Penderfyniad rheoleiddio 111: Trin, storio a defnyddio carbon deuocsid sy’n deillio o beirianwaith treulio anaerobig

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 31 Mai 2026, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.

Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgaredd y mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud ag ef wedi newid. 

Penderfyniad rheoleiddiol 

Mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys os ydych: 

  • yn dal CO2 a gynhyrchir o ganlyniad i uwchraddio o fio-nwy i fiomethan yn eich peirianwaith treulio anaerobig
  • yn trin ac yn storio CO2 yn eich peirianwaith treulio anaerobig neu yn rhywle arall, i fodloni safonau bwyd a diod neu safonau diwydiannol 

Nid yw’r penderfyniad rheoleiddiol hwn ond yn gymwys i gyfleusterau treulio anaerobig. Mae’n bosibl y bydd angen trwyddedau eraill arnoch o hyd ar gyfer gweithgareddau eraill yr ydych yn eu cyflawni. 

Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw  

Rhaid i chi wneud y canlynol: 

  • cynhyrchu CO2 i safonau bwyd a diod neu safonau diwydiannol gan ddefnyddio un neu ragor o'r technegau canlynol:
    • hidlo 
    • golchi 
    • distyllu 
    • cywasgu 
    • cyddwyso 
    • sychu 
    • oeri 
  • cynhyrchu CO2 sy'n bodloni neu a fydd yn bodloni safonau bwyd a diod neu safonau diwydiannol 
  • dangos bod gennych gontract ar waith ar gyfer prynu eich cynnyrch CO2 
  • dilyn canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (Saesneg yn unig)
  • cofnodi faint o CO2 sy'n cael ei gynhyrchu a'i storio ar y safle 
  • cyflawni cyfradd dal CO2 o 80% o leiaf 
  • cadw cofnodion am ddwy flynedd i ddangos eich bod wedi cydymffurfio â’r penderfyniad rheoleiddiol hwn a sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gais 

Ni chewch wneud y canlynol: 

  • storio mwy na 150 tunnell o CO2 ar unrhyw adeg 
  • storio CO2 am fwy na chwe mis cyn ei ddefnyddio

Nid yw’r penderfyniad hwn yn gymwys i’r canlynol:

  • Technegau gwahanu a thrin CO2 heblaw’r rhai a restrir uchod, ee technegau amsugno hylif gan ddefnyddio cemegau megis aminau 

Gorfodi 

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gydymffurfio â thrwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff. Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys i'r gweithgaredd a nodir yn unig. 

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol ar gyfer y gweithgaredd a bennir ac os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn. 

Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:

  • beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf