Cynghorydd Cynllunio Datblygiad

Dyddiad cau: 11 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 5, £32,544 - £35,377 | Lleoliad: Bangor

 

 

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Gwasanaeth Cyngor Cynllunio Datblygiad / Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i  £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: Wythnos sy'n cychwyn 2 Mehefin 2025

Rhif swydd: 200030

Y rôl

Oes gennych chi brofiad o adolygu adroddiadau amgylcheddol neu weithio o fewn y broses Cynllunio Gwlad a Thref ac eisiau'r cyfle i ddylanwadu ar ddatblygiad a rheolaeth gynaliadwy adnoddau naturiol yng Nghymru?

Mae ein Gwasanaeth Cyngor Cynllunio Datblygiad yn gyfrifol am ddarparu cyngor amgylcheddol arbenigol a dylanwadol i Awdurdodau Cynllunio i gefnogi eu penderfyniadau.

Rydym yn chwilio am berson ag angerdd gwirioneddol, chwaraewr tîm sy’n hyderus, yn frwdfrydig ac yn drefnus gyda sgiliau trafod a dylanwadu rhagorol i ymuno â’n tîm.

Byddwch yn gyfrifol am asesu a chynghori ar effeithiau amgylcheddol ceisiadau cynllunio arfaethedig.  Byddwch yn ystyried ystod eang o bynciau gan gynnwys perygl llifogydd, ansawdd dŵr, tir halogedig, safleoedd cadwraeth dynodedig, Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop a thirwedd.  Byddwch yn gallu defnyddio arbenigwyr technegol ar draws ein sefydliad i'ch cefnogi yn eich gwaith.

Mae'r gwaith yn amrywiol a byddwch yn ymdrin ag amrywiaeth o wahanol fathau o ddatblygiadau gan gynnwys ynni adnewyddadwy, tai, adfywio economaidd a datblygu amaethyddol.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Bryn Jones ar Bryn.Jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb (bydd manylion amser a lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw) 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Creu cyngor allanol ar gyfer ymholiadau cyn cais ac ymgynghoriadau rheoli datblygu (gyda chymorth yr Uwch-gynghorydd Cynllunio Datblygu / Cynghorydd Cynllunio Datblygu 1 ar gynigion datblygu sy’n dechnegol gymhleth), gan sicrhau bod cyngor CNC yn gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth, ac yn cael ei ddarparu yn unol â therfynau amser
  • Cyfrannu at y broses o baratoi gwybodaeth mewn perthynas â heriau yn erbyn cyngor CNC  
  • Datblygu a chynnal cydberthnasau effeithiol gyda chwsmeriaid
  • Cynnal cofnodion archwiliadwy o gamau gweithredu a chanlyniadau er mwyn cyfiawnhau’r holl ofynion cyfreithiol a threfniadol a dangos eu bod wedi cael eu bodloni
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth am dechnegau a dulliau ar gyfer asesu’r effeithiau amgylcheddol
  2. Gwybodaeth am brosesau cynllunio datblygu.
  3. Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â chwsmeriaid, gan esbonio materion cymhleth ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.
  4. Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth a sefyllfaoedd, datrys problemau, a gwneud penderfyniadau craff.
  5. Y gallu i ysgrifennu dogfennau clir a chryno,
  6. Y gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: C1 - Lefel hyfedredd (rhugl mewn Cymraeg llafar)

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf