Penderfyniad rheoleiddio 088: Storio a dad-ddyfrio slwtsh ocr haearn nad yw'n beryglus o byllau glo segur
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 1 Mehefin 2025, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.
Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgareddau y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud â hwy wedi newid.
Penderfyniad rheoleiddiol
Nid yw’r penderfyniad rheoleiddiol hwn ond yn gymwys i storio a dad-ddyfrio slwtsh ocr haearn nad yw'n beryglus a gynhyrchir o drin gollyngiadau i ddŵr o byllau glo segur yng Nghymru.
Slwtsh hylifol yw ocr haearn sy'n cynnwys haearn hydrocsid (Fe(OH)3) a gynhyrchir mewn systemau gwaddodi wrth drin dyfroedd mwyngloddiau o byllau glo segur.
Rhaid i'r slwtsh gael ei ddad-ddyfrio mewn gwely sychu pwrpasol ar safle a reolir gan yr Awdurdod Glo neu ei gontractwyr.
Mae'n gymwys ir slwtsh ocr haearn:
- sydd wedi’i gynhyrchu ar y safle
- sydd wedi cael ei fewnforio o safle trin dŵr mwyngloddio arall a reolir gan yr Awdurdod Glo neu ei gontractwyr
Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Rhaid i chi wneud y canlynol:
- storio a dad-ddyfrio slwtsh ocr haearn ar safle a reolir gan yr Awdurdod Glo neu ei gontractwyr
- storio a dad-ddyfrio slwtsh ocr haearn mewn man diogel heb fynediad cyhoeddus
- storio a dad-ddyfrio slwtsh ocr haearn mewn gwelyau sychu slwtsh a adeiladwyd yn bwrpasol i atal llygredd, a lle mae unrhyw ddŵr wrth waelod y gwely yn cael ei gasglu a'i ddraenio yn ôl i'r system drin mewn lleoliad priodol
- atal dŵr ffo rhag llifo o wyneb y gwely sychu yn ystod glaw trwm
- atal llygredd o unrhyw ddŵr a gynhyrchir wrth waelod y gwely sychu
- cysylltu ag Arweinydd Dŵr Cloddfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru eich ardal cyn i chi fewnforio slwtsh ocr haearn o safle arall gan ddarparu’r manylion y cytunwyd arnynt
- peidio â mewnforio slwtsh ocr haearn o safle arall oni bai eich bod yn gwneud hynny yn unol â datganiad dull sy'n lleihau'r risg o lygredd
- cadw cofnodion i ddangos eich bod wedi cydymffurfio â’r penderfyniad rheoleiddiol hwn a sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gais
- sicrhau bod rhaid i’r slwtsh ocr sydd wedi’i drin gael ei waredu neu ei adfer yn ei flaen ar safle gwaredu/adfer trwyddedig yn dilyn y camau nodweddu a dosbarthu gwastraff angenrheidiol
- sicrhau bod y ddyletswydd gofal o ran gwastraff yn cael ei chyflawni ar gyfer symud gwastraff
Ni chewch wneud y canlynol:
- trin mwy o slwtsh na chapasiti gweithredu diogel y gwely sychu slwtsh ar unrhyw adeg
- mewnforio, i unrhyw safle o fewn unrhyw flwyddyn galendr, fwy na 15,000m3 o slwtsh ocr haearn nad yw’n beryglus i’w ddad-ddyfrio
Gorfodi
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn storio a ac yn dad-ddyfrio slwtsh ocr haearn nad yw'n beryglus o byllau glo segur.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.
Yn ogystal, ni chaiiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i’r amgylchedd na niweidio iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:
- beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig
Cysylltwch ag Arweinydd Dŵr Cloddfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru eich ardal cyn i chi fewnforio slwtsh ocr haearn o safle arall.