Dyddiad cau: 03/09/2025 | Cyflog: Gradd 4: £32,544 - £35,377 | Lleoliad: Hyblyg yng Ngogledd Cymru

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Rheoli Hydroleg, Geomorffoleg ac Adnoddau Dŵr / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 22/09/2025

Rhif swydd: 200315 

Y rôl

Fel hydrolegydd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gynorthwyo timau mewnol a rhanddeiliaid allanol gyda chymorth technegol ar faterion hydroleg a rheoli adnoddau dŵr.

Byddwch chi’n gweithio gyda data hydrolegol o’r byd go iawn, gan eu dadansoddi a’u dehongli i lywio penderfyniadau hollbwysig ynghylch trwyddedau tynnu dŵr, ymateb i sychder, a dadansoddi digwyddiadau ar ôl llifogydd. Byddwch hefyd yn cyfrannu at weithrediad effeithiol Cynllun Rheoleiddio Afon Dyfrdwy, gan helpu i sicrhau rheoli dŵr cynaliadwy yn un o ddalgylchoedd pwysicaf y DU.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i adeiladu sylfaen gref mewn hydroleg weithredol a rheoli adnoddau dŵr. Byddwch yn rhan o dîm cefnogol, gan ennill profiad ymarferol a dysgu gan arbenigwyr uwch wrth i chi gynorthwyo gyda phrosiectau mwy cymhleth ac uchel eu proffil. Rydym yn croesawu ceisiadau gan raddedigion diweddar sydd â gradd mewn pwnc gwyddor amgylcheddol neu ffisegol perthnasol (megis daearyddiaeth ffisegol, gwyddor amgylcheddol, neu hydroleg). Os ydych chi’n awyddus i ddechrau gyrfa ystyrlon sy’n cyfuno gwyddoniaeth, data ac effaith amgylcheddol, gallai hon fod y rôl berffaith i chi.


I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Rob Bissell (robert.bissell@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk) neu Lynsey Turvey (lynsey.turvey@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk)

Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb yn swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru ym Mwcle, CH7 3AJ.  

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni

Byddwch yn ymuno â’r Tîm Rheoli Hydroleg, Geomorffoleg ac Adnoddau Dŵr yng Ngogledd Cymru, o fewn ein Hadran Rheoli Llifogydd a Dŵr. Rydym yn dîm amlswyddogaethol sy’n cwmpasu Gogledd a Chanolbarth Cymru. Byddwch yn gweithio ar rai o afonydd mwyaf eiconig Cymru, gan gynnwys y Ddyfrdwy, Conwy a Hafren. Bydd y rôl yn cynnwys cymysgedd o waith ar y safle ac yn y swyddfa, a byddwch yn cael y cyfle i ddarparu atebion ymarferol a fydd yn ein helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Darparu cymorth cywir ac amserol ar gyfer penderfyniadau gweithredol a phroblemau amgylcheddol trwy ddadansoddi a dehongli data a pharatoi adroddiadau o wybodaeth ac ymchwiliadau maes.
  • Cyfrannu at ymchwiliadau, nodi pryderon a darparu ymateb technegol lefel gyntaf i’r tîm / swyddogaethau eraill, yn unol â pholisi Cyfoeth Naturiol Cymru, i helpu i ddylanwadu ar ganlyniadau amgylcheddol a’u cefnogi.
  • Gwirio cydymffurfedd â safonau amgylcheddol a lefelau gwasanaeth, a chynnal ymchwiliad rheng flaen, e.e. archwilio, monitro, gwaith arolygu, i gynnal a chefnogi’r cynllun busnes a chanlyniadau amgylcheddol.
  • Cyfrannu at weithredu cynlluniau brys yn llwyddiannus gan gynnwys rheoli sychder a llifogydd.
  • Cynhyrchu adroddiadau monitro sefyllfa dŵr a sychder gan ddefnyddio data hydrometrig a gwybodaeth a ddarperir gan gwmnïau dŵr.
  • Cydlynu ymatebion i ohebiaeth ac ymholiadau, gan sicrhau bod gwybodaeth fewnol ac allanol yn cael ei phrosesu’n effeithiol a’i holrhain i sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a gweithdrefnau Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Datblygu a chynnal ffocws cryf ar gwsmeriaid i sicrhau bod cydberthnasau effeithiol yn cael eu meithrin a gweithio mewn partneriaeth er mwyn gwireddu nodau amgylcheddol.
  • Cynnal a datblygu systemau storio ac adalw gwybodaeth a sicrhau bod gwybodaeth yn gyfredol ac ar gael yn hawdd i hwyluso llif gwaith adrannol.
  • Cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu cynlluniau gwaith tîm, a gweithredu unrhyw gamau y cytunwyd arnynt er mwyn cyfrannu at gynllunio a chyflawni busnes.
  • Cynnal arferion gorau iechyd a diogelwch drwy hyrwyddo ymwybyddiaeth yn weithredol a sicrhau ein bod yn darparu arferion gweithio diogel i gydymffurfio â pholisïau a safonau Asiantaeth yr Amgylchedd.
  • Cynorthwyo’r gwaith o reoli afon Dyfrdwy i sicrhau ymateb effeithiol, amserol a diogel i ddigwyddiadau a gofynion gweithredol eraill sy’n gysylltiedig â rheoli llif a rhybuddion llifogydd yn y dalgylch.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gradd mewn pwnc gwyddonol perthnasol (e.e. daearyddiaeth ffisegol, gwyddoniaeth amgylcheddol neu beirianneg sifil).
  2. Aelod o gorff proffesiynol priodol (e.e. Sefydliad Siartredig Rheoli Dŵr a’r Amgylchedd, a Sefydliad y Peirianwyr Sifil: Cymru) neu’n barod i weithio tuag at aelodaeth.
  3. Profiad gwaith perthnasol mewn hydroleg / rheoli adnoddau dŵr / rheoli risg llifogydd / dadansoddi a phrosesu data ystadegol.
  4. Y gallu i ddangos dealltwriaeth sylfaenol o faterion hydrolegol neu faterion cysylltiedig, e.e. paramedrau hydrolegol gwahanol, mathau o ddata hydrolegol, dulliau mesur data ac ati.
  5. Gallu cyfrifiadurol, profiad o ysgrifennu adroddiadau technegol a thrin data.
  6. Trwydded yrru lawn y DU.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf