Penderfyniad rheoleiddio 099: Awdurdodau casglu gwastraff: pryd y gallwch weithredu safleoedd casglu dros dro ychwanegol heb drwydded amgylcheddol
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 1 Mehefin 2025, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.
Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgareddau y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud â hwy wedi newid.
Penderfyniad rheoleiddiol
Weithiau ni all awdurdodau casglu gwastraff neu eu darparwyr dan gontract gynnal casgliadau gwastraff cartref arferol, oherwydd tywydd gwael, er enghraifft. Gallant ofyn i bobl fynd â'u gwastraff cartref i ganolfan casglu gwastraff dros dro. Bydd gwastraff yn cael ei gadw ar y safleoedd hyn mewn cynwysyddion cyn ei ddosbarthu i'r system rheoli gwastraff arferol.
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn caniatáu i awdurdodau casglu gwastraff weithredu safleoedd casglu dros dro ychwanegol heb drwydded amgylcheddol.
Os na fedrwch gydymffurfio â'r amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, mae angen i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol.
Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Rhaid i chi fodloni'r amodau hyn i gydymffurfio â'r penderfyniad rheoleiddiol hwn.
Rhaid i chi wneud y canlynol:
- cytuno ar y rhestr o safleoedd ychwanegol i’w defnyddio, a’r dyddiadau dechrau a gorffen, gyda Chyfoeth Naturiol Cymru cyn derbyn unrhyw wastraff
- cael pobl ar y safle yn ystod oriau gweithredu
- rhoi gwastraff yn uniongyrchol mewn cynwysyddion a pheidio â'i storio ar y ddaear
- sicrhau bod y safle yn ddiogel
Ni chewch wneud y canlynol:
- derbyn asbestos nac olew – rhaid mynd â’r mathau hyn o wastraff i safle sydd â thrwydded addas
- cadw gwastraff ar y safle dros nos
Gorfodi
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn gweithredu safleoedd casglu dros dro ychwanegol heb drwydded amgylcheddol.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.
Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:
- beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig