Datganiad rheoleiddio 114.2: gofynion data cynhyrchwyr â chyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr am ddeunydd pecynnu
Mae’r datganiad rheoleiddio hwn yn ddilys tan 2 Ebrill 2028, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y datganiad rheoleiddio yn dal i fod yn ddilys.
Gall Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) dynnu’r datganiad rheoleiddio hwn yn ôl, neu ei ddiwygio, cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgareddau y mae'r datganiad rheoleiddio hwn yn ymwneud â hwy wedi newid.
Datganiad rheoleiddio
Ni fydd CNC yn cymryd camau gorfodi yn eich erbyn os na fyddwch yn casglu ac yn adrodd ar ddata sy’n ymwneud â’r wlad gwerthu a gwastraff sefydliadol hunan-reoledig, o dan Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024, ar gyfer y cyfnodau penodol a nodir isod.
1. Cenedl gwerthu a data gwastraff sefydliadau hunan-reoledig 2026
Data a gasglwyd gan gynhyrchwyr am y cyfnod 1 Ionawr i 31 Rhagfyr 2026, i’w adrodd erbyn 1 Ebrill 2027.
2. Cenedl gwerthu a data gwastraff sefydliadau hunan-reoledig 2027
Data a gasglwyd gan gynhyrchwyr am y cyfnod 1 Ionawr i 31 Rhagfyr 2027, i’w adrodd erbyn 1 Ebrill 2028.
Gorfodi
Nid yw'r datganiad rheoleiddio hwn yn newid nac yn dileu unrhyw un o'ch rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol penodol a nodir yn y datganiad rheoleiddio hwn.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y datganiad rheoleiddio hwn, e-bostiwch packaging@naturalresourceswales.gov.uk.