Aelod Tîm Gweithlu Integredig 2
Dyddiad cau: 28 Ebrill 2025 | Cyflog: Gradd 2: £25,898 - £26,909 y flwyddyn | Lleoliad: Tregaron a disgwylir teithio ledled Canolbarth Cymru
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gweithlu Integredig / Gweithrediadau Canolbarth Cymru
Cyflog cychwynnol: £25,898 yn codi i £26,909 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos, yn gweithio pythefnos o 9 diwrnod (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 200507
Y rôl
Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm Gweithlu Integredig yn y Canolbarth. Fel aelod gwerthfawr o’r tîm, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â staff gweithlu proffesiynol ymroddedig, ac yn cyfrannu at gynnal a gwella asedau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Bydd eich rôl yn cynnwys amrywiaeth o dasgau ar draws Canolbarth Cymru, o gynnal a chadw argloddiau amddiffyn rhag llifogydd hanfodol a gollyngfeydd i gefnogi prosiectau coedwigaeth a gwarchodfeydd natur, yn dibynnu ar anghenion busnes.
Agwedd allweddol y rôl hon yw darparu gwasanaeth ymateb brys proffesiynol. Fel rhan o hyn, byddwch yn cymryd rhan mewn rota wrth gefn ac yn darparu cymorth y tu allan i oriau. Mae CNC yn Ymatebwr Categori 1 o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004. Bydd eich cyfraniad yn hollbwysig er mwyn diogelu cymunedau a'r amgylchedd.
Mae'r swydd hon yn cynnig patrwm gweithio pythefnos o 9 diwrnod, (rhwng 4 diwrnod a 5 diwrnod bob yn ail wythnos), gan roi seibiant i chi bob yn ail ddydd Gwener.
Byddwch yn cydweithio'n agos â chydweithwyr o fewn eich tîm sy'n ymwneud â thasgau tebyg, ac ar yr un pryd yn cael y cyfle i weithio'n annibynnol yn y maes.
Fel rhan o’ch rôl, byddwch yn rhyngweithio ag aelodau’r cyhoedd ac unigolion o sefydliadau eraill, gan fynd i’r afael ag ymholiadau sylfaenol a chynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru mewn modd proffesiynol a chyfeillgar.
Bydd eich gwaith yn mynd â chi i amrywiaeth o safleoedd, (h.y.) amgylcheddau awyr agored. Gallai’r tywydd fod yn heriol yn rhai o’r lleoliadau hyn felly byddwch yn cael hyfforddiant priodol ac Offer Diogelu Personol (PPE) i gyflawni eich dyletswyddau’n ddiogel ac yn hyderus.
Mae’r rôl hon yn gofyn am deithio i wahanol leoliadau, gan gynnwys swyddfeydd a safleoedd CNC, ar draws Canolbarth Cymru.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Scott Mountford at scott.mountford@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn bersonol. Bydd y lleoliad yn cael ei gadarnhau yn nes ymlaen.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Byddwch yn gwneud gwaith corfforol i gynnal a chadw asedau CNC sy’n cynnwys asedau perygl llifogydd a thir a reolir gan CNC.
- Bydd gennych y gallu i weithredu offer fel offer llaw a all gynnwys llifiau cadwyn.
- Bydd gennych y gallu i weithredu fel swyddog diogelwch ar gyfer peiriannau (banksman) a swyddog hongian a rheoli llwythi (slinger/signaller).
- Bydd gennych y gallu i ddeall cynlluniau technegol a chyfleustodau a gweithredu yn unol â'r Rheoliadau Dylunio a Rheoli Adeiladu.
- Byddwch yn defnyddio offer a pheiriannau bach h.y. Aebi/Reform, peiriannau torri gwair a ddefnyddir ar droed, peiriannau malu coed ac ati.
- Byddwch yn rhan o dîm ymateb i ddigwyddiadau.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Trwyddedau Gweithredwr Perthnasol ar gyfer offer a pheiriannau neu’ch bod yn gweithio tuag at gyflawni hyn.
- IOSH Gweithio'n Ddiogel.
- Cymhwysedd TGCh (lefel sylfaenol).
- Cymorth Cyntaf Brys +F.
- Mae profiad blaenorol o weithrediadau coedwigaeth, adeiladu, amaethyddol, amgylcheddol neu beiriannau yn ddymunol.
- Mae hon yn rôl gorfforol feichus felly mae angen lefelau rhesymol o ffitrwydd.
- Hyderus yn gweithio yn y dŵr ac yn agos ato.
- Mae angen sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol ar gyfer y rôl. Mae TGAU gradd C (neu gyfwerth) mewn Saesneg a Mathemateg yn hanfodol.
- Trwydded yrru lawn y DU yn ddelfrydol i gynnwys categori B + E (tynnu trelar).
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.