Penderfyniad rheoleiddio 091: Trin mewn depo wastraff o doiledau gwahanydd (compostio)
Mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 1 Mai 2025, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.
Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgaredd y mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud ag ef wedi newid.
Penderfyniad rheoleiddiol
Os ydych yn cydymffurfio â’r gofynion yn y penderfyniad rheoliadol hwn, cewch drin gwastraff solet o doiledau gwahanydd yn y depo lle cawsant eu llogi, heb drwydded amgylcheddol.
Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Rhaid:
- eich bod dim ond yn compostio yn y depo wastraff solet o doiledau gwahanydd a logwyd o’r depo hwnnw
- eich bod dim ond yn compostio gwastraff solet o doiledau gwahanydd sydd â system na all gollwng sy'n gwahanu wrin, solidau a gwastraff glanweithiol
- eich bod dim ond yn compostio gwastraff solet a oedd wedi'i gymysgu â blawd llif neu naddion o bren crai tra'r oedd y toiled compostio yn cael ei ddefnyddio
- eich bod yn compostio solidau mewn cynhwysydd diogel na all ollwng ar o leiaf 70°C am awr neu ar 60°C am 48 awr – rhaid i’r compost a gynhyrchir fod yn sefydlog a bod wedi’i ddiheintio fel y gellir ei ddefnyddio fel cyflyrwr pridd neu wrtaith
- eich bod yn storio ac yn compostio hyd at 10 tunnell o wastraff solet yn unig ar unrhyw adeg
- eich bod yn storio hyd at 1.5 metr ciwbig o halogion glanweithiol a halogion eraill yn unig ar unrhyw adeg
- eich bod yn storio unrhyw halogion glanweithiol a halogion eraill mewn cynwysyddion na allant ollwng ac sydd wedi'u selio, a dim ond am hyd at bum niwrnod gwaith
Rhaid i chi sicrhau nad yw eich gweithgareddau’n peryglu iechyd dynol na’r amgylchedd. Ni chewch wneud y canlynol:
- peri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig
Gorfodi
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraffpan ydych yn trin gwastraff o doiledau gwahanydd.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.
Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:
- beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig