Penderfyniad rheoleiddio 051: Gwastraff wedi'i gloddio o ganlyniad i waith gosod a thrwsio cyfleustodau

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 30 Mehefin 2024, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys. 

Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgaredd y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud ag ef wedi newid. 

Penderfyniad rheoleiddiol

Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys i fusnesau sy'n delio â gwastraff a gloddiwyd wrth gyflawni gwaith gosod a thrwsio cyfleustodau nas cynlluniwyd. 

Mae'n eich caniatáu i ddosbarthu rhai mathau o wastraff a gloddiwyd yn wastraff nad yw'n beryglus. Mae hyn yn golygu y gallwch ei symud fel gwastraff nad yw'n beryglus o dan nodyn trosglwyddo gwastraff. 

Os ydych yn dilyn yr holl amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, nid oes angen i chi gwblhau asesiad o wastraff peryglus ar gyfer gwastraff a gloddiwyd a gwmpesir gan y penderfyniad rheoleiddiol hwn. Os na fedrwch ddilyn yr amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, rhaid i chi ddilyn y canllawiau technegol ar gyfer dosbarthu gwastraff (Saesneg yn unig) er mwyn asesu a dosbarthu’r unrhyw wastraff a gloddiwyd.

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys i unrhyw weithgaredd arall, hyd yn oed os yw’n dod o dan yr un ddeddfwriaeth. Mae’n bosibl y bydd angen i chi gael trwyddedau eraill o hyd ar gyfer gweithgareddau eraill yr ydych chi’n eu cyflawni.

Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw  

Nid yw’r penderfyniad rheoleiddiol hwn ond yn ymwneud â gwastraff a gloddiwyd ac a gynhyrchir gan (neu ar ran) cwmnïau cyfleustodau sy’n aelodau o Street Works UK ac: 

  • sy’n deillio o waith gosod a thrwsio cyfleustodau nas cynlluniwyd
  • a fyddai’n cael ei ddosbarthu o dan y codau a ganlyn o’r Catalog Gwastraff Ewropeaidd (EWC):
    - 17 01 01 concrit
    - 17 01 02 brics
    - 17 01 03 teils a deunyddiau seramig
    - 17 01 07 cymysgeddau nad ydynt yn beryglus o goncrit, brics, teils a deunyddiau seramig
    - 17 03 02 cymysgeddau bitwminaidd nad ydynt yn beryglus
    - 17 05 04 pridd a cherrig  
    - 17 09 04 gwastraff adeiladu a dymchwel cymysg nad yw'n beryglus
  • na fyddai’n cael ei ddosbarthu’n wastraff peryglus o dan weithdrefnau cwmni’r cynhyrchydd
  • nad yw’n hysbys eu bod yn beryglus, neu nas amheuir yn rhesymol eu bod yn beryglus, am resymau sy’n cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol):
    - gellir gweld ac arogli bod hydrocarbonau a chemegion eraill yn bresennol
    - gellir gweld bod y gwastraff yn cynnwys darnau o ddeunydd sy'n cynnwys asbestos
    - y ffaith bod y gwastraff yn cynnwys arwynebau ffyrdd asffalt (tarmac) sy'n debygol o gynnwys col-tar – er enghraifft arwynebau a osodwyd yn y 1980au neu cyn hynny
    - y ffaith bod yn gwastraff wedi dod o gloddiadau ar safleoedd halogedig os oedd ymchwiliadau safle blaenorol wedi nodi bod gwastraff peryglus yno 
     

Rhaid i chi wneud y canlynol: 

  • anfon y gwastraff i safle trwyddedig
  • disgrifio’r gwastraff a gloddiwyd ar unrhyw nodyn cludo fel ‘heb ei asesu a’i ddosbarthu gan ddibynnu ar RD051’
  • cadw cofnodion am ddwy flynedd sy’n dangos eich bod wedi cydymffurfio â’r penderfyniad rheoleiddiol hwn – rhaid i chi sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i CNC ar gais 

Ni chewch wneud y canlynol: 

  • cynhyrchu mwy na 10 metr ciwbig o wastraff ar y safle cloddio
  • trin na defnyddio'r gwastraff o dan esemptiad 

Gorfodi 

Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi ddosbarthu gwastraff pan ydych yn cynhyrchu gwastraff wedi'i gloddio o ganlyniad i osod ac atgyweirio cyfleustodau. 

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â gofynion dosbarthu gwastraff os ydych yn bodloni gofynion y penderfyniad rheoleiddiol hwn. 

Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo: 

  • beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  • peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  • cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf