Penderfyniad rheoleiddio 044: Defnyddio agreg lludw gwaelod llosgydd heb ei rwymo mewn gweithgareddau adeiladu
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 31 Ionawr 2025, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.
Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgareddau y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud â hwy wedi newid.
Penderfyniad rheoleiddiol
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys os ydych yn defnyddio agreg lludw gwaelod llosgydd dinesig heb ei rwymo mewn gweithgareddau adeiladu penodol. Mae hefyd yn cynnwys storio agreg lludw gwaelod llosgydd dinesig mewn perthynas â'i ddefnydd.
Mae agreg lludw gwaelod llosgydd dinesig heb ei rwymo yn cynnwys agreg o’r fath mewn cymysgeddau sydd wedi'u rhwymo'n hydrolig. Ceir cymysgedd sydd wedi’u rhwymo’n hydrolig pan gaiff agreg lludw gwaelod llosgydd dinesig ei gymysgu â dŵr a rhwymwr fel sment i ffurfio cymysgedd sydd yna’n setio.
At ddiben y penderfyniad rheoleiddiol hwn, mae corff dŵr wyneb yn ddŵr tiriogaethol perthnasol, dŵr arfordirol perthnasol neu’n ddŵr croyw mewndirol perthnasol (fel y’i diffinnir gan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991).
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys i unrhyw weithgaredd arall, hyd yn oed os yw’n dod o dan yr un ddeddfwriaeth. Mae’n bosibl y bydd angen i chi gael trwyddedau eraill o hyd ar gyfer gweithgareddau eraill yr ydych chi’n eu cyflawni.
Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Gall defnyddio agreg lludw gwaelod llosgydd dinesig gynhyrchu hydrogen felly rhaid i chi gymryd camau diogelu priodol.
Rhaid i chi wneud y canlynol:
- ddilyn y canllawiau diogelu hydrogen yn y dalenni data diogelwch deunydd
- cydymffurfio â'r canllawiau ar waredu gwastraff busnes neu fasnachol
- cydymffurfio â rheolaethau gwastraff peryglus os ydych yn nodi’r mathau hyn o wastraff
- storio agreg lludw gwaelod llosgydd dinesig heb ei rwymo yn ddiogel
- dilynwch rhagofalon yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar gyfer defnyddio agreg lludw gwaelod llosgydd dinesig, neu fesurau cyfatebol eraill
- cadw cofnodion am ddwy flynedd sy’n dangos eich bod wedi cydymffurfio â’r penderfyniad rheoleiddiol hwn – rhaid i chi sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gais
Ar gyfer pob danfoniad, rhaid i'r cynhyrchydd gadarnhau (drwy gwblhau asesiadau risg) bod yr hyn a gyflenwyd yn bodloni'r holl amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn a chofnodi'r canlynol yn ysgrifenedig:
- y dyddiad cyflenwi
- enw a manylion cyswllt y cynhyrchydd a’r dosbarthwyr (fel y bo’n berthnasol), gan gynnwys cyfeiriad y safle cynhyrchu
- y swm a gyflenwyd (yn ôl pwysau neu gyfaint)
- datganiad gan y cynhyrchydd bod y deunydd yn bodloni'r safon berthnasol ar gyfer defnydd terfynol a bennir yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn a'i fod wedi'i gyflenwi at y defnydd hwnnw
Rhaid i chi roi copi o'r cofnod hwn i ddefnyddiwr terfynol yr agreg lludw gwaelod llosgydd dinesig heb ei rwymo. Rhaid i’r ddau barti wneud y canlynol:
- cadw'r cofnod am o leiaf ddwy flynedd
- sicrhau bod pob cofnod ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gais
Ni chewch storio na defnyddio agreg lludw gwaelod llosgydd dinesig heb ei rwymo o fewn:
- Parth Diogelu Tarddiad Dŵr Daear 1 neu 2
- 50 metr i unrhyw bistyll neu ffynnon, neu unrhyw dwll turio a ddefnyddir i gyflenwi dŵr, gan gynnwys cyflenwadau dŵr preifat
Rhaid i chi sicrhau nad yw eich gweithgaredd yn peryglu iechyd dynol na'r amgylchedd.
Ni chewch wneud y canlynol:
- defnyddio, neu gyflenwi i'w ddefnyddio, agreg lludw gwaelod llosgydd dinesig o dan unrhyw adeilad preswyl neu ardd
- storio agreg lludw gwaelod llosgydd dinesig am fwy na chwe mis cyn ei ddefnyddio
- peri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- achosi niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig
Rhaid i bob cynnyrch agregedig gydymffurfio â BS EN 13242 neu ag unrhyw ddiwygiad o’r safon honno. Mae angen i chi dalu am y safon hon.
Adeiladu is-sail ffordd
Gallwch ddefnyddio swm diderfyn o agreg lludw gwaelod llosgydd dinesig heb ei rwymo i adeiladu is-sylfaen ffordd ar yr amod:
- nad yw lled y gosodiad agreg lludw gwaelod llosgydd dinesig yn fwy na 40 metr
- bod y ffordd, y llwybr beicio neu’r llwybr troed yn asffalt, yn goncrit neu’n ddeunydd athreiddedd isel arall
Gwely pibell
Gallwch ddefnyddio hyd at 510 tunnell o agreg lludw gwaelod llosgydd dinesig heb ei rwymo fel gwely i bibellau mewn unrhyw brosiect adeiladu unigol. Nid yw hyn yn gymwys i unrhyw beth sydd wedi'i rannu'n artiffisial.
Adeiladu llwyfan adeiladu neu strwythurol
Gallwch ddefnyddio agreg lludw gwaelod llosgydd dinesig i adeiladu llwyfan adeiladu neu strwythurol sydd â thrwch cyfartalog o un metr. Rhaid iddo fod o leiaf 25 metr oddi wrth gorff dŵr wyneb. Rhaid i o leiaf 95% ohono fod wedi’i orchuddio'n llwyr gan arwyneb neu adeilad athreiddedd isel.
Mae faint o agreg lludw gwaelod llosgydd dinesig y gallwch ei ddefnyddio yn dibynnu ar y pellter i gorff dŵr wyneb fel y dangosir yn y tabl canlynol.
Pellter i'r corff dŵr (metrau) | Uchafswm tunelledd (tunelli) (sych) | Cyfaint ar ôl cywasgu gan dybio 1.7T/m3 (m3) | Uchafswm arwynebedd arwyneb llwyfan strwythurol (m2) |
---|---|---|---|
25-49 | 4,420 | 2,600 | 2,600 |
50-99 | 6,800 | 4,000 | 4,000 |
100-149 | 13,600 | 8,000 | 8,000 |
150-199 | 20,400 | 12,000 | 12,000 |
200-249 | 27,200 | 16,000 | 16,000 |
250-299 | 34,000 | 20,000 | 20,000 |
300-349 | 40,800 | 24,000 | 24,000 |
350-399 | 47,600 | 28,000 | 28,000 |
400-449 | 54,400 | 32,000 | 32,000 |
450-499 | 61,200 | 36,000 | 36,000 |
Mwy na 500 | 68,000 | 40,000 | 40,000 |
Gorfodi
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn defnyddio agreg lludw gwaelod llosgydd heb ei rwymo mewn gweithgareddau adeiladu.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.
Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:
- beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig