Adroddiad Blynyddol Chwythu'r Chwiban a Pherson Rhagnodedig 2024-25

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi manylion yr holl ddatgeliadau Chwythu'r Chwiban a dderbyniwyd gan CNC yn ystod blwyddyn ariannol 2024/25 ac unrhyw gamau gweithredu neu argymhellion cysylltiedig.

Rydym wedi ymrwymo i gynnal y safonau uchaf o onestrwydd, uniondeb ac atebolrwydd. Mae disgwyl y bydd pawb sy’n gweithio i ni sydd â phryderon difrifol am unrhyw agwedd o’n gwaith yn gallu dod ymlaen i leisio’r pryderon hynny. Rydym wedi ymrwymo i gymryd unrhyw gamau sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael ag unrhyw achos o gamwedd a ddaw i’r amlwg.

Codi Pryder Difrifol er Budd y Cyhoedd (a elwid gynt yn Chwythu'r Chwiban) o fewn CNC

Rydym wedi rhoi mesurau ar waith i godi pryderon difrifol am gamymddwyn neu amhriodoldeb, gan ddefnyddio gwasanaethau ein tîm archwilio mewnol i oruchwylio unrhyw bryderon ac ymchwiliadau. Mae ein fframwaith yn cynnwys mynediad at linell gyswllt ffôn a ffurflen ar-lein, lle gall pobl fynegi pryderon yn ddienw os yw’n well ganddynt.

Yn ystod 2024/25 cyflwynwyd 53 o adroddiadau i CNC drwy ei fecanweithiau "Codi Pryder". Adolygwyd yr holl bryderon hyn gan y Pennaeth Archwilio Mewnol a'r Pennaeth Llywodraethu, y ddau ohonynt yn annibynnol ar unrhyw un o'r meysydd pryder a godwyd. Dim ond 5 adroddiad sy'n gymwys i gael eu hystyried fel achosion chwythu'r chwiban posibl gan ddefnyddio canllawiau Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd (PIDA). Nid oedd y 48 adroddiad sy'n weddill yn bodloni'r diffiniad o faterion i'w hystyried o dan chwythu'r chwiban o dan PIDA ac felly ymdriniwyd â nhw mewn adrannau eraill yn CNC fel cwynion neu adroddiadau digwyddiadau.

Er mwyn i adroddiad gael ei ystyried o dan PIDA yn achos o chwythu'r chwiban, mae'n rhaid bod person yn codi pryder am enghraifft o gamwedd a ddigwyddodd yn y gorffennol, sy’n digwydd yn y presennol neu sydd ar fin digwydd, neu ymgais i guddio camweddau, yn CNC, sefydliad allanol neu gorff o bobl. Er mwyn denu'r amddiffyniad cyfreithiol, rhaid i'r wybodaeth a ddatgelir fod er budd y cyhoedd, sy'n golygu yn fras bod yn rhaid i'r mater effeithio ar bobl yn gyffredinol mewn rhyw ffordd. Nid yw cwynion personol a chwynion unigol sy'n effeithio ar yr unigolyn sy'n gwneud y gŵyn yn unig yn cael eu cwmpasu gan gyfraith chwythu'r chwiban ac yn hytrach maent yn cael eu trin fel cwynion neu adroddiadau digwyddiadau.

O'r 5 achos a nodwyd fel rhai sy'n gymwys i'w hystyried fel achosion chwythu'r chwiban posibl, roedd 1 ar gyfer mater a adroddwyd i CNC fel Person Rhagnodedig ac felly'n ymwneud â mater y tu allan i CNC mewn perthynas â sefydliad arall. Ystyriwyd y 4 achos sy'n weddill yn ffurfiol fel achosion chwythu'r chwiban posibl, ond ni chafodd yr un ohonynt eu cadarnhau fel achosion chwythu'r chwiban go iawn ac ni aethpwyd i’r cam ymchwiliad ffurfiol llawn.

Nifer yr achosion

Math 2024/25 2023/24 2022/23 2021/22
Pryderon a Godwyd 53 31 20
Pryderon a adolygwyd ar gyfer achos Chwythu'r Chwiban posibl  10 
Achosion Chwythu'r Chwiban Person Rhagnodedig
Cyfanswm a aseswyd fel achosion Chwythu'r Chwiban cymwys yn CNC

 

CNC fel Person Rhagnodedig ar gyfer Codi Pryder Difrifol er Budd y Cyhoedd

Daethom yn 'Berson Rhagnodedig' yn 2020 ar ôl i LlC gysylltu â ni. Mae Gorchymyn Personau Rhagnodedig 2014 yn nodi rhestr o 60 o sefydliadau y gall unrhyw aelod o’r cyhoedd fynd atynt i roi gwybod am achosion tybiedig neu hysbys o gamwedd (chwythu’r chwiban). Mae’r sefydliadau a’r unigolion ar y rhestr fel arfer wedi’u dynodi’n bersonau rhagnodedig gan fod ganddynt berthynas awdurdodol neu oruchwyliol â’u sector, yn aml fel corff rheoleiddio. Mae’r Gorchymyn yn cael ei ddiwygio gan Lywodraeth y DU bob blwyddyn, i sicrhau bod y rhestr yn parhau’n gyfredol.

Derbyniwyd 1 achos o Adroddiad Chwythu’r Chwiban Person Rhagnodedig rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025, er y cydnabyddir y gallai pryderon eraill fod wedi’u mynegi y tu allan i’r broses chwythu’r chwiban ffurfiol. Ar gyfer yr achos a dderbyniwyd, cafodd ei anfon at sefydliad arall ar gyfer yr ymchwiliad gan nad oedd yr achos yn dod o fewn cylch gwaith CNC ac nid oedd mewn perthynas ag adnoddau naturiol Cymru.

Diweddarwyd ddiwethaf