Sut i gofrestru

Os nad oes unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol, byddwch yn gymwys i gofrestru'ch system garthffosiaeth breifat am ddim:

  • mae mwy na 13 o bobl yn byw yn eich eiddo ac mae’r tanc carthion yn gollwng i suddfan yn y ddaear
  • mae mwy na 33 o bobl yn byw yn eich eiddo ac mae eich uned trin carthion gryno yn gollwng i gwrs dŵr
  • mae eich system garthffosiaeth yn gollwng i ddyfroedd daear ac mae o fewn 50 metr i ardal warchodedig neu ddynodedig, fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA neu SSSI) neu Barth Diogelu Ffynhonnell
  • mae eich system garthion ger ardal warchodedig neu ddynodedig, fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig neu Barth Diogelu Tarddiad Dŵr 
  • caiff y carthion eu gollwng 50 metr neu lai o ddyfrdwll neu ffynnon
  • mae eich eiddo o fewn 30 metr i’r garthffos fudr gyhoeddus.

Os oes adeilad yr ydych yn berchen arno nad yw wedi ei gysylltu â phrif garthffos, mae’n debyg y bydd eich carthion yn cael eu trin drwy:

  • tanc carthion (mae’r hylif yn treiddio i’r ddaear)
  • uned trin carthion gryno (caiff yr hylif ei drin hyd at lefel sy’n ddigon glân i lifo i mewn i afon neu nant).

Rhaid cofrestru’r cyfleusterau hyn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ym mwyafrif yr achosion, bydd angen cofrestru tanciau carthion ac unedau trin carthion cryno unwaith yn unig, yn ddi-dâl.

Cofrestrwch eich tanc carthion neu uned trin carthion gryno ar-lein

Fel arall, lawrlwythwch y ffurflen gofrestru ac anfonwch y ffurflen mewn e-bost at:ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Byddwn yn cysylltu â chi ar ôl ichi gofrestru os oes angen cymryd unrhyw gamau pellach.

Ni chaniateir tanciau carthion sy’n gollwng i’r ddaear yn uniongyrchol mwyach a bydd angen eu gwella, a hynny drwy ychwanegu system ymdreiddio neu uned trin carthion gryno.

Ystyrir bod carthbyllau’n niweidiol i’r amgylchedd a byddant yn cael eu hystyried dim ond ar gyfer anheddau presennol lle nad oes dim dewis ymarferol arall.

Pa wybodaeth y mae angen imi ei darparu?

Bydd angen inni wybod yr hyn a ganlyn:

  • eich enw, eich cyfeiriad, a’ch cod post
  • faint o ddŵr y mae eich tanc carthion yn ei ollwng (a amcangyfrifir yn ôl nifer y bobl sy’n byw yn eich eiddo)
  • os yw’r tanc carthion neu’r uned trin carthion gryno yn cael eu rhannu ag unrhyw eiddo arall
  • a yw’r elifion carthion sy’n cael eu gollwng yn mynd i ddŵr daear neu ddŵr wyneb. Os ydynt yn mynd i ddŵr daear, gallwch ddefnyddio tanc carthion neu uned trin carthion gryno drwy suddfan dŵr. Os yw’n mynd i ddŵr wyneb, rhaid ichi ddefnyddio uned trin carthion gryno
  • a wyddoch chi am unrhyw ffynhonnau neu ddyfrdyllau o fewn 50 metr (150 troedfedd) i’ch tanc carthion neu uned trin carthion gryno
  • cyfeirnod grid man gollwng y tanc carthion neu’r uned trin carthion gryno. I ganfod y cyfeirnod grid, ewch i: www.gridreferencefinder.com (mewnbynnwch y cod post, ac yna de-gliciwch ar leoliad y tanc)

Os na allwch ddarparu cyfeirnod grid neu fap o’r man gollwng, efallai y byddwn yn cysylltu â chi i’ch helpu gyda hyn ar ôl inni gael eich cais.

Beth sy’n digwydd ar ôl imi gyflwyno fy nghais?

Fel arfer, byddwn yn prosesu’ch cais o fewn 15 diwrnod gwaith.

Os bydd eich cais yn bodloni’r meini prawf, byddwn yn cofrestru eich tanc/iau yn ddi-dâl.

Os nad yw eich cais yn bodloni’r meini prawf, efallai y bydd yn rhaid ichi wneud cais am drwydded amgylcheddol ar gyfer gollwng elifion sydd wedi’u trin.

A yw fy system yn bodloni’r meini prawf?

Ni fydd eich system carthion breifat yn bodloni’r meini prawf os yw unrhyw un o’r pwyntiau canlynol yn berthnasol:

  • mae eich tanc carthion yn gwasanaethu 13 o bobl neu ragor
  • mae eich uned trin carthion gryno yn gwasanaethu 33 o bobl neu ragor
  • mae’r system garthion ger ardal warchodedig neu ddynodedig ar gyfer yr amgylchedd neu gyflenwad dŵr daear, er enghraifft Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig neu Barth Gwarchod Tarddiad Dŵr ar gyfer dŵr yfed (gallwn wirio hyn ar eich rhan pan fyddwn wedi cael eich cais)
  • os yw man gollwng y carthion 50 metr neu lai o ddyfrdwll neu ffynhonnell

Darllenwch am yr hyn y dylid ei wneud os gwrthodwyd cofrestriad di-dâl ichi.

Os oes angen cyngor arnoch ynglŷn â chofrestru, ffoniwch 0300 065 3000 (Llun-Gwe, 9am - 5pm).

Ar ôl ichi gofrestru

Mae cyfrifoldeb ar berchnogion tanciau carthion a systemau trin carthion cryno i gynnal eu systemau mewn cyflwr da er mwyn atal llygredd.

Dylech:

  • drefnu i gludwr gwastraff trwyddedig dynnu slwtsh dros ben o’r system yn rheolaidd
  • sicrhau bod y system yn cael ei chynnal yn briodol, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  • cadw pob cofnod (derbynebau cynnal a chadw, derbynebau gwagio’r tanc, cofnodion gwasanaethu) am o leiaf chwe blynedd
  • dweud wrthym os yw’n stopio gweithredu neu os ydych yn amau ei fod yn achosi llygredd

Os byddwch yn gwerthu eich cartref neu’n ei adael, nid oes rhaid ichi ddweud wrthym. Fodd bynnag, dylid trosglwyddo unrhyw ddogfennaeth briodol i’r perchennog newydd, ynghyd â chofnodion cynnal a chadw ar gyfer y system.

Bydd ein llyfr lòg cynnal a chadw a chanllawiau, y gellir eu lawrlwytho, yn eich helpu i reoli’ch system yn effeithiol a chyflawni rhwymedigaethau cyfreithiol.

Darllenwch ragor am redeg a chynnal eich tanc carthion neu uned trin carthion gryno.

Diweddarwyd ddiwethaf