Dyddiad cau: 06/08/2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Llandrindod Wells

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm yr Amgylchedd  / Gweithrediadau De Powys

Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 18/08/2025

Rhif swydd: 200594, 200592 ENV

Y rôl

Camwch i flaen y gad o ran diogelu’r amgylchedd yn un o dirweddau mwyaf ysblennydd Cymru. Fel Swyddog yr Amgylchedd i Cyfoeth Naturiol Cymru, chi fydd y gweithiwr proffesiynol i droi ato ar gyfer cadw afonydd, ffermydd a safleoedd gwarchodedig de Powys yn iach, a sicrhau eu bod yn cydymffurfio.

•    Yr ymatebydd cyntaf. Bydd gofyn i chi ymchwilio i adroddiadau am ddigwyddiadau a llygredd, casglu tystiolaeth a, phan fo angen, cymryd camau gorfodi pendant i unioni pethau’n gyflym.
•    Hyrwyddo cydymffurfedd. Byddwch yn gweithio’n ymarferol gyda thirfeddianwyr, busnesau a deiliaid trwydded, gan eu harwain i fodloni (neu ragori ar) safonau cyfreithiol wrth gydbwyso pwysau’r byd go iawn.
•    Mentora ac ysgogi. Byddwch yn rhannu eich gwybodaeth dechnegol â thîm talentog, amlddisgyblaethol, gan helpu cydweithwyr i dyfu a chyflawni canlyniadau mwy craff a chydgysylltiedig.
•    Meithrin partneriaethau cryf. O Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Afon Gwy ac Afon Wysg i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, byddwch yn cydweithio â chyrff cyhoeddus, cyrff anllywodraethol a chymunedau lleol i lunio prosiectau sy’n diogelu’r lleoedd eiconig hyn.
•    Llunio ein rhaglen. Byddwch yn bwydo eich mewnwelediadau rheng flaen yn syth i’n cynlluniau cydymffurfio a’n trafodaethau polisi, gan sicrhau ein bod yn canolbwyntio ymdrech lle mae’n cael yr effaith fwyaf.

Os ydych chi’n barod i gyfuno datrys problemau yn y maes â dylanwad strategol—ac os ydych chi’n frwdrwydig dros warchod treftadaeth naturiol Cymru—y rôl hon yw eich antur nesaf chi. Ymunwch â ni a helpwch i gadw amgylchedd Canolbarth Cymru yn ffynnu am genedlaethau i ddod.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru yn y lleoliad uchod, a bydd patrwm gweithio hybrid addas yn cael ei gytuno pan gewch eich penodi. Trefnir unrhyw gyfarfodydd wyneb yn wyneb ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Jenny Phillips at Jenny.Philips@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau. 

Amdanom ni

Bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl arweiniol i wella llesiant drwy reoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy drwy gylch gwaith y tîm.

Mae’r rôl Swyddog yr Amgylchedd hon o fewn ardal Tîm yr Amgylchedd De Powys, sy’n un o’r tri Thîm yr Amgylchedd yng Nghanolbarth Cymru sy’n canolbwyntio ar reoleiddio amgylcheddol a rheoli safleoedd dynodedig, gan gyflawni rhaglen o waith wedi’i gynllunio.  Mae’r tîm yn cwmpasu de Rhaeadr Gwy, gan ddefnyddio’r A44 fel ffin, ac i lawr i Ystradgynlais uwchlaw Cwm Tawe. Mae hyn yn cynnwys Bannau Brycheiniog, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Afon Gwy, a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Afon Wysg ynghyd â llawer o safleoedd dynodedig gwerthfawr mewn ardal wirioneddol syfrdanol.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Gweithio gydag amrywiaeth eang o gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan gynnwys deiliaid trwydded, tirfeddianwyr, busnesau, cyrff cyhoeddus, grwpiau hamdden, gwirfoddolwyr a sefydliadau’r trydydd sector, er mwyn galluogi eraill i reoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy. 
  • Sefydlu, cynnal a chynghori partneriaid i gefnogi’r gwaith o ddatblygu prosiectau a chynlluniau partneriaeth o’r cysyniadau i’r camau gweithredu. Bydd y prosiectau hyn yn darparu canlyniadau sydd wedi’u halinio â’r blaenoriaethau o ran lle. 
  • Asesu cydymffurfedd â deddfwriaeth berthnasol, amodau’r drwydded neu gydsyniad. Pan nodir achos o beidio â chydymffurfio, penderfynu ar yr opsiwn ymyrryd mwyaf priodol a’i roi ar waith er mwyn adfer cydymffurfedd cyn gynted â phosibl. Cymryd camau gweithredu priodol ar gyfer casglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig. 
  • Llunio caniatadau a chydsyniadau dilys ar gyfer gweithrediadau sy’n effeithio ar safleoedd gwarchodedig. Ar gyfer yr holl feysydd gwaith, llunio’r cyngor, ymchwiliadau, dogfennau ac adroddiadau gofynnol i safonau ansawdd cytunedig, er mwyn ategu penderfyniadau gweithredol a rheoli, hysbysiadau safleoedd gwarchodedig, ymholiadau cyhoeddus, achosion llys ac ati, fel bod gwybodaeth, tystiolaeth a buddiannau Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu cyflwyno’n fanwl gywir ac yn effeithiol. 
  • O fewn eich maes arbenigedd, darparu cyngor ac ymatebion proffesiynol lleol mewn perthynas ag ymgynghoriadau gan dimau cynllunio a thrwyddedu. Cynnal cydberthnasau gwaith gyda’r timau hyn trwy gysylltu’n rheolaidd. 
  • Monitro cynnydd gwaith, a all gynnwys dehongli data, rheoli contractwyr, cyflwyno prosiectau neu sicrhau cydymffurfedd â chytundebau rheoli neu hysbysiadau cyfreithiol statudol. Nodi a chefnogi unrhyw gamau adfer i sicrhau y darperir canlyniadau.
  • Chwarae rôl o fewn Gwasanaeth Rheoli Digwyddiadau gwydn yn Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n dilyn prosesau’r sefydliad, er mwyn sicrhau ymatebion effeithiol, amserol a diogel i ddigwyddiadau.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

1.    Gwybodaeth ddigonol dda am ddulliau rheoli’r amgylchedd, neu o feysydd amaethyddiaeth, pysgodfeydd, cadwraeth neu fioamrywiaeth, gyda phrofiad penodedig yn un o’r meysydd penodol hyn o gylch gwaith y tîm. 
2.    Dealltwriaeth o sut y gall y timau amlswyddogaethol hyn gyfrannu at reoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy.
3.    Sicrhau datblygiad, arbenigedd a chymhwysedd proffesiynol a phersonol parhaus, trwy ddulliau dysgu ffurfiol ac anffurfiol ac ardystio. 
4.    Sgiliau hunanreoli a threfnu cadarn ac effeithiol. 
5.    Y gallu i ddylanwadu, trafod ac ennyn cydweithrediad gan eraill. Mae meddu ar brofiad o ymdrin yn llwyddiannus â phobl / sefyllfaoedd anodd yn bwysig.
6.    Y gallu i ddefnyddio systemau TG arbenigol, megis systemau gwybodaeth ddaearyddol neu gymwysiadau Cyfoeth Naturiol Cymru sydd wedi’u haddasu. 
7.    Y gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf