Datganiad rheoleiddio 058.3 Trin a gwaredu planhigion estron goresgynnol

Mae'r datganiad rheoleiddio hwn yn ddilys tan 31 Mai 2028 ac erbyn hynny bydd wedi cael ei adolygu. Dylech wirio eto bryd hynny i sicrhau bod y datganiad rheoleiddio yn dal yn ddilys.

Gall CNC dynnu'r datganiad rheoleiddio hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os byddwn o’r farn fod angen gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgareddau y mae'r datganiad rheoleiddio hwn yn ymwneud â hwy wedi newid.

Datganiad rheoleiddio

Mae'r datganiad rheoleiddio hwn yn ymwneud â phlanhigion a deunydd planhigion estron goresgynnol dŵr croyw a daearol.  

Mae'r datganiad rheoleiddio hwn yn berthnasol os ydych chi’n dymuno cael gwared ar ddeunydd planhigion estron goresgynnol a/neu'r swbstrad y mae wedi'i wreiddio ynddo i mewn i dir neu ar dir o fewn safle, heb drwydded wastraff gan CNC.

Os dilynwch yr amodau yn y datganiad rheoleiddio hwn, nid oes angen i chi wneud cais am drwydded wastraff i drin nac i gladdu deunydd planhigion estron goresgynnol.

Os yw'r planhigyn wedi'i restru fel rhywogaeth sy'n peri pryder, efallai y bydd angen i chi hefyd wneud cais am drwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o dan Orchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019. 

Efallai y bydd angen i chi wneud cais am gytundeb chwynladdwr gan CNC ar gyfer trin planhigion estron goresgynnol mewn rhai amgylchiadau.

Os na allwch gydymffurfio â'r amodau yn y datganiad rheoleiddio hwn ac os hoffech chi gael gwared ag unrhyw ddeunydd planhigion estron goresgynnol trwy ei gladdu ar y safle, neu ailddefnyddio priddoedd wedi'u rhidyllu neu eu sgrinio sy'n cynnwys clymog Japan neu glymogau estron goresgynnol eraill ar y safle, rhaid i chi wneud cais am drwydded wastraff gan CNC.

Amodau y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â nhw

Rhaid i chi fodloni rhai amodau er mwyn dilyn yr datganiad rheoleiddio hwn.

Trin neu gladdu pob math o ddeunydd planhigion estron goresgynnol ar y safle

Mae'n rhaid i chi :

  • Gael cynllun rheoli sy'n nodi sut y byddwch chi'n cloddio, yn trin neu’n claddu'r deunydd i atal twf neu ledaeniad pellach y tu hwnt i'r safle.
  • Cynnal asesiad risg bioddiogelwch o'r safle ac o'r gweithgareddau trin a/neu waredu arfaethedig sy'n nodi'r risg o ledaenu rhywogaethau planhigion estron goresgynnol a'r mesurau i liniaru'r risgiau hynny; rhoi mesurau ar waith i atal lledaeniad INNS o fewn y safle, ac i'r safle ac oddi yno (er enghraifft sicrhau bod yr holl gerbydau, offer a dillad yn cael eu harchwilio, eu glanhau a'u sychu cyn iddynt gyrraedd y safle a chyn iddynt adael).
  • Gofalu nad yw'r deunydd yn cynnwys llygryddion a fydd yn fygythiad i ansawdd dŵr daear.
  • Claddu’r deunydd ar dir â gwerth cynefin isel mewn ardal sy’n debygol o fod yn cael llonydd rhag unrhyw ymyrraeth ac sy’n fwy na 7 metr i ffwrdd o safle perchennog tir cyfagos. Mae tir â gwerth cynefin isel yn cynnwys tir sydd heb, er enghraifft, ddynodiadau cadwraeth, rhywogaethau gwarchodedig, cynefinoedd Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 neu gynefinoedd Atodiad I y Gyfarwyddeb Cynefinoedd.
  • Cadw cofnodion am 2 flynedd i ddangos eich bod wedi cydymffurfio â'r datganiad rheoleiddio hwn, a sicrhau bod y cofnodion hynny ar gael i CNC ar gais

Ni ddylech storio'r deunydd am fwy na 12 mis cyn ei drin neu ei gladdu.

Dylid trin planhigion estron goresgynnol â chwynladdwr gan ddilyn yr arfer gorau.

Llosgi deunydd planhigion ar y safle lle mae'n tyfu

Mae'n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cofrestru a chydymffurfio'n llawn ag esemptiad gwastraff D7
  • cydymffurfio â'r amodau yn y datganiad rheoleiddio hwn pan fyddwch chi'n claddu lludw ac unrhyw ddeunydd sy'n weddill ar y safle, neu pan fyddwch chi'n ei gymryd i'w waredu'n briodol mewn safle tirlenwi trwyddedig

Claddu deunydd planhigion nad yw'n glymog estron goresgynnol ar y safle

Mae'n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • Claddu deunydd dim ond ar ôl i chi ddiystyru opsiynau eraill nad ydynt yn achosi unrhyw risg i'r amgylchedd fel compostio heb unrhyw risg o aildyfiant neu ledaeniad.
  • Claddu priddoedd sy'n cynnwys planhigion neu ddeunydd planhigion hyfyw a allai aildyfu (er enghraifft planhigion, hadau, rhisomau, cormau neu ddarnau o blanhigyn) i ddyfnder o hyd at 2 fetr o leiaf ar y safle y daethant ohono. Dylid claddu Corchwyn Seland Newydd (Crassula helmsii ) hyd at ddyfnder o 2 fetr wedi'i selio â philen geotecstil.
  • Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw bilenni geotecstil a ddefnyddir ar gyfer claddu

    • heb ei ddifrodi
    • yn ddigon mawr i leihau'r angen am seliau
    • wedi'i selio'n ddiogel
    • yn gallu aros yn gyfan am o leiaf 50 mlynedd
    • yn gwrthsefyll golau uwchfioled

Ni ddylech gladdu mwy na 1,000 tunnell i gyd.

Claddu Clymog Japan neu glymogau estron goresgynnol eraill ar y safle

Mae clymogau goresgynnol yn cynnwys:

  • Clymog Japan
  • Corglymog Japan
  • Clymog fawr
  • Clymog Bohemia (hybrid)

Er mwyn adnabod llysiau'r clymog ewch i'r ddolen hon i ganllawiau Llywodraeth Cymru.

Gallwch gael gwared ar gansenni clymog brown marw trwy gompostio ar y safle, cyn belled â'u bod yn cael eu torri (nid eu tynnu) o leiaf 10cm uwchben y brigdyfiant.

Rhaid i chi gladdu deunydd planhigion clymog

  • Ar y safle y daeth ohono - gan gynnwys lludw, graean a phriddoedd a allai gynnwys clymog
  • Hyd at ddyfnder o 5 metr o leiaf os nad ydych wedi'i selio â philen geotecstil
  • Hyd at ddyfnder o 2 fetr o leiaf os ydych chi wedi'i selio â philen geotecstil
  • Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw bilenni geotecstil a ddefnyddir ar gyfer claddu
    • heb ei ddifrodi
    • yn ddigon mawr i leihau'r angen am seliau
    • wedi'i selio'n ddiogel
    • yn gallu aros yn gyfan am o leiaf 50 mlynedd
    • yn gwrthsefyll golau uwchfioled

Rhaid i chi beidio â chladdu mwy na 1,000 tunnell i gyd

Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio contractwr sydd â phrofiad o gladdu clymog, ac yn ddelfrydol gyda chynllun sicrwydd fel y rhai a gynigir gan gorff masnach perthnasol.

Rhaid i chi hysbysu CNC o leiaf wythnos cyn i chi gladdu deunydd y clymog gan ddefnyddio'r Datganiad Rheoleiddio hwn.

Ailddefnyddio priddoedd a graean wedi'u rhidyllu neu eu sgrinio sy'n cynnwys clymog Japan neu glymogau estron goresgynnol eraill ar y safle

Gallwch leihau faint o glymog sydd mewn pridd neu raean drwy sgrinio neu ridyllu, ond mae'n annhebygol y bydd hyn yn cael gwared ar yr holl egin (darn o ddeunydd a all ddatblygu'n blanhigyn newydd).

Rhaid i chi beidio â mynd â phriddoedd na graean sydd wedi'u sgrinio neu eu rhidyllu oddi ar y safle, ac eithrio i'w gwaredu mewn safle tirlenwi neu losgydd sydd â'r math cywir o drwydded. Rhaid i chi gael gwared ar unrhyw briddoedd neu raean sydd wedi'u sgrinio neu eu rhidyllu na chafodd eu defnyddio ar gyfer eu gwaredu mewn safle tirlenwi neu gyfleuster llosgi.

Gallwch ailddefnyddio priddoedd neu raean sydd wedi'u sgrinio neu eu rhidyllu ar y safle cynhyrchu, ond mewn ardal gyfyngedig yn unig - nid drwy eu gwasgaru ar draws y safle. Rhaid eu defnyddio hefyd ymhell oddi wrth y canlynol:

  • cyrsiau dŵr, ffosydd neu ardaloedd gwarchodedig – ddim o fewn 50 metr
  • terfynau ag eiddo cyfagos
  • ardaloedd amwynder, lawntiau a gerddi presennol
  • lleoedd y gall y bydd pobl neu dda byw yn eu defnyddio

Gwaredu deunyddiau sy'n cynnwys deunydd planhigion estron goresgynnol oddi ar y safle

Os na allwch waredu deunyddiau sy'n cynnwys deunydd planhigion estron goresgynnol mewn dull addas ar y safle, rhaid i chi ei anfon i safle tirlenwi neu gyfleuster llosgi sydd â'r math cywir o drwydded i dderbyn y gwastraff.

Mae hyn hefyd yn berthnasol os ydych chi'n cloddio deunydd a gafodd ei gladdu yn flaenorol gan ddefnyddio'r datganiad rheoleiddio hwn, ac yna'n ei symud oddi ar y safle.

Er mwyn cael gwybod i ble gallwch ei anfon, gallwch ddod o hyd i fanylion safleoedd gwastraff trwyddedig ar wefan CNC neu gysylltu â'ch safle gwaredu gwastraff lleol. Er mwyn cael gwared ar glymog Japan rhaid i chi ddweud wrth CNC eich bod wedi gwneud hynny a ble ydych wedi’i anfon.

Gorfodi

Nid yw'r datganiad rheoleiddio hwn yn newid eich gofyniad cyfreithiol i gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff wrth drin a gwaredu planhigion estron goresgynnol.

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os na fyddwch yn cydymffurfio â'r angen am drwydded amgylcheddol, os byddwch yn bodloni'r gofynion yn y datganiad rheoleiddio hwn.

Yn ogystal, rhaid i'ch gweithgarwch beidio ag achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, a rhaid iddo beidio ag:

  • achosi risg i’r dŵr, aer, pridd, planhigion neu i anifeiliaid
  • achosi niwsans drwy greu sŵn neu arogleuon
  • effeithio'n andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf