Penderfyniad rheoleiddio 020: Storio a thrin sbwriel, gwellt, slyri a dŵr golchi yn sgil brigiad o achosion o glefyd anifeiliaid sy’n hysbysadwy
Mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 1 Rhagfyr 2024, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny.
Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.
Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgaredd y mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud ag ef wedi newid.
Penderfyniad rheoleiddiol
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys i storio a thrin y gwastraff canlynol
- sbwriel
- gwellt
- slyri
- dwr golchi
Nid yw'r penderfyniad hwn yn caniatáu gwaredu gwastraff ar y safle nac oddi ar safle'r brigiad o achosion.
Rhaid i'r gwastraff fod wedi’i gynhyrchu wrth lanhau a diheintio ar ôl i frigiad o achosion o glefyd anifeiliaid gael ei gadarnhau gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).
Rhaid cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 oni bai y cytunir fel arall yn ysgrifenedig gan CNC.
Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Nid yw’r penderfyniad rheoleiddiol hwn ond yn gymwys pan fydd brigiad o achosion o glefyd anifeiliaid wedi'i gadarnhau gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
Rhaid i chi wneud y canlynol:
- dilyn gofynion yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion pan fyddwch yn storio ac yn trin gwastraff yn sgil brigiad o achosion o glefyd anifeiliaidhysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru cyn i chi drin sbwriel, gwellt, slyri a gwastraff dŵr golchi yn sgil brigiad o achosion o glefyd anifeiliaid
- cadw cofnodion am ddwy flynedd (tair blynedd ar gyfer gwastraff peryglus) i ddangos eich bod wedi cydymffurfio â’r datganiad sefyllfa rheoleiddiol hwn a sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i CNC ar gais
Rhaid i chi gael gwared ar eich dŵr golchi, sbwriel, gwellt a slyri drwy un o’r dulliau canlynol:
- rhyddhau dŵr golchi i garthffos fudr os oes gennych gymeradwyaeth ysgrifenedig gan eich ymgymerwr carthffosiaeth
- defnyddio cludwr gwastraff cofrestredig i gludo’r gwastraff i gyfleuster sydd wedi’i drwyddedu’n briodol gan ddefnyddio cod gwastraff 02 01 06 ar gyfer dŵr golchi sy’n cynnwys sbwriel, gwellt, tail a slyri, neu god gwastraff 16 10 02 neu 16 10 01* ar gyfer dŵr golchi
- ar gyfer taenu dŵr golchi i dir, rhaid i chi gysylltu â ni
I storio ar iard rhaid i chi:
- storio sbwriel gwastraff, gwellt, slyri a dŵr golchi ar wyneb anathraidd
- defnyddio system casglu a chyfyngu ar gyfer dŵr ffo hylifol sy’n bodloni gofynion Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021
I storio mewn cae, rhaid i chi:
- sicrhau mai dim ond gwastraff sbwriel a gwellt yn unig yr ydych yn eu storio
- storio sbwriel gwastraff a gwellt mewn pentyrrau llawn gyda phroffil siâp A
I storio mwen cae, ni chewch storio sbwriel gwastraff a phentyrrau gwellt:
- am fwy na 12 mis
- o fewn 10 metr i ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol
- o fewn 50 metr i bistyll, ffynnon neu dwll turio
- pan fo risg sylweddol y gallai llygredd fynd i mewn i ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol
- mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd
Gorfodi
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraffpan ydych yn storio ac yn trin sbwriel, gwellt, slyri a dŵr golchi o frigiad o achosion o glefyd anifeiliaid sy’n hysbysadwy
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.
Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:
- beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig