Rhyddid Gwybodaeth
Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn rhoi'r hawl i chi wneud cais am fynediad at wybodaeth heb ei chyhoeddi sydd gennym ni, oni bai fod eithriad penodol yn berthnasol.
Cyn gwneud cais am wybodaeth
- gwiriwch ein cynllun cyhoeddi i weld os yw'r wybodaeth rydych yn chwilio amdani wedi cael ei chyhoeddi gennym ni eisoes.
- gweld cofnod datgeliadau rhyddid Gwybodaeth blaenorol i weld a yw'r wybodaeth yno
- gwiriwch pa ddata ddata sydd ar gael i bawb i'w defnyddio Rhagor am ein Data Agored
Gwneud cais am wybodaeth
Gallwch wneud cais am wybodaeth dros e-bost neu drwy’r post.
- Ffoniwch: 0300 065 3000 a gofynnwch am gael eich trosglwyddo i Swyddog Mynediad at Wybodaeth
- E-bost: timmynediadatwybodaeth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
- Drwy’r post: anfonwch i’r swyddfa ym Mangor, wele’r manylion isod
Bangor (Maes y Ffynnon)
Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Wrth anfon cais atom:
- byddwch yn benodol am y wybodaeth rydych ei heisiau, gan ddarparu amserlen os gallwch
- rhowch wybod i ni sut yr hoffech dderbyn y wybodaeth (drwy'r post, e-bost, neu wyneb yn wyneb)
- darparu manylion cyswllt rhag ofn y bydd angen i ni drafod y cais gyda chi
Os ydych chi am weld gwybodaeth y gallwn fod yn ei chadw amdanoch chi, ewch i'n tudalen ar sut i wneud cais am wybodaeth rydym yn gadw am danoch chi.
Cyngor ynghylch sut i wneud cais llwyddiannus
Er mwyn ein helpu ni i ymateb yn brydlon i'ch cais, rydyn ni'n eich cynghori i edrych ar y canllawiau ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth a gwefan Gov.uk ynghylch sut i wneud cais rhyddid gwybodaeth llwyddiannus.
Ymateb i'ch cais
Pan fyddwch wedi cyflwyno cais, rhaid inni ymateb cyn gynted â phosibl ac ymhen 20 diwrnod gwaith.
Mewn rhai achosion cyfyngedig, mae'n bosibl y gallwn estyn y cyfnod hwn ar gyfer achosion cymhleth. Os felly y bydd hi, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl, ynghyd â phryd y byddwn yn gallu ymateb.
Gwybodaeth ni allwn ei ddatgelu
Mae'n bosibl na fydd yr holl wybodaeth yn cael ei rhoi i chi oherwydd ei bod yn dod o dan esemptiad (o dan Ryddid Gwybodaeth) neu eithriad (o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol) rhag datgelu ‒ er enghraifft, oherwydd y byddai’n datgelu manylion personol rhywun arall yn annheg.
Ffioedd am wybodaeth
Mae ein hatodlen ffioedd yn nodi ein ffioedd ar gyfer darparu gwybodaeth i chi o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol a Deddf Diogelu Data 1998.