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.  
  5. Dangos agwedd hyblyg tuag at waith, a meddu ar y gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith wrth ystyried angen y tîm, gan weithio gydag eraill ac ar eich pen eich hun i ymgymryd â thasgau.
  6. Bydd y rôl yn golygu teithio’n rheolaidd i leoedd, ac oddi yno, o fewn ardal ddiffiniedig. Mae angen trwydded yrru lawn y DU.
  7. Ymwybyddiaeth sylfaenol o safonau Prydain, Ewrop a rhyngwladol sy’n ymwneud â hydrometreg a’i mecanweithiau, gan alluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu data hydrometrig priodol.
  8. Ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymru, ac agwedd gadarnhaol tuag at amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf