Penderfyniad rheoleiddio 061: Storio dip defaid gwastraff mewn man a reolir gan y cynhyrchydd

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 30 Mehefin 2025, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.

Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgareddau y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud â hwy wedi newid.

Penderfyniad rheoleiddiol

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys i storio dip defaid gwastraff (cod gwastraff 02 01 09) mewn man a reolir gan gynhyrchydd y gwastraff, tra bo'n aros iddo gael ei gasglu ar gyfer ei drin, ei adfer neu ei waredu.

Mae contractwyr amaethyddol yn aml yn dipio defaid ar ran ffermwyr. Gellir mynd â'r dip gwastraff a gynhyrchir i'w adfer neu ei waredu a'i storio gan y cynhyrchydd o dan Esemptiad 3 y Gyfarwyddeb Fframwaith Deunydd nad yw’n Wastraff (NWFD3). Contractwr yw’r person(au) a gynhyrchodd y dip sydd wedi’i ddihysbyddu fel rhan o’r gweithgareddau dipio defaid ar ffermydd, ac ystyrir mai’r contractwr yw cynhyrchydd y gwastraff.

Mae NWFD3 yn caniatáu i gynhyrchydd gwastraff storio gwastraff hylifol, ond mae wedi'i gyfyngu i 1,000 litr. O ganlyniad, fel arfer bydd angen trwydded amgylcheddol ar gontractwr ar gyfer gweithrediad gwastraff i storio mwy na 1,000 litr o wastraff hylifol. Fodd bynnag, os ydych yn cydymffurfio â'r amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, nid oes angen trwydded amgylcheddol arnoch ar gyfer gweithrediad gwastraff ar gyfer y gweithgaredd hwn.

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys i unrhyw weithgaredd arall, hyd yn oed os yw’n dod o dan yr un ddeddfwriaeth. Mae’n bosibl y bydd angen i chi gael trwyddedau eraill o hyd ar gyfer gweithgareddau eraill yr ydych chi’n eu cyflawni.

Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw

Rhaid i chi wneud y canlynol:

  • sicrhau bod y dip defaid sydd wedi’i ddihysbyddwyd a'i storio yn cael ei adfer neu ei waredu, mewn cyfleuster gwastraff addas trwyddedig
  • storio dip defaid gwastraff yn unig (cod gwastraff 02 01 09)
  • gwanhau’r dip defaid gwastraff i’w ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr yn y man defnyddio a sicrhau ei fod yn is na’r trothwyon gwastraff peryglus
  • storio dip defaid gwastraff mewn ardal â bwnd gyda sylfaen anathraidd sy’n gallu dal 110% o gapasiti’r cynhwysydd mwyaf neu 25% o gyfanswm y cyfaint y gellid ei storio, pa un bynnag sydd fwyaf
  • storio’r dip defaid gwastraff mewn man diogel:
    - sydd o leiaf 10 metr oddi wrth gwrs dŵr
    - sydd o leiaf 50 metr oddi wrth bistyll, ffynnon neu dwll turio nas defnyddir i gyflenwi dŵr at ddibenion domestig neu gynhyrchu bwyd
    - nad yw o fewn Parth Diogelu Tarddiad Dŵr Daear 1 nac o fewn 250 metr i unrhyw dwll turio a ddefnyddir i gyflenwi dŵr at ddibenion domestig neu gynhyrchu bwyd (pa bellter bynnag sydd fwyaf)

Ni chewch wneud y canlynol:

  • storio dip defaid gwastraff am fwy na thri mis
  • storio mwy nag 20 metr ciwbig (20,000 litr) o ddip defaid gwastraff ar unrhyw adeg
  • cael gwared ar ddip defaid gwastraff i dir o dan drwydded gweithgaredd dŵr daear y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol. Rhaid ei drosglwyddo i gyfleuster gwastraff i'w adfer neu ei waredu ar ôl ei storio

Gorfodi

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn storio dip defaid gwastraff mewn man a reolir gan y cynhyrchydd.

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.

Yn ogystal, ni chaiiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i’r amgylchedd na niweidio iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:

  • beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf