Adroddiad blynyddol 2024-2025
Rhagair y cadeirydd
Wrth i mi ddod i ddiwedd fy neiliadaeth saith mlynedd o hyd fel cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), rwy’n edrych yn ôl ar gyfnod a luniwyd gan heriau eithriadol a phenderfyniad cyffredin ymhlith cydweithwyr i’w hwynebu’n uniongyrchol.
Ail-luniodd pandemig COVID-19 sut roedden ni’n gweithio a phrofodd ein gallu i aros mewn cysylltiad â’r rhai rydyn ni’n eu gwasanaethu. Mewn ymateb, roeddwn yn falch o gadeirio’r Tasglu Adferiad Gwyrdd ar ran Gweinidogion Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod natur a hinsawdd wrth wraidd llwybr Cymru i adferiad.
Cafodd llifogydd mawr effaith ddifrifol ar lawer o gymunedau ledled Cymru, a gweithiodd CNC yn agos gyda’r gwasanaethau brys, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i gefnogi’r rhai yr effeithiwyd arnynt a chryfhau eu cydnerthedd yn y dyfodol. Mae’r digwyddiadau hyn yn tanlinellu pwysigrwydd gweithredu ar y cyd, ac ers hynny rydym wedi parhau i wella ein systemau a buddsoddi mewn cynlluniau llifogydd hirdymor.
Ar yr un pryd, arweiniodd pryder cyhoeddus cynyddol ynghylch ansawdd dŵr at drafodaethau a gwaith craffu cenedlaethol. Mae sicrhau bod gennym ddigonedd o ddŵr glân yn parhau i fod yn un o’r heriau pwysicaf sy’n ein hwynebu, ac mae’n parhau i fod yn ffocws mawr. Ni fu sylw’r cyhoedd – a chraffu’r cyfryngau – ar berfformiad cwmnïau dŵr yn uwch erioed. Rydym yn chwarae ein rhan lawn yn hynny, gan bwyso am lefelau uwch nac erioed o fuddsoddiad a chryfhau a chynyddu ein capasiti rheng flaen ar gyfer rheoleiddio cwmnïau dŵr. Rydym hefyd wedi parhau i herio perfformiad amgylcheddol Dŵr Cymru. Cymerwyd camau gorfodi yn erbyn y cwmni ym mis Hydref, ac ym mis Mai 2025 cafodd Dŵr Cymru ddirwy o £1.35m. Fodd bynnag, yn dilyn apêl gan Dŵr Cymru cafodd y ddirwy ei lleihau i £120,000.
Yn y sector dŵr, mae cynllunio strategol cyn pob adolygiad 5 mlynedd o brisiau yn allweddol ar gyfer ysgogi buddsoddiadau amgylcheddol. Yn yr adolygiad diweddaraf, a ddaeth i ben eleni, fe wnaethom sicrhau £1.7 biliwn o gyllid gan y diwydiant dŵr yng Nghymru ar gyfer cyflawni hyd at 2030 – cynnydd bron i chwe gwaith o’i gymharu â’r cylchoedd blaenorol. Bydd y buddsoddiad digynsail hwn yn galluogi gwelliannau sylweddol, gan ddod â manteision parhaol i gymunedau ac ecosystemau ar hyd a lled Cymru.
Mae’r Adroddiad Blynyddol hwn yn nodi’r hyn a gyflawnwyd gennym yn ystod 2024/25, sut rydym wedi cyflawni yn erbyn ein diben statudol, a sut rydym wedi defnyddio adnoddau cyhoeddus i sicrhau gwerth parhaus i bobl, lleoedd ac amgylchedd naturiol Cymru. Nid yw ein gwaith erioed wedi bod yn bwysicach. O reoleiddio diwydiant i amddiffyn cymunedau rhag perygl llifogydd, o reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru i gefnogi adferiad natur, rydym yn helpu i greu Cymru lle gall natur a phobl ffynnu gyda’i gilydd.
Mae newid o fewn CNC wedi bod yn sylweddol. Ymddeolodd Clare Pillman, ein Prif Weithredwr, eleni ar ôl saith mlynedd o arweinyddiaeth ymroddedig. Arweiniodd Clare CNC drwy’r pandemig, drwy stormydd mawr, a’r datganiad o’r argyfyngau hinsawdd a natur. Roedd ei harweinyddiaeth yn allweddol wrth i ni lunio ein Cynllun Corfforaethol 2030 a gosod gweledigaeth feiddgar ar gyfer Cymru ble mae byd natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd. Bydd ei hetifeddiaeth yn cael ei theimlo am flynyddoedd lawer i ddod, ac rwy’n diolch iddi am ei gwasanaeth. Bydd y broses recriwtio ar gyfer ei holynydd ar y gweill yn fuan, ac, yn y cyfamser, bydd Ceri Davies yn parhau i wasanaethu fel Prif Weithredwr Dros Dro.
Croesawon ni dri aelod newydd o’r Bwrdd – Dr Hushneara Begum, Dr Rebecca Colley-Jones ac Adam Taylor – sydd eisoes yn gwneud cyfraniad rhagorol. Hoffwn hefyd ddiolch yn ddiffuant i Dr Rosie Plummer a Geraint Davies, y daeth eu cyfnodau yn y swydd i ben, am eu harbenigedd a’u hymrwymiad dros nifer o flynyddoedd.
Rydym wedi gweithredu ailstrwythuriad sefydliadol pellgyrhaeddol fel rhan o’n Hachos dros Newid mewnol. Mae hyn yn nodi cam arwyddocaol o ran cryfhau ein sylfeini – gan sicrhau ein bod yn addas ar gyfer y dyfodol ac mewn gwell sefyllfa i gyflawni ein pwrpas gyda mwy o eglurder, hyblygrwydd ac effaith.
Drwy hyn i gyd, parhaodd ein pobl i ganolbwyntio ar gyflawni ein cenhadaeth. Hoffwn ddiolch i’n staff am eu hymroddiad, eu proffesiynoldeb a’u gwydnwch parhaus. Maent yn ymgorffori gwerthoedd CNC, sef bod yn gysylltiedig, yn feiddgar, yn ofalgar ac yn ddyfeisgar. Mae eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol – o reoleiddio rheng flaen ac ymateb i argyfyngau i ymchwil wyddonol, gweithrediadau gwaith coed ac ymgysylltu â’r gymuned.
Rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar iawn i’n partneriaid a’n rhanddeiliaid ar draws y llywodraeth, diwydiant, cymdeithas sifil a chymunedau lleol. Mae eu cefnogaeth, eu herio a’u cydweithrediad yn hanfodol wrth i ni fynd i’r afael â heriau cymhleth a chydberthynol newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth a llygredd.
Wrth edrych ymlaen, bydd y cyd-destun yr ydym yn gweithredu ynddo yn parhau i esblygu – bydd gwybodaeth wyddonol, arloesedd technolegol, pwysau ariannol, blaenoriaethau gwleidyddol a disgwyliadau cymdeithasol i gyd yn parhau i newid. Ond mae cyfeiriad ein taith yn glir. Rydym yn cryfhau ein sylfeini ac yn cyflymu cyflawni wrth wraidd ein cenhadaeth: dros natur, dros yr hinsawdd a dros leihau llygredd – hyd at 2030 a thu hwnt.
Wrth i mi gamu i ffwrdd, rwy’n gwneud hynny gyda diolchgarwch aruthrol – i’r bobl rydw i wedi gweithio ochr yn ochr â nhw, am yr ymddiriedaeth a roddir yn CNC, ac am y cyfle i helpu i lunio Cymru fwy cynaliadwy a gwydn. Mae gwasanaethu fel cadeirydd wedi bod yn anrhydedd fy mywyd proffesiynol. Rydw i wedi dysgu mai trwy wrando, partneriaeth a meddwl hirdymor yr ydym yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf.
Yn olaf, hoffwn groesawu fy olynydd, Nilesh Sachdev, yn gynnes, a fydd yn dechrau yn y rôl ar 1 Tachwedd. Mae’n dod â chyfoeth o brofiad gydag ef yn y sectorau amgylcheddol a choedwigaeth a bydd yn arwain CNC i’r bennod nesaf gyda medr a mewnwelediad.
Mae gennym lawer i fod yn falch ohono – a llawer i’w wneud o hyd.
Syr David Henshaw, Cadeirydd - 28 Hydref 2025
Archwilydd Cyffredinol Cymru: Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio'r cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio'n wreiddiol. Cyfieithiad o'r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw'r fersiwn hwn. Cyfoeth Naturiol Cymru sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid y Archwilydd Cyffredinol.
Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu yw cynnal gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru a sicrhau ei chywirdeb; nid yw’r gwaith a wneir gan archwilwyr yn cynnwys ystyried y materion hyn ac, yn unol â hynny nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw cyfrifoldeb am unrhyw newidiadau y gellid bod wedi'u gwneud i'r datganiadau ariannol ers iddynt gael eu cyflwyno ar y wefan yn gyfan.