Datganiad rheoleiddio 131: Storio Offer Cyfnewid Tymheredd Gwastraff (WTEE) (oergelloedd a rhewgelloedd) o dan esemptiad gwastraff S2
Mae’r datganiad rheoleiddio hwn yn ddilys tan 1 Awst 2027, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y datganiad rheoleiddio yn dal i fod yn ddilys.
Gall CNC dynnu’r datganiad rheoleiddio hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgaredd y mae’r datganiad rheoleiddio hwn yn ymwneud ag ef wedi newid.
Datganiad rheoleiddio
Mae'r Datganiad Rheoleiddio (DRh) hwn yn berthnasol os ydych yn storio Offer Cyfnewid Tymheredd Gwastraff (WTEE) o dan esemptiad gwastraff S2.
Mae esemptiad S2 yn caniatáu storio'r math hwn o wastraff, ond mae amodau'n cyfyngu ar sut y dylid storio'r gwastraff hwn. Pan fydd WTEE yn cael ei storio o dan yr esemptiad hwn, mae’r DRh hwn yn egluro na fyddwn yn gorfodi’r gofyniad i storio WTEE ar safle am hyd at gyfnod o 12 mis, na'r gofyniad am orchudd sy'n dal dŵr (oni bai ei fod wedi'i ddifrodi/yn gollwng).
Mae WTEE yn eitemau sy'n cynnwys nwyon oerydd anweddol neu gyfrwng chwythu ewyn insiwleiddio, gan gynnwys:
- offer oergell a rhewgell – unedau domestig, masnachol a diwydiannol (er enghraifft, oergelloedd, rhewgelloedd cist, cypyrddau arddangos oer), gan gynnwys paneli insiwleiddio a drysau wedi'u tynnu oddi ar offer ac ystafelloedd oer
- offer aerdymheru, ac eithrio gosodiadau parhaol mewn adeiladau a gosodiadau diwydiannol mawr
- pympiau gwres
- sychwyr dillad pwmp gwres, gan gynnwys peiriannau golchi a sychu dillad cyfunol
- offer dadleithydd
- offer sy'n dosbarthu cynhyrchion oer (er enghraifft, oeryddion dŵr, peiriannau hufen iâ a dosbarthwyr ciwbiau iâ)
Nid yw'r DRh hwn yn berthnasol i unrhyw weithgarwch arall, hyd yn oed os yw’n dod o dan yr un ddeddfwriaeth. Efallai y bydd angen trwyddedau neu ganiatâd arall arnoch o hyd ar gyfer gweithgarwch arall y byddwch yn ei gyflawni.
Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Mae'n rhaid i chi wneud y canlynol:
- cofrestru esemptiad S2 yn y lleoliad lle rydych yn storio'r WTEE os nad yw eisoes wedi'i gofrestru
- storio dim ond WTEE a gaiff ei ddisgrifio fel Rhestr Gwastraff 16 02 11*, 16 02 13*, 20 01 23*
- storio gwastraff ar arwyneb anhydraidd gyda chyfleuster draenio wedi'i selio
- cadw cofnodion am 2 flynedd sy'n dangos eich bod wedi cydymffurfio â'r DRh hwn – rhaid i chi sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i Gyfoeth Naturiol Cymru ar gais
- cydymffurfio â'r canllawiau ar drin gwastraff busnes neu wastraff masnachol
- cydymffurfio â rheolaethau gwastraff peryglus
- rhoi gwybod i CNC os ydych yn bwriadu defnyddio'r Datganiad Rheoleiddio hwn a rhoi eich cyfeirnod cofrestru esemptiad gwastraff S2 drwy e-bostio ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gyda rhif cyfeirnod y DRh yn y llinell pwnc.
Rhaid i chi beidio â:
- storio gwastraff am fwy na 12 mis
- trin unrhyw WTEE sy'n cael ei storio o dan y DRh hwn
- storio gwastraff cymysg
- cymysgu gwastraff peryglus â gwastraff nad yw'n beryglus
Gorfodi
Nid yw'r datganiad rheoleiddio hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff wrth storio WTEE.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y datganiad rheoleiddio hwn.
Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:
- beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig