Dyddiad cau: 29/06/2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988| Lleoliad: Hyblyg o fewn Ardal y Tîm (Ynys Môn, Conwy, Gogledd Gwynedd)

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r hawl i gau'r swydd hon cyn y dyddiad cau a hysbysebir

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Rheoli Tir Gogledd Orllewin 1 / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: TBC

Rhif swydd: 200117

Y rôl

Fel Uwch Swyddog Rheoli Tir, byddwch yn arwain a reoli tir yn gynaliadwy ar draws tirweddau godidog Ynys Môn, Conwy, a Gogledd Gwynedd. Byddwch yn goruchwylio safleoedd allweddol ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, gan reoli gwaith cadwraeth hanfodol a chynllunio ecolegol.

Mae hon yn rôl ymarferol ac amrywiol lle nad oes dau ddiwrnod yr un fath — o gynnal arolygon diogelwch coed ar hyd priffyrdd cyhoeddus i gynghori ar adfer cynefinoedd, ymgysylltu â chymunedau lleol, ac arwain contractau sy'n amddiffyn ein treftadaeth naturiol.

Chi fydd yr arbenigwr i droi ato ar gyfer eich ardal, gan weithio gyda swyddogion technegol ymroddedig ac arweinydd tîm cefnogol i gyflawni canlyniadau ar lawr gwlad sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol. Os ydych chi'n ffynnu yn yr awyr agored, yn wych gyda phobl, ac yn gwybod sut i gydbwyso cadwraeth natur â rheoli tir yn ymarferol, gallai hwn fod yn gam nesaf perffaith i chi.

Rydym yn cynnig gweithio hyblyg ac amgylchedd cydweithredol, lle mae eich gwaith yn wirioneddol bwysig ac yn cael ei yrru gan ein cenhadaeth.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Richard Berry at richard.berry@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, penodir o fewn pedair i wyth wythnos i’r dyddiad cau. 

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Bod yn arweinydd technegol wrth ddatblygu'r tîm a chyflwyno cynigion ar gyfer cynllunio busnes.
  • Darparu cymorth technegol ar gyfer cynlluniau gwaith ehangach.
  • Pan fo’n briodol, gweithredu fel arweinydd CNC ar gyfer materion technegol penodol.
  • Cymryd rhan mewn grwpiau technegol/strategol CNC neu gynrychioli CNC ar fforymau allanol.
  • Rhyngweithio ag arbenigwyr eraill yn CNC i hyrwyddo arfer gorau cyson yn y diwydiant.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Profiad o weithio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau rheoli tir.
  2. Gwybodaeth a phrofiad helaeth o reoli cadwraeth, safleoedd dynodedig, a phob agwedd ar ymarfer coedwigaeth, gan gynnwys rhwymedigaethau tir.
  3. Gwybodaeth am reoli coedwigoedd yn gynaliadwy, UKWAS a chynlluniau ardystio coedwigoedd.
  4. Sgiliau hyfforddi a mentora.
  5. Profiad o weithgareddau cyswllt cymunedol ac ymgysylltu â'r cyhoedd.
  6. Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â busnesau a reoleiddir a'r cyhoedd, gan egluro materion cymhleth ac ennyn cefnogaeth trwy ddylanwadu.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol:   Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.  

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
External logos for Disability Confident, Carer Confident and CIW Excellence Award

Diweddarwyd ddiwethaf