Cynnal asesiad risg ar gyfer trwydded bwrpasol i ddodi gwastraff i'w adfer
Bydd angen i chi gynnal asesiad risg ar gyfer cais pwrpasol am drwydded.
Rhaid i chi atal neu leihau allyriadau o’ch gweithgaredd adfer os yw eich asesiad risg yn awgrymu y bydd eich safle’n effeithio ar y canlynol:
- trigolion, eiddo neu safleoedd cynefinoedd dynodedig lleol
- dŵr daear neu ddŵr wyneb
Dylech ddilyn y canllawiau cyffredinol ar sut i gynnal asesiadau risg ar gyfer eich trwydded amgylcheddol (GOV.UK). Rhaid i chi hefyd gynnal asesiad risg dŵr. Efallai y bydd angen i’ch asesiad risg hefyd gynnwys gwybodaeth am y canlynol:
- gwaith peirianneg
- risg o nwy
- monitro ôl-ofal
Asesiad risg dŵr
Rhaid i chi ddefnyddio dull haenog i wneud eich asesiad risg hydroddaearegol. Mae hyn yn golygu, po fwyaf yw'r risg o lygredd, y mwyaf manwl y bydd yr asesiad y byddwch yn ei gynnal.
Bydd angen i chi gynnal asesiad risg ansoddol. Gall hyn arwain at asesiad risg meintiol os yw eich gweithgaredd adfer gwastraff mewn lleoliad sensitif.
Os yw eich model safle cysyniadol yn dangos bod y gwastraff yr ydych yn bwriadu ei ddefnyddio yn annhebygol o fod yn berygl i ddŵr daear neu ddŵr wyneb, yna nid oes angen i chi gynnal asesiad risg dŵr daear meintiol.
Os yw eich asesiad risg yn awgrymu y bydd eich gweithgaredd yn cael effaith ar ddŵr daear neu ddŵr wyneb, rhaid i chi osod haen wanhau. Rhaid i chi ddefnyddio deunydd addas gyda thrwch ac athreiddedd priodol i atal llygredd.
Os oes angen i chi gyflawni gwaith peirianneg
Lle mae eich asesiad risg yn dangos bod angen i chi wneud gwaith peirianyddol, rhaid i chi gynnwys gwybodaeth yn eich cais lle mae angen i chi wneud y canlynol:
- gwneud gwaith peirianneg i amddiffyn yr amgylchedd rhag eich gweithgaredd – er enghraifft, gosod haen wanhau
- monitro'r amgylchedd – er enghraifft, trwy osod tyllau turio monitro
Gellir cael gwybod am gynigion adeiladu peirianyddol ar gyfer dodi gwastraff i'w adfer.
Os nodir risg o nwy
Lle mae eich asesiad risg yn awgrymu bod risg o nwy a’ch bod yn bwriadu dodi gwastraff fwy na dau fetr o dan wyneb y ddaear o amgylch, rhaid i chi fonitro eich gwastraff ar gyfer y canlyno0l:
- methan
- carbon deuocsid
- ocsigen
Rhaid i chi osod y nifer priodol o dyllau turio monitro fesul hectar fel y nodir yn eich asesiad risg. Rhaid i'r tyllau turio ymestyn i ddyfnder llawn y gwastraff.
Gallwch ddibynnu ar fonitro bar chwilio (a elwir hefyd yn brawf pigyn) lle mae cyfanswm dyfnder y gwastraff yn llai na phedwar metr, neu cyn i'r gwaith dodi gael ei gwblhau. Rhaid i chi gofnodi'r gwasgedd atmosfferig pan fyddwch yn cymryd darlleniadau nwy.
Os byddwch yn canfod 1.5% v/v (cyfaint fesul cyfaint) o fethan yn eich tyllau turio monitro gwastraff, rhaid i chi gynnal arolwg nwy ar droed.
Darganfyddwch sut i gynnal arolwg nwy ar droed.
Bydd pa mor aml y bydd angen i chi fonitro yn dibynnu ar eich asesiad risg a morffoleg y safle.
Os nad ydych am wneud gwaith monitro, rhaid i chi esbonio pam yn eich cais am drwydded.
Monitro ôl-ofal
Efallai y bydd angen i chi wneud gwaith monitro ôl-ofal i gadarnhau bod y gwastraff yn sefydlog yn ffisegol ac yn gemegol.
Os gwnaethoch waith monitro pan oeddech yn dodi’r gwastraff, rhaid i chi barhau â’r gwaith monitro hwnnw am gyfnod byr ar ôl i’r safle gau. Bydd hyd yr amser y gwnewch hyn yn dibynnu ar yr hyn y daethoch o hyd iddo yn eich gwaith monitro yn ystod y cam gweithredol.
Mae angen canlyniadau'r monitro hwn arnoch os byddwch yn gwneud cais i ildio'ch trwydded.