Cyfarfod cyhoeddus CNC 20 Tachwedd 2025

Mae croeso i aelodau'r cyhoedd sy'n dymuno ymuno arsylwi ar y sesiwn gyhoeddus drwy Dimau ac yna cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb rhyngweithiol gyda'r Bwrdd ar ôl i'r eitemau ffurfiol orffen. Cofiwch y gall amseru agenda newid ar y diwrnod ac felly i sicrhau bod cwestiynau'n cael eu clywed, cyflwynwch y rhain ymlaen llaw erbyn dydd Llun am 5pm i Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Byddwch yn ymwybodol y gall yr amseroedd ar yr agenda newid ar ddiwrnod y cyfarfod, felly cyflwynwch unrhyw gwestiynau ymlaen llaw at sylw Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i sicrhau eu bod yn cael eu clywed.

Rydym ni’n cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd: Wrth ymuno â’r cyfarfod, cliciwch ar y tri dot (‘Mwy’) ger eicon y camera, sgroliwch drwy’r rhestr i glicio ar ‘Cyfieithu ar y Pryd’ a dewiswch naill ai ‘Iaith wreiddiol’ i glywed y Gymraeg neu ‘’Saesneg’ i glywed cyfieithiad o’r Gymraeg.

Amser y cyfarfod: 13:00 - 16:00 - Dydd Iau 27 Tachwedd 2025

Agenda

Amser Eitem

1pm (5 munud)

Eitem 1. Dechrau’r cyfarfod

  • Croeso
  • Datgan buddiannau
  • Egluro trefn y cyfarfod

Noddwr a chyflwynydd: Neil Sachdev (Cadeirydd)

Crynodeb: NODI unrhyw ddatganiadau o fuddiant

1.05pm (5 munud)

Eitem 2. Adolygu’r cofnodion a chofnod y camau gweithredu

2A. Adolygu’r cofnodion o gyfarfod cyhoeddus 9 Hydref

2B. Adolygu’r cofnod o gamau gweithredu cyhoeddus

Noddwr a chyflwynydd: Neil Sachdev (Cadeirydd)

Crynodeb: CYMERADWYO cofnodion y cyfarfod blaenorol a chofnod y camau gweithredu

1.10pm (10 munud)

Eitem 3. Yr wybodaeth ddiweddaraf gan y cadeirydd

Noddwr a chyflwynydd: Neil Sachdev (Cadeirydd)

Crynodeb: NODI diweddariad y cadeirydd i’r Bwrdd

1.20pm (10 munud)

Eitem 4. Adroddiad gan y Prif Weithredwr

Noddwr a chyflwynydd: Ceri Davies, Prif Weithredwr Dros Dro

Crynodeb: NODI’R sefyllfa bresennol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd ar y prif weithgareddau

Cyfeirnod y papur: 25-11-B08

1.30pm (20 munud)

Eitem 5. Adroddiadau diweddaru’r pwyllgorau a’r fforymau

Noddwyr a chyflwynwyr: Cadeiryddion y pwyllgorau

  • Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg – 17 Hydref

Cyfeirnod y papur: 25-11-B09

  • Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth – 16 Hydref

Cyfeirnod y papur: 25-11-B10

  • Pwyllgor Cyllid – 6 Tachwedd

Cyfeirnod y papur: 25-11-B11

  • Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig – 15 Hydref

Cyfeirnod y papur: 25-11-B12

  • Fforwm Rheoli Tir Cymru
  • Fforwm Pysgodfeydd Cymru
  • Fforwm Rheoli Dŵr Cymru – 13 Tachwedd (llafar)
  • Fforwm Mynediad Cenedlaethol Cymru – 5 Tachwedd

Crynodeb: NODI’R wybodaeth ddiweddaraf gan bwyllgorau’r Bwrdd a fforymau CNC, o fewn a thu allan, a’r cyfarfodydd a gynhaliwyd

1.50pm (20 munud)

Eitem 6. Adroddiad Perfformiad Cyllid

Noddwr: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

Cyflwynydd: Mark Collins, Rheolwr Tîm Cyllid Busnes 2

Crynodeb: CYMERADWYO’R sefyllfa ariannol ddiweddaraf

Cyfeirnod y papur: 25-11-B13

2.10pm (15 munud)

Egwyl

2.25pm (50 munud)

Eitem 7. Diweddariad chwarterol Ch2 ar ddangosfwrdd perfformiad y cynllun busnes

Noddwr: Ceri Davies, Prif Weithredwr Dros Dro

Cyflwynydd: Arweinwyr amcanion llesiant; Sarah Williams, Pennaeth Strategaeth Gorfforaethol a’r Swyddfa Rheoli Rhaglenni; Sue Ginley, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Cynllunio a Pherfformiad Corfforaethol

Crynodeb: CRAFFU ar adroddiad Chwarter 2

Cyfeirnod y papur: 25-11-B14

3.15pm (5 munud)

Eitem 8. Unrhyw fater arall

3.20pm (10 munud)

Eitem 9. Sut wnaethon ni berfformio yn y cyfarfod hwn?

Noddwr: Neil Sachdev, Cadeirydd

Crynodeb: Adolygiad o’r cyfarfod

3.30pm

Cau’r cyfarfod

3.40pm (20 munud)

Sesiwn holi ac ateb gyhoeddus

4pm

Cau’r cyfarfod cyhoeddus

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf