Cyfarfod y Bwrdd 17 a 18 Tachwedd 2021
Bydd sesiwn gyhoeddus cyfarfod Bwrdd CNC yn cael ei hailgyflwyno ar gyfer y cyfarfod nesaf a gynhelir ar 18 Tachwedd 2021.
Bydd y cyfarfod Bwrdd yn cael ei gynnal ar Skype. Mae croeso i aelodau'r cyhoedd sy’n awyddus i arsylwi’r sesiwn gyhoeddus ymuno drwy Skype ac yna cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb ryngweithiol gyda’r Bwrdd ar ôl i'r eitemau ffurfiol ddod i ben.
Er mwyn gweld beth a fydd yn cael ei drafod, gweler yr agenda isod: (gall newid)
Amser y Cyfarfod - 9:30AM i 13:50PM - 18 Tachwedd
Amser | Eitem |
---|---|
9.30 (5 munud) |
1. Agor y Cyfarfod
Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd) |
9.35 (5 munud) |
2. Adolygu’r Cofnodion a’r Cofnod Gweithredu 2A. Adolygu Cofnodion Cyfarfod Cyhoeddus 23 Medi 2B. Adolygu’r Cofnod Gweithredu Cyhoeddus Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd) |
9.40 (10 munud) |
3. Diweddariad gan y Cadeirydd Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw Crynodeb: Y Cadeirydd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd |
9.50 (15 munud) |
4. Adroddiadau Diweddaru’r Pwyllgorau Noddwyr a chyflwynwyr: Cadeiryddion y pwyllgorau Y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg – 15 Hydref Cyfeirnod y papur: 21-11-B13 Y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth – ar agenda’r diwrnod preifat Y Pwyllgor Cyllid – amherthnasol Y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd – 12 Hydref Cyfeirnod y papur: 21-11-B15 Y Pwyllgor Pobl a Thaliadau – amherthnasol Y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig – 5 Hydref Cyfeirnod y papur: 21-11-B16 Crynodeb: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am |
|
weithgareddau diweddar y pwyllgorau |
10.05 (30 munud) |
5. Adroddiad Chwarter 2 Dangosfwrdd Perfformiad y Cynllun Busnes Noddwr: Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyflwynwyr: Caroline Hawkins, Rheolwr Cynllunio Corfforaethol, Perfformiad ac Asesu Strategol; Sarah Williams, Pennaeth Gweledigaeth 2050 a’r Strategaeth Gorfforaethol; Sue Ginley, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Cynllunio Corfforaethol a Pherfformiad Crynodeb: Craffu ar Adroddiad Chwarter 2 Cyfeirnod y papur: 21-11-B17 |
10.35 (20 munud) |
6. Llesiant, Iechyd a Diogelwch Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol Cyflwynydd: Charlotte Morgan, Rheolwr Llesiant, Iechyd a Diogelwch Crynodeb: Craffu ar Adroddiad Chwarter 2 a chymeradwyo’r Strategaeth Llesiant, Iechyd a Diogelwch Cyfeirnod y papur: 21-11-B18a |
10.55 (15 munud) |
Egwyl |
11.10 (45 munud) |
7. Hela Trywydd ar Ystad CNC Noddwr: Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu Cyflwynwyr: Dominic Driver, Pennaeth Stiwardiaeth Tir; Ieuan Williams, Uwch-arolygydd Arbenigol; Stuart Lyon, Uwch- gyfreithiwr Arbenigol. Crynodeb: Cael cymeradwyaeth y Bwrdd ar gyfer y strategaeth ymadael mewn perthynas ag atal dros dro yr arfer o hela trywydd ar Ystad CNC Papur rhif: 21-11-B19 |
11.55 (25 munud) |
8. Map Ffordd Gorlifiant Stormydd: Diweddariad Noddwr: Gareth O’Shea, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau Cyflwynwyr: Siân Williams, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Orllewin Cymru; Nadia De Longhi, Pennaeth Rheoleiddio a Thrwyddedu; Mark Squire, Rheolwr Dŵr Cynaliadwy Crynodeb: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at y Cynllun Gweithredu yn sgil canlyniad y drafodaeth strategol ynghylch ansawdd dŵr Cyfeirnod y papur: 21-11-B20 |
12.20 (30 munud) |
Cinio |
12.50 (20 munud) |
9. Is-ddeddfau Pysgodfeydd Statudol Noddwr: Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu Cyflwynydd: David Mee, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Rheoli Pysgodfeydd Dŵr Croyw Crynodeb: Cael cymeradwyaeth y Bwrdd yn dilyn yr ymgynghoriad statudol Cyfeirnod y papur: 21-11-B21 |
13.10 (10 munud) |
10. Diwygiadau i’r Cynllun Statudol a Chyfreithiol Noddwr: Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyflwynydd: Colette Fletcher, Pennaeth Llywodraethu ac Ysgrifennydd y Bwrdd Crynodeb: Cael cymeradwyaeth y Bwrdd ar gyfer diwygiadau i’r Cynllun Statudol a Chyfreithiol Cyfernod y papur: 21-11-B22 |
|
Diwedd Cyfarfod Cyhoeddus y Bwrdd |
13.20 (30 munud) |
11. Sesiwn Holi ac Ateb Gyhoeddus |
13.50 |
Diwedd y Cyfarfod |