Swyddog Asesu Amgylcheddol – Pysgodfeydd

Dyddiad cau: 20/08/2025 | Cyflog: Gradd 5: £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Bwcle

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Asesu a Chynghori Amgylcheddol / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £36,246  yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 09/09/2025 

Rhif swydd: 200439

Y rôl

Ar gyfer ein rôl Swyddog Asesu Amgylcheddol Pysgodfeydd, rydym yn chwilio am chwaraewr tîm brwdfrydig a threfnus i ymuno â’n Tîm Asesu a Chyngor Amgylcheddol yng ngogledd-ddwyrain Cymru.


Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol yn Rhaglen Asesu Afon Dyfrdwy – menter monitro hirdymor sy’n canolbwyntio ar eogiaid a brithyllod y môr yn afon Dyfrdwy. Mae’r rhaglen unigryw hon yn cynhyrchu data hanfodol ar nifer a bioleg y rhywogaethau mudol pwysig hyn, gan helpu i lunio dyfodol rheoli a chadwraeth pysgodfeydd yng Nghymru.


Fel rhan o dîm cydweithredol mewn lle, byddwch yn ymwneud â chymysgedd o waith maes a thasgau swyddfa, gan gynnwys dal a thagio pysgod drwy gydol y flwyddyn (gan gynnwys monitro eogiaid llawndwf a gleisiaid), arolygon electrobysgota o bysgod ifanc (silod mân a phariaid), cynnal a rheoli cronfa ddata datganiadau daliadau pysgotwyr, darllen cloriannau pysgod, dadansoddi biolegol, prosesu/dadansoddi data, a chynhyrchu adroddiadau technegol.


Rydym yn chwilio am rywun sy’n trin data’n fanwl gywir, sydd ag agwedd ymarferol, sy’n gorfforol ffit, ac sy’n hyderus yn gweithio mewn amodau awyr agored sydd weithiau’n heriol – gan gynnwys trapio gleisiaid yn y nos. Mae ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch yn hanfodol, a bydd profiad blaenorol mewn technegau samplu pysgod neu fonitro pysgodfeydd yn fantais fawr. Mae gwybodaeth ymarferol am drin pysgod ac arferion gorau lles hefyd yn ddymunol iawn.


Gyda gwelliannau mewn technoleg monitro pysgod, byddwn yn anelu at ddefnyddio systemau fel VAKI, ARIS a PITT yn y blynyddoedd i ddod. Bydd hyn yn gwella hyder yn y data rydyn ni’n ei gasglu. Byddai profiad yn y systemau hyn neu unrhyw dechnolegau monitro pysgod eraill yn fanteisiol.


Mae’r rôl hon yn cynnig y cyfle i gyfrannu at ddiogelu ecosystemau dŵr croyw Cymru a gweithio ar raglen sydd â gwir effaith hirdymor.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Rob Evans robert.evans@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal yn swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru ym Mwcle, CH7 3AJ​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni

Mae’r rôl hon yn rhan o’n Tîm Asesu a Chynghori Amgylcheddol yng ngogledd-ddwyrain Cymru – grŵp amlddisgyblaethol sy’n gweithio ar draws pysgodfeydd, ecoleg ddaearol a dŵr croyw, ansawdd dŵr, a gwyddor y ddaear.

Byddwch yn canolbwyntio ar fonitro pysgodfeydd yn nalgylch afon Dyfrdwy, gyda chyfleoedd i gefnogi prosiectau ledled Gogledd Cymru. Gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr ym maes rheoleiddio amgylcheddol a chadwraeth, byddwch yn helpu i gasglu a dadansoddi data sy’n llywio’n uniongyrchol sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn amddiffyn ac yn rheoli’r amgylchedd.

Ymunwch â thîm medrus ac angerddol sy’n cyflwyno tystiolaeth sy’n sbarduno canlyniadau amgylcheddol yn y byd go iawn – o lunio polisi i olrhain effaith ein gwaith ar afonydd, cynefinoedd a rhywogaethau.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Ymgymryd â gwaith gweinyddu system rheolaidd ac ad hoc, sicrhau ansawdd data, dadansoddi ac adrodd.
  • Darparu cyngor a chanllawiau technegol arbenigol ar fonitro i gwsmeriaid mewnol ac allanol o ystod o ffynonellau, gan helpu i sicrhau bod penderfyniadau’n seiliedig ar farn dechnegol gadarn, yn unol â deddfwriaeth gyfredol a’r arferion gorau.
  • Llunio adroddiadau technegol sy’n dadansoddi ac yn dehongli setiau data lleol a chenedlaethol ar gyfer gwaith gweithredol, ymchwiliadau cyhoeddus, apeliadau llys ac ati.
  • Helpu i sicrhau bod data monitro CNC yn cael ei gasglu a’i storio i’r safonau ansawdd a nodwyd yn neddfwriaeth Ewrop a’r DU a pholisïau CNC.
  • Helpu’r Uwch-swyddog Asesu’r Amgylchedd a’r arweinydd tîm wrth gynllunio, trefnu ac olrhain yr arolwg blynyddol a’r rhaglenni monitro mewn perthynas â gweithgareddau samplu.
  • Cynghori ar waith monitro/arolygu afreolaidd arbenigol a dadansoddi data, gan gynnwys cyfrannu at y gwaith o gyflenwi mesurau gweithredol.
  • Cyfrannu at y gwaith o gyflenwi rhaglenni arolygu a monitro.
  • Arwain, cynghori a chefnogi cwsmeriaid mewnol ac allanol, gan sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail gwybodaeth a data technegol cadarn.
  • Helpu i ddatrys problemau lleol drwy ddarparu cyngor gwyddonol a thechnegol / dehongli data monitro.
  • Helpu i ddatblygu a rhoi dulliau adrodd a monitro newydd ar waith, gan gynnwys cydweithio â sefydliadau partner ar lefel leol.
  • Ymateb i geisiadau am wybodaeth sy’n ymwneud â data monitro o fewn terfynau amser penodol.
  • Cynnal a chaffael cyfarpar samplu arbenigol
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Bydd gennych gymhwyster lefel gradd mewn maes pwnc perthnasol neu’r lefel gyfwerth o wybodaeth (h.y. pysgodfeydd).
  2. Profiad o ddadansoddi samplau, monitro/gwyliadwriaeth yn y maes, dehongli ac adrodd ar ddata amgylcheddol, a gwybodaeth ymarferol am ystod eang o weithgareddau a methodolegau monitro.
  3. Arbenigedd mewn monitro pysgodfeydd.
  4. Sgiliau ysgrifennu adroddiadau rhagorol a gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol.
  5. Profiad o fonitro systemau rheoli data, yn ogystal â dealltwriaeth ymarferol o ddatrysiadau ac arferion monitro technegol.
  6. Sgiliau dadansoddol da, gan gynnwys ystadegau, a gwybodaeth am drin data, gan gynnwys systemau gwybodaeth ddaearyddol (GIS).
  7. Cyfathrebwr ardderchog â sgiliau trefnu da.
  8. Y gallu i ymgymryd â gwaith maes mewn amgylchedd sy’n heriol yn gorfforol o bryd i’w gilydd.
  9. Gallu nofio ac yn hyderus wrth weithio mewn dŵr.
  10. Trwydded yrru lawn sy’n gyfredol a dilys yn y DU i yrru cerbydau fflyd CNC (ceir a faniau).

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf