Swyddog Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff
Dyddiad cau: 27/07/2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Hyblyg o fewn De Orllewin Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gweithredau
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: Wythnos sy'n cychwyn 04/08/25
Rhif swydd: 200801
Y rôl
A ydych chi’n barod i fod ar flaen y gad o ran diogelu amgylchedd Cymru wrth ddylanwadu ar newid gwirioneddol yn y ffordd y mae diwydiant a gwastraff yn cael eu rheoli?
Fel Swyddog 2 yn ein tîm Rheoleiddio Gwastraff yn y De-orllewin, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â heriau amgylcheddol yn uniongyrchol – rheoleiddio safleoedd gwastraff trwyddedig, ymchwilio i weithgarwch anghyfreithlon, ac ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol. Mae pob diwrnod yn wahanol. Un funud, gallech fod yn archwilio safle gwastraff mawr i sicrhau cydymffurfedd; y funud nesaf, yn arwain ymateb i ddigwyddiad i atal llygredd.
Dyma eich cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth ddatblygu eich sgiliau o fewn sefydliad cefnogol a blaengar. Byddwch yn gweithio’n agos gyda busnesau, gan gymhwyso ein hegwyddorion rheoliadol i lywio gwelliannau, lleihau niwed amgylcheddol, a hyrwyddo arferion cynaliadwy. Bydd eich penderfyniadau’n llunio dyfodol diogelu’r amgylchedd yn ne-orllewin Cymru a thu hwnt.
Byddwch chi’n rhan o dîm hyblyg a chynhwysol, gyda chymorth gweithio hybrid, datblygiad parhaus, a diwylliant o lesiant cryf. Os oes gennych chi wybodaeth am reoleiddio neu’r sector gwastraff, sgiliau cyfathrebu rhagorol, a brwdfrydedd dros ddiogelu’r byd naturiol, rydym am glywed gennych chi.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Edward Davies edward.j.davies@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Asesu cydymffurfedd ar safleoedd gwastraff.
- Cymryd camau priodol i gasglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
- Pan nodir diffyg cydymffurfio, argymell yr opsiwn ymyrryd mwyaf priodol er mwyn sicrhau bod gweithredwyr yn dychwelyd i gydymffurfedd cyn gynted â phosibl, gyda’r effaith amgylcheddol leiaf ac ystyriaeth o’r effeithiau economaidd.
- Cynorthwyo yn y gwaith o ddatblygu strategaethau rheoleiddio tymor canolig ar gyfer safleoedd a reoleiddir.
- Ymateb i ddigwyddiadau a chwynion.
- Cyfrannu at ddiwylliant iechyd, diogelwch a llesiant cadarnhaol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth a phrofiad o naill ai gweithio mewn diwydiant a reoleiddir neu fel rheoleiddiwr.
- Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol â busnesau a reoleiddir a’r cyhoedd, gan esbonio materion ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.
- Dealltwriaeth dda o brosesau a phwysau busnes masnachol.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.