Penderfyniad rheoleiddio 029: Storio cynwysyddion aerosol gwastraff

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 1 Mehefin 2025, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.

Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgareddau y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud â hwy wedi newid.

Penderfyniad rheoleiddiol

Os byddwch yn cydymffurfio â'r gofynion isod, byddwn yn caniatáu storio cynwysyddion aerosol gwastraff ar safle cwmni gwasanaethau ystafell ymolchi heb drwydded amgylcheddol.

Mae'r diwygiadau i'r drefn esemptiadau gwastraff a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2010 wedi dileu esemptiad blaenorol a oedd yn cwmpasu storio cynwysyddion aerosol gwastraff.

Mae hyn yn golygu y byddai disgwyl fel arfer i weithredwyr sy’n bwriadu storio cynwysyddion aerosol gwastraff cyn eu gwaredu neu eu hadfer yn rhywle arall wneud cais am drwydded amgylcheddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Os na fedrwch gydymffurfio â'r amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, mae angen i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol.

Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw

Ni fyddwn yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr sy'n dymuno storio cynwysyddion aerosol gwastraff, sy’n deillio o waith gwasanaethu ystafelloedd ymolchi a chyfleusterau hylendid tebyg, cyn eu gwaredu neu eu hadfer yn rhywle arall, wneud cais am drwydded amgylcheddol ar yr amod:

  • bod y cynwysyddion yn cael eu storio i ffwrdd o'r safle cynhyrchu
  • nad yw'r cyfaint sy’n cael ei storio yn fwy na thri metr ciwbig
  • nad ywunrhyw eitem yn cael ei storio am fwy na thri mis
  • eich bod yn dilyn y canllawiau perthnasol

Mae cynwysyddion aerosol yn wastraff peryglus a bydd y rheolaethau sy'n briodol i wastraff peryglus yn dal i fod yn berthnasol. Fodd bynnag, ar gyfer trosglwyddo llwythi o'r caniau o'r safle cynhyrchu i'r man casglu cyntaf, nid oes angen i chi nodi llwythi ar wahân ar gyfer y cynwysyddion aerosol hyn ar eich ffurflen derbynnydd cyn belled ag y dilynir rheolau penodol. Manylion ynghylch rhanddirymiadau dychweliadau traddodai (Saesneg yn unig).

Dylid caniau aerosol gwastraff fod wedi’u pecynnu a'u cludo yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.

Mwy o wybodaeth am becynwaith priodol (Saesneg yn unig).

Mwy o wybodaeth am gludo nwyddau (Saesneg yn unig).

Gorfodi

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn storio cynwysyddion aerosol gwastraff ar safle cwmni gwasanaethau ystafell ymolchi.

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.

Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddoff:

  • beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf