Penderfyniad rheoleiddio 055: Defnyddio teiars gwastraff cyfan wrth adeiladu

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 1 Mehefin 2025, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys. 

Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgareddau y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud â hwy wedi newid. 

Penderfyniad rheoleiddiol 

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys i storio a defnyddio teiars gwastraff cyfan yn sylfeini a waliau cynnal adeiladau. 

Fel arfer mae angen trwydded amgylcheddol arnoch ar gyfer gweithgaredd gwastraff i storio a defnyddio teiars gwastraff cyfan wrth adeiladu. 

Fodd bynnag, os byddwch yn dilyn yr amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn cewch storio a defnyddio teiars gwastraff cyfan wrth adeiladu heb drwydded amgylcheddol ar gyfer gweithgaredd gwastraff. 

Os na fedrwch gydymffurfio â'r amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, mae angen i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol. 

Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw 

Rhaid i chi fodloni'r amodau hyn i gydymffurfio â'r penderfyniad rheoleiddiol hwn. 

Rhaid i chi wneud y canlynol: 

  • sicrhau eich bod ond yn defnyddio teiars sydd wedi'u llenwi â phridd neu â deunydd anadweithiol nad yw’n wastraff
  • gorchuddio unrhyw deiars sydd wedi'u storio gyda deunydd gwrth-ddŵr fel nad ydynt yn agored i aer na dŵr
  • storio'r teiars mewn pentyrrau o ddim mwy na 10 tunnell
  • sicrhau bod bwlch o chwe metr o leiaf rhwng y pentyrrau
  • storio dim mwy na 40 tunnell o deiars ar y safle ar unrhyw adeg
  • dweud wrthym am leoliad eich prosiect adeiladu arfaethedig - rhaid i chi fod wedi cael cadarnhad ysgrifenedig gennym cyn i chi ddechrau ar y gwaith
  • cael cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer adeiladu'r adeilad
     

Gorfodi 

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn defnyddio teiars gwastraff cyfan wrth adeiladu. 

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn. 

Yn ogystal, ni chaiiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i’r amgylchedd na niweidio iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo: 

  • beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf