Peiriannydd Rheoli Perygl Llifogydd
Dyddiad cau: 28 Ebrill 2025 | Cyflog: Gradd 5, £36,246 - £39,942 | Lleoliad: Hyblyg yng Ngogledd Orllewin Cymru
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Peirianneg Integredig Gogledd Orllewin / Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 201333
Y rôl
Mae CNC yn cynnal dros 4000 o asedau perygl llifogydd yng Nghymru sy’n cynnwys mwy na 500km o amddiffynfeydd rhag llifogydd megis argloddiau a waliau llifogydd. Mae gennym gyfle cyffrous yn y tîm ym maes peirianneg lle byddwch yn sicrhau bod ein hasedau perygl llifogydd yn perfformio i'r lefelau sy’n angenrheidiol ar hyn o bryd a’u bod yn gallu addasu i heriau newid hinsawdd yn y dyfodol.
Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â pheirianwyr eraill yn y tîm i helpu i reoli perygl llifogydd. Bydd deiliad y swydd yn rhoi gwasanaeth cynllunio technegol ac iechyd a diogelwch i'n timau maes Gweithlu Integredig a chontractwyr wrth gyflawni gwaith cynnal a chadw asedau perygl llifogydd a gwelliannau cyfalaf.
Byddwch yn cyflawni rôl Dylunydd o dan Reoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli (CDM) 2015).
Byddwch yn datblygu, yn profi ac yn adolygu'r cynlluniau ymateb 'ar lawr gwlad' ar gyfer ymdrin ag argyfyngau llifogydd.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â James West ar James.West@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn bersonol. Bydd y lleoliad yn cael ei gadarnhau yn nes ymlaen.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Yn gyfrifol am lunio’r rhaglen cynnal a chadw asedau perygl llifogydd flynyddol.
- Yn arwain o ran cynllunio’r broses o reoli risgiau ar gyfer y gwaith.
- Llunio ac adolygu cynlluniau / llawlyfrau wrth gefn ac ymateb i lifogydd, a chynllunio ymarferion ymateb i ddigwyddiadau.
- Datblygu gweithdrefnau ar gyfer gweithredu asedau yn ystod llifogydd.
- Arwain y gwaith o ganfod cwmpas, cyfiawnhau, pennu cost, a chyflawni prosiectau gwella asedau penodol.
- Bod yn gyfrifol yn anuniongyrchol am gyllideb prosiectau refeniw a chyfalaf.
- Mewn partneriaeth â’r gwasanaeth Caffael, darparu gwasanaethau fframwaith a chyflenwadau o gynhyrchion.
- Goruchwylio a rheoli contractwyr.
- Cysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys: awdurdodau lleol, perchnogion tir, a grwpiau amgylcheddol, gan ganolbwyntio ar y cwsmer.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Mae gradd mewn Peirianneg Sifil neu gymhwyster cyfatebol yn ddymunol, ynghyd â thystysgrif adeiladu NEBOSH. HND/HNC mewn ‘sifilau’ neu gymhwyster cyfatebol yw’r gofyniad sylfaenol, ynghyd â phrofiad cysylltiedig. Dylai’r ymgeisydd hefyd fod yn gweithio tuag at statws Peiriannydd Corfforedig neu ddynodiad proffesiynol priodol arall.
- Gwybodaeth eang am arferion adeiladu a dylunio peirianneg sifil, gyda’r gallu i ddatblygu a gweithredu atebion arloesol i broblemau.
- Yn y swydd hon, bydd disgwyl ichi ategu’r arferion gorau o ran iechyd a diogelwch drwy fynd ati’n weithredol i hyrwyddo ymwybyddiaeth a sicrhau y darperir arferion gweithio diogel i gydymffurfio â pholisïau a safonau CNC.
- Rheoli Prosiectau: byddai cymhwyster ymarferydd Prince2 yn ddymunol.
- Sgiliau syrfeo cymwys. Byddai sgiliau AutoCAD a phrofiad o Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) hefyd yn ddymunol.
- Mae cyfranogi mewn gwaith ar draws timau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i greu partneriaethau er mwyn cyflawni amcanion perygl llifogydd CNC yn elfen hanfodol o’r swydd.
- Bod ar restr ddyletswydd ymateb i ddigwyddiadau CNC.
- Gallu ymgymryd â ‘Rôl y Cleient a’r Dylunydd’, er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Dylunio a Rheoli Adeiladu (CDM) 2015.
- Sgiliau TGCh a threfnu da.
- Trwydded yrru lawn y DU.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.