Penderfyniad rheoleiddio 090: Storio a dad-ddyfrio ysgubion stryd
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 1 Mai 2025, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.
Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgaredd y mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud ag ef wedi newid.
Penderfyniad rheoleiddiol
Bydd y rhan fwyaf o wastraff ysgubion stryd yn cynnwys dŵr. Bydd angen ei ddad-ddyfrio cyn iddo gael ei gasglu i'w adfer neu ei waredu. Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn caniatáu i chi ddefnyddio triniaeth ffisegol yn unig i ddad-ddyfrio ysgubion stryd.
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys i unrhyw weithgaredd arall, hyd yn oed os yw’n dod o dan yr un ddeddfwriaeth. Mae’n bosibl y bydd angen i chi gael trwyddedau eraill o hyd ar gyfer gweithgareddau eraill yr ydych chi’n eu cyflawni.
Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Ni ellir defnyddio’r penderfyniad rheoleiddiol hwn ond gan:
- awdurdodau lleol ac awdurdodau priffyrdd i storio a dad-ddyfrio ysgubion stryd y maent yn eu cynhyrchu cyn iddynt gael eu casglu i'w hadfer neu eu gwaredu
- contractwyr a gyflogir gan awdurdod lleol neu awdurdod priffyrdd ac sy’n glanhau strydoedd ac yn dyddodi’r gwastraff ar safle a reolir gan y contractwr cyn iddo gael ei gasglu i’w adfer neu ei waredu
Ni ellir defnyddio'r penderfyniad rheoleiddiol hwn:
- gan gontractwyr neu gasglwyr gwastraff eraill sy’n mynd â gwastraff ysgubion stryd i safle a reolir gan awdurdod lleol neu awdurdod priffyrdd
- ar gyfer gwastraff o gylis a systemau rhyng-gipio
Rhaid i chi sicrhau:
- eich bod yn storio a ac yn dad-ddyfrio ysgubion stryd ar wyneb anathraidd gyda system ddraenio sydd wedi’i selio*
- bod gan yr awdurdod lleol, yr awdurdod priffyrdd neu'r contractwr reolaeth dros yr ysgubion stryd a'r man lle maent yn cael eu storiobod yr ysgubion stryd yn cael eu storio yn unol â'r esemptiad gwastraff: NWFD 3 storio gwastraff dros dro mewn man a reolir gan y cynhyrchydd
- bod yr ysgubion stryd yn cael eu cadw mewn man diogel heb fynediad cyhoeddus
- eich bod yn cadw cofnodion am ddwy flynedd sy’n dangos eich bod wedi cydymffurfio â’r datganiad sefyllfa rheoleiddiol hwn – rhaid i chi sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i CNC ar gais
Mae system ddraenio sydd wedi'i selio yn anathraidd. Nid yw'n gollwng. Mae'n sicrhau bod unrhyw hylif:
- yn llifo oddi ar yr wyneb drwy'r system ddraenio sydd wedi'i selio
- yn cael ei gasglu mewn swmp sydd wedi'i selio, ac eithrio pan ellir ei ollwng yn gyfreithlon i garthffos fudr
Gorfodi
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraffpan ydych chi'n storio ac yn dad-ddyfrio ysgubion stryd.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.
Ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i’r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:
- beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig