Swyddog Casglu Data Amgylcheddol
Dyddiad cau: 11 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 4, £32,544 - £35,377 | Lleoliad: Canolbarth Cymru
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Arweinydd Tim, Asesiad Amgylcheddol a Chyngor / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 21 Mai 2025
Rhif swydd: 200609
Y rôl
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymuno â'n tîm fel Swyddog Casglu Data Amgylcheddol ar gyfer Canolbarth Cymru. Byddwch yn gweithio fel rhan o Dîm Asesu a Chynghori Amgylcheddol Canolbarth Cymru. Rydym yn darparu gwasanaeth cynghori a monitro amlswyddogaethol ar draws Canolbarth Cymru. Byddwch yn hyderus yn gweithio yn yr awyr agored mewn amgylcheddau maes ac amodau tywydd gwahanol, ac weithiau mewn lleoliadau anghysbell, a byddwch yn gallu gweithio’n ddibryder mewn dŵr i gwblhau gwaith casglu data ac arolygu. Mae’r rôl amrywiol hon, sydd wedi’i lleoli yn y maes, yn cynnwys y canlynol:
- Casglu samplau ansawdd dŵr rheolaidd mewn afonydd, llynnoedd a dyfroedd ymdrochi.
- Cic-samplu ecolegol i ganfod infertebratau a diatomau.
- Cefnogi gwaith monitro daearol.
- Gyrru o safle i safle, gan gynnwys rhai llwybrau ble bydd angen cerbyd 4x4.
- Defnyddio technoleg i gasglu data yn y maes gan ddefnyddio mesurydd llaw, a mewnbynnu data i ddyfais llechen.
- Defnyddio cyfarpar fel sondiau data a chyfarpar samplu goddefol mewn afonydd.
Defnyddir y data a gesglir gan ein tîm i adrodd yn erbyn gofynion statudol, ac mae'n dystiolaeth allweddol a ddefnyddir gan y Timau Lle yng Nghymru i lywio'u penderfyniadau a'u camau gweithredu o ran rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Stephanie Meadows, stephanie.meadows@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cwblhau gwaith arolygu a chasglu data, er mwyn helpu i gyflwyno ein rhaglenni monitro fel rhan o'r cynllun busnes a chanlyniadau amgylcheddol.
- Bod yn gyfarwydd â gweithdrefnau labordy cyfredol a gofynion mewnbynnu data, a lanlwytho data yn uniongyrchol i gronfeydd data'r labordy.
- Cefnogi'r Swyddog Asesu Amgylcheddol i gynllunio ei waith samplu ei hun a gwaith samplu aelodau'r tîm ar y system rheoli gwybodaeth labordy.
- Darparu data o ansawdd da trwy waith samplu maes a sicrhau ansawdd data cychwynnol yn y maes.
- Rhoi cymorth i gydweithwyr wrth ddatblygu a chynnal sgiliau o ran technegau samplu penodol.
- Hyfforddi a goruchwylio cynorthwywyr tymhorol i gyflwyno gwaith samplu blynyddol.
- Gallu arwain tîm bychan o staff wrth gyflwyno gwaith samplu gweithredol, e.e. y swyddog â gofal dros electrobysgota.
- Dehongli a gweithredu gweithdrefnau ac egwyddorion gwyddonol a thechnegol sylfaenol mewn ffordd integredig er mwyn sicrhau bod gweithgareddau monitro yn cael eu cynnal yn unol â'r safonau gofynnol.
- Darparu cyngor samplu a chymorth i staff monitro eraill; profi a chymhwyso technegau/technolegau samplu gwell.
- Cefnogi ymchwiliadau, nodi pryderon ac ymateb i'r tîm / swyddogaethau eraill, yn unol â'n polisïau ein hunain, er mwyn cefnogi canlyniadau amgylcheddol cadarnhaol.
- Cynnal cyfarpar samplu arbenigol.
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau yn ofynnol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Profiad o waith samplu gweithredol a/neu fonitro gweithredol.
- Profiad o weithio mewn tîm.
- Profiad o reoli data a gwybodaeth.
- Trwydded yrru lawn sy'n gyfredol a dilys yn y DU i yrru cerbydau fflyd CNC (ceir a faniau).
- Gallu nofio ac yn hyderus wrth weithio mewn dŵr (hanfodol).
- Dealltwriaeth resymol o ecoleg ddaearol, ecoleg dŵr croyw, ansawdd dŵr, pysgodfeydd neu wyddor daear.
- Cymwyseddau TG; Profiad o ddefnyddio MS Office a chronfeydd data
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
- Dymunol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.