Penderfyniad rheoleiddio 021: Taenu ar dir laeth gwastraff sy’n deillio o frigiad o achosion o glefyd anifeiliaid a nodwyd gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion

Mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 1 Rhagfyr 2024, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.

Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgaredd y mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud ag ef wedi newid.

Penderfyniad rheoleiddiol

Rhaid i'r gwastraff fod wedi’i gynhyrchu wrth lanhau a diheintio ar ôl i frigiad o achosion o glefyd anifeiliaid gael ei gadarnhau gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Rhaid cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 oni bai y cytunir fel arall yn ysgrifenedig gan CNC. Gall y penderfyniad rheoleiddiol hwn gynnwys gofynion ychwanegol.

Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw

Nid yw’r penderfyniad rheoleiddiol hwn ond yn gymwys pan fydd brigiad o achosion o glefyd anifeiliaid wedi'i gadarnhau gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.

Ni chewch ond taenu llaeth gwastraff:

  • sydd wedi'i nodi gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i'w waredu
  • sydd wedi'i ddiheintio fel rhan o fesurau rheoli clefydau sy'n ofynnol gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • nad yw wedi cael ei storio am fwy na 24 awr
  • sydd wedi'i wanhau ag o leiaf yr un faint o ddŵr neu slyri (neu'r ddau)
  • ar gyfradd daenu o ddim mwy nag 20 metr ciwbig yr hectarar dir lle mae risg isel o ddŵr ffo fel y'i diffinnir gan Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (Saesneg yn unig)
  • unwaith mewn unrhyw gyfnod o bedair wythnos
  • gyda chytundeb CNC drwy e-bost

O ran tir sydd â risg isel o ddŵr ffo:

  • mae ganddo lethr cyfartalog o lai na thair gradd
  • nid oes ganddo ddraeniau tir heblaw pibellau anathraidd wedi'u selio
  • nid yw wedi'i ddraenio gan bibellau, na'i ddraenio â drain a wnaed ag aradr wadd nac wedi'i isbriddio yn ystod y 12 mis diwethaf
  • nad oes ganddo bridd bas sy’n llai na 30cm uwchben craig â holltau
  • mae ganddo bridd sydd o ddyfnder digonol a math addas uwchlaw dŵr daear i atal llygredd
  • nid yw o fewn Parth Gwarchod Tarddiad Dŵr Daear Dynodedig 1
  • mae’r tir hwnnw o leiaf 50 metr oddi wrth ddŵr wyneb neu sianel sy'n arwain at ddŵr wyneb
  • mae’r tir hwnnw o leiaf 50 metr oddi wrth bistylloedd, ffynhonnau a thyllau turio pan fo dŵr daear yn cael ei ddefnyddio i'w yfed gan bobl
  • nid oes ganddo bridd wedi'i gywasgu neu arwyneb pridd sydd wedi'i gapio – ni chewch ond taenu llaeth lle mae'r pridd yn athraidd a bod ganddo strwythur da
  • nid oes ganddo bridd wedi’i hollti uwchlaw system ddraenio tir neu ddŵr daear

Ni chewch ddefnyddio’r tir ar gyfer:

  • cnydau pori neu gnydau bwydo i foch am o leiaf deufis ar ôl taenu llaeth gwastraff
  • unrhyw anifeiliaid ac eithrio moch am o leiaf dair wythnos ar ôl taenu llaeth gwastraff

Rhaid i chi sicrhau nad yw eich gweithgareddau’n peryglu iechyd dynol na’r amgylchedd. Ni chewch wneud y canlynol:

  • peri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig

Gorfodi

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraffan ydych chi'n taenu gwastraff i'r tir.

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.

Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:

  • beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf