Penderfyniad rheoleiddio 071: Storio a sychu pren gwastraff cyn ei losgi mewn cyd-losgydd Rhan B
Bydd y penderfyniad rheoleiddiol hwn yn cael ei adolygu pan fydd y rheoliadau neu’r canllawiau rheoleiddio yn cael eu diwygio. Dylech wirio gyda ni o bryd i'w gilydd i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.
Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgareddau y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud â hwy wedi newid.
Penderfyniad rheoleiddiol
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys os ydych am storio a sychu pren gwastraff cyn ei losgi fel tanwydd mewn cyd-losgydd Rhan B annibynnol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Atodlen 1, adran 5.1, Rhan B o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.
Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Rhaid i chi fodloni'r holl amodau hyn i ddilyn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.
Rhaid i chi wneud y canlynol:
- feddu ar drwydded 5.1 Rhan B, a ddyroddwyd gan yr awdurdod lleol neu Cyfoeth Naturiol Cymru, ar gyfer llosgi coed gwastraff
- storio a sychu dim ond pren gwastraff heb ei drin sydd i'w ddefnyddio yn y cyd-losgydd Rhan B annibynnol
- dim ond storio’r swm o bren gwastraff sydd ei angen i weithredu'r cyd-losgydd Rhan B
- storio’r pren gwastraff yn ddiogel ac mewn pentyrrau heb fod yn fwy na phedwar metr o uchder
Ni chewch wneud y canlynol:
- storio mwy na 125 tunnell o bren gwastraff ar unrhyw adeg
- storio unrhyw bren gwastraff am fwy nag un mis
- darnu’r pren gwastraff, ei droi’n sglodion na’i drin ymlaen llaw
- cyflawni unrhyw weithgaredd gwastraff arall ar y safle o dan drwydded neu esemptiad gwastraff heblaw sychu pren gwastraff gan ddefnyddio gwres o’r cyd-losgydd
- sicrhau nad yw eich gweithgareddau’n peryglu iechyd dynol na’r amgylchedd
Gorfodi
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn storio a sychu pren gwastraff cyn ei losgi mewn cyd-losgydd Rhan B.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.
Yn ogystal, ni chaiiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i’r amgylchedd na niweidio iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:
- beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig