18 Mawrth: Cyfarfod Cyhoeddus Bwrdd CNC

Arsylwi ar-lein

Fel aelod o’r cyhoedd, gallwch ymuno â chyfarfodydd cyhoeddus y Bwrdd gan ddefnyddio Microsoft Teams.

Os hoffech fynychu cyfarfod, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd.

Byddwch yn ymwybodol y gall yr amseroedd ar yr agenda newid ar y diwrnod.

Sgyrsiau gyda CNC – Aberystwyth

Fel rhan o gyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth, rydym yn cynnal y sesiwn gyntaf yn ein cyfres o ddigwyddiadau galw heibio newydd, gan roi cyfle i aelodau’r cyhoedd siarad wyneb yn wyneb ag aelodau’r Bwrdd a staff am amrywiaeth o faterion.

  1. Dyddiad: dydd Mercher 18 Mawrth 2026
  2. Amser: 2.30pm tan 4.30pm
  3. Lleoliad: Y Stiwdio Gron, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, SY23 3DE

Mae croeso i unrhyw un fynychu ar unrhyw adeg yn ystod y sesiwn. Mae lleoedd parcio ar gael.

Agenda

Amser Eitem

9.30am (5 munud)

Sesiwn Gyhoeddus

Eitem 1. Dechrau’r cyfarfod

  • Croeso
  • Datgan buddiannau
  • Egluro trefn y cyfarfod

Noddwr a chyflwynydd: Neil Sachdev (Cadeirydd)

Crynodeb: NODI unrhyw ddatganiadau o fuddiant

9.35am (5 munud)

Eitem 2. Adolygu’r cofnodion a chofnod y camau gweithredu

2A. Adolygu cofnodion cyfarfod cyhoeddus y Bwrdd a gynhaliwyd ar 12 Chwefror

2B. Adolygu’r cofnod o gamau gweithredu cyhoeddus 

Noddwr a chyflwynydd: Neil Sachdev (Cadeirydd)

Crynodeb: CYMERADWYO cofnodion y cyfarfod blaenorol a’r cofnod o gamau gweithredu

9.40am (10 munud)

Eitem 3. Yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Cadeirydd

Noddwr a chyflwynydd: Neil Sachdev (Cadeirydd)

Crynodeb: NODI adroddiad y Cadeirydd o’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd

9.50am (20 munud)

Eitem 4. Adroddiad gan y Prif Weithredwr

Noddwr a chyflwynydd: Ceri Davies, Prif Weithredwr

Crynodeb: NODI’R sefyllfa bresennol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd ar y prif weithgareddau

Cyfeirnod y papur: 26-03-B01

10.10am (20 munud)

Eitem 5. Adroddiadau o’r pwyllgorau

Noddwyr a chyflwynwyr: Cadeiryddion y pwyllgorau

  • Y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg – 5 Mawrth (ar lafar)
  • Y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth – dim cyfarfod
  • Y Pwyllgor Cyllid – 12 Mawrth (ar lafar)
  • Y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd – dim cyfarfod
  • Y Pwyllgor Ystadau Tir – dim cyfarfod
  • Y Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid – 4 Mawrth (ar lafar)

Yn cynnwys Adroddiad Llesiant, Iechyd a Diogelwch – chwarter 3

Cyfeirnod y papur: 26-03-B02

  • Y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig – 26 Chwefror

Cyfeirnod y papur: 26-03-B03

  • Fforwm Rheoli Tir Cymru – 9 Mawrth (ar lafar)
  • Fforwm Mynediad Cenedlaethol Cymru
  • Fforwm Pysgodfeydd Cymru
  • Fforwm Rheoli Dŵr Cymru

Crynodeb: NODI’R wybodaeth ddiweddaraf gan bwyllgorau’r Bwrdd a fforymau CNC, o fewn a thu allan, a’r cyfarfodydd a gynhaliwyd

10.30am (15 munud)

Eitem 6. Adroddiad perfformiad cyllid

Noddwr: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

Cyflwynydd: Rob Bell, Pennaeth Cyllid

Crynodeb: CYMERADWYO’R sefyllfa ariannol ddiweddaraf

Cyfeirnod y papur: 26-03-B04

10.45am (20 munud)

Eitem 7. Dangosfwrdd perfformiad y cynllun busnes – chwarter 3

Noddwr: Ceri Davies, Prif Weithredwr

Cyflwynwyr: Arweinwyr yr Amcan Llesiant; Sarah Williams, Pennaeth y Strategaeth Gorfforaethol a’r Swyddfa Rheoli Rhaglenni

Crynodeb: CRAFFU ar adroddiad chwarter 3

Cyfeirnod y papur: 26-03-B05

11.05am (15 munud)

Egwyl

11.20am (60 munud)

Eitem 8. Amcan llesiant 4

Noddwr: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

Cyflwynwyr: Sarah Williams, Pennaeth y Strategaeth Gorfforaethol a’r Swyddfa Rheoli Rhaglenni; Fen Turner, Arweinydd Tîm, Dulliau Integredig ar gyfer Adnoddau Naturiol a Newid Hinsawdd; Comisiynydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Derek), Helen Nelson, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Crynodeb: TRAFOD amcan llesiant 4

12.20pm (60 munud)

Eitem 9. Cyflwyniad lle

Noddwr: Lyndsey Rawlinson, Pennaeth Lle a Gwasanaeth

Cyflwynydd: Gavin Bown, Pennaeth Gweithrediadau Canolbarth Cymru

Crynodeb: TRAFOD y gweithrediadau a’r prosiectau sy’n mynd rhagddynt yng Nghanolbarth Cymru

1.20pm (5 munud)

Eitem 10. Unrhyw fater arall

1.25pm

Diwedd y cyfarfod cyhoeddus

1.25pm (60 munud)

Cinio

2.30pm (120 munud)

Ymgysylltu â’r cyhoedd: Sgyrsiau â’r Bwrdd a’r Tîm Gweithredol

Crynodeb: Gwahoddiad agored i’r cyhoedd a rhanddeiliaid i ymuno â sgyrsiau â’r Bwrdd a’r Tîm Gweithredol.

Cyfieithu ar y pryd yn ystod y cyfarfod byw ar-lein

Rydym ni’n cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd: Wrth ymuno â’r cyfarfod, cliciwch ar y tri dot (‘Mwy’) ger eicon y camera, sgroliwch drwy’r rhestr i glicio ar ‘Cyfieithu ar y Pryd’ a dewiswch naill ai ‘Iaith wreiddiol’ i glywed y Gymraeg neu ‘’Saesneg’ i glywed cyfieithiad o’r Gymraeg.

Gofynion o ran porwr a system

Defnyddiwch fersiwn diweddaraf eich porwr gwe i sicrhau bod popeth yn gweithio’n iawn yn ystod y sesiwn. Rydym yn argymell defnyddio Microsoft Edge neu Google Chrome. Peidiwch â defnyddio Internet Explorer, gan na fydd yn gweithio gyda Microsoft Teams.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf