Penderfyniad rheoleiddio 049: Storio a thrin gwastraff asffalt
Mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2025, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.
Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgaredd y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud ag ef wedi newid.
Penderfyniad rheoleiddiol
Pan fo’r asffalt weedi’i godi, ei drin ac yna ei ailddefnyddio ar y safle lle cafodd ei godi, nid yw'n wastraff. Nid oes gwahaniaeth a yw'r driniaeth yn digwydd ar y safle hwnnw neu yn rhywle arall.
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn ond yn gymws i storio a thrin asffalt yn yr un safle lle mae i gael ei orchuddio â chymysgedd oer, a phan fo'r driniaeth yn cynnwys mathru, malu, sgrinio, graddio neu gymysgu.
Fel arfer mae angen trwydded amgylcheddol arnoch gan CNC i storio a phrosesu gwastraff asffalt i'w baratoi ar gyfer ei orchuddio â chymysgedd oer a’i ailddefnyddio.
Fodd bynnag, os ydych yn cydymffurfio â’r amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn nid oes angen trwydded amgylcheddol arnoch gan CNC ar gyfer y gweithgaredd hwn.
Os na fedrwch fodloni amodau'r penderfyniad rheoleiddiol hwn, rhaid i chi wneud wneud cais am drwydded amgylcheddol.
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys i unrhyw weithgaredd arall, hyd yn oed os yw’n dod o dan yr un ddeddfwriaeth. Mae’n bosibl y bydd angen i chi gael trwyddedau eraill o hyd ar gyfer gweithgareddau eraill yr ydych chi’n eu cyflawni.
Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Ni chewch storio na thrin gwastraff asffalt sy'n cynnwys col-tar neu fitwmen yn ysbeidiol nac yn barhaus ar yr un safle am fwy na 12 mis.
Uchafswm y gwastraff y gallwch ei storio ar y safle cyn ei drin yw:
- 500 tunnell o wastraff â chod 17 03 01* ar unrhyw adeg, neu 50,000 tunnell o fewn 12 mis
- 50,000 tunnell o wastraff â chod 17 03 02 o fewn 12 mis
Rhaid i chi wneud yn siŵr:
- bod gwaith mathru, malu, sgrinio neu raddio yn cael ei wneud gan beiriannau sydd wedi’u hawdurdodi gan awdurdod lleol o dan Ran B o Adran 3.5 (a) neu (c)
- bod triniaeth gorchuddio â chymysgedd oer ddilynol ar yr un safle wedi'i chwmpasu gan awdurdod lleol o dan Ran B o Adran 3.5 (e) awdurdodiad peiriannau symudol
- eich bod yn storio gwastraff â chod 17 03 01* ar arwyneb anathraidd gyda system ddraenio sydd wedi’i selio
Mae system ddraenio sydd wedi'i selio yn anathraidd – nid yw'n gollwng. Mae'n sicrhau:
- bod pob hylif sy’n rhedeg oddi ar yr wyneb yn pasio drwy'r system ddraenio sydd wedi'i selio
- bod pob hylif yn cael ei gasglu mewn swmp wedi'i selio, ac eithrio pan ellir ei ollwng yn gyfreithlon
Os bydd y deunydd sydd wedi'i orchuddio yn parhau i fod yn wastraff, caiff ei ddefnydd dilynol ei gwmpasu gan benderfyniad rheoleiddiol 025 – defnyddio gwastraff asffalt wedi'i drin sy'n cynnwys col-tar.
Rhaid i chi gadw cofnodion am ddwy flynedd sy'n dangos eich bod wedi cydymffurfio â'r penderfyniad rheoleiddiol hwn. Rhaid ichi sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i CNC ar gais.
Os yw gwastraff i'w roi ar dir heb ei baratoi. Dylid ystyried a gaiff pridd ei halogi a’i gywasgu, a dylid lliniaru yn erbyn unrhyw effaith negyddol a/neu ei hadfer.
Dylid cyfeirio at God Ymarfer Adeiladu DEFRA ar Ddefnyddio Pridd mewn Ffordd Gynaliadwy ar Safleoedd Adeiladu, a’r Canllaw Arfer Da ar gyfer Trin Priddoedd os oes angen.
Gorfodi
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn storio ac yn trin gwastraff asffalt.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.
Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:
- beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig