Cyfarfod y Bwrdd 16 Tachwedd 2023
Mae croeso i aelodau'r cyhoedd sy'n dymuno ymuno arsylwi ar y sesiwn gyhoeddus drwy Dimau ac yna cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb rhyngweithiol gyda'r Bwrdd ar ôl i'r eitemau ffurfiol orffen. Cofiwch y gall amseru agenda newid ar y diwrnod ac felly i sicrhau bod cwestiynau'n cael eu clywed, cyflwynwch y rhain ymlaen llaw erbyn dydd Llun am 5pm i Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Byddwch yn ymwybodol y gall yr amseroedd ar yr agenda newid ar ddiwrnod y cyfarfod, felly cyflwynwch unrhyw gwestiynau ymlaen llaw at sylw Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i sicrhau eu bod yn cael eu clywed.
Rydym ni’n cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd: Wrth ymuno â’r cyfarfod, cliciwch ar y tri dot (‘Mwy’) ger eicon y camera, sgroliwch drwy’r rhestr i glicio ar ‘Cyfieithu ar y Pryd’ a dewiswch naill ai ‘Iaith wreiddiol’ i glywed y Gymraeg neu ‘’Saesneg’ i glywed cyfieithiad o’r Gymraeg.
Amser y cyfarfod: 9:30 – 12.25
Amser |
Eitem |
---|---|
9.30 (5 munud) |
1. Agor y cyfarfod
Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd) Crynodeb: NODI unrhyw ddatganiadau o fuddiant. |
9.35 (5 munud) |
2. Adolygu’r Cofnodion a’r Cofnod Gweithredu 2A. Adolygu Cofnodion Cyfarfod Cyhoeddus 21 Medi 2B. Adolygu’r Cofnod Gweithredu Cyhoeddus Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd) Crynodeb: CYMERADWYO cofnodion y cyfarfod blaenorol a’r cofnod gweithredu. |
9.40 (5 munud) |
3. Diweddariad gan y Cadeirydd Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw Crynodeb: NODI diweddariad y Cadeirydd i’r Bwrdd. |
9.45 (15 munud) |
4. Adroddiad y Prif Weithredwr Noddwr a chyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr Crynodeb: NODI’r sefyllfa gyfredol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am weithgareddau allweddol. Cyfeirnod y papur: 23-11-B10 |
10.00 (20 munud) |
5. Diweddaru Adroddiadau o Bwyllgorau a Fforymau (yn ddi-eithriad) Noddwyr a chyflwynwyr: Cadeiryddion y pwyllgorau Y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg – 9 Hydref Diweddariadau Fforwm Crynodeb: NODI’R diweddariadau gan bwyllgorau’r Bwrdd, o’r cyfarfodydd a gynhaliwyd a thu hwnt. |
10:20 (25 munud) |
6. Adroddiad Perfformiad Cyllid ac Adolygiad Cyllideb Canol Blwyddyn Noddwr: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol a Chyllid Cyflwynydd: Rob Bell, Pennaeth Cyllid Cyflwynydd: Rob Bell, Pennaeth Cyllid Cyfeirnod y papur: 23-11-B19 |
10.45 (15 munud) |
Egwyl |
11.00 (30 munud) |
7. Natur a Ni Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol Cyflwynydd: Russell De'Ath, Uwch Gynghorydd Arbenigol, Gweledigaeth 2050; Sarah Williams, Pennaeth Strategaeth Gorfforaethol a PMO Crynodeb: Cymeradwyo ymateb CNC i Weledigaeth Natur a Ni Cyfeirnod y papur: 23-11-B20 |
11.30 (20 munud) |
8. Adroddiad Chwarter 2 Dangosfwrdd Perfformiad y Cynllun Busnes ac Adroddiad Chwarter 2 Perfformiad Mewnol Noddwr a chyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr Yn bresennol: Sarah Williams, Pennaeth Strategaeth Gorfforaethol a'r Swyddfa Rheoli Rhaglenni; Sue Ginley, Ymgynghorydd Arbenigol Arweiniol, Cynllunio Corfforaethol a Pherfformiad Crynodeb: CYMERADWYO Adroddiad Chwarter 2 Dangosfwrdd Perfformiad y Cynllun Busnes ac Adroddiad Chwarter 2 Perfformiad Mewnol Cyfeirnod y papur: 23-11-B21 |
11.50 (10 munud) |
9. Ailgysoni Strwythur a Threfniadau Llywodraethu CNC yn dilyn lansio'r Cynllun Corfforaethol Newydd Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol Cyflwynydd: Victoria Painter, Pennaeth Llywodraethu Dros Dro ac Ysgrifennydd y Bwrdd Crynodeb: CYMERADWYO'R Cylch Gorchwyl diwygiedig ar gyfer y Bwrdd, y Pwyllgorau a'r Tîm Gweithredol. NODI'r gwaith ar gysoni’r strwythur llywodraethu a'r trefniadau i'r Cynllun Corfforaethol. Cyfeirnod y papur: 23-11-B22 |
12.00 (5 munud) |
10. Unrhyw fater arall |
12.05 |
Diwedd y Cyfarfod |
12.05 (20 munud) |
Sesiwn holi ac ateb cyhoeddus |
12.25 |
Diwedd y Cyfarfod Cyhoeddus |