Enghreifftiau o gludwyr gwastraff, broceriaid a delwyr

Cludo gwastraff yn arferol ac yn rheolaidd

Os mai cludo gwastraff yw eich arfer busnes arferol, rhaid i chi gofrestru, hyd yn oed os ydych yn gwneud hynny'n anghyson. Ond, nad ydych yn cludo gwastraff yn arferol a rheolaidd a mae eich gweithgareddau'n golygu eich bod yn perthyn i'r haen is, yna nid oes rhaid i chi gofrestru. 

Dewiswch eich math o gofrestriad: haen uwch neu haen is

Mae dwy lefel o gofrestru: haen uwch ac haen is.

Cofrestrwch ar yr haen is os ydych yn:

  • cludo gwastraff a gynhyrchir gennych chi eich hun, ar yr amod nad yw'n wastraff adeiladu neu ddymchwel. Er enghraifft, gallech fod yn arddwr sy'n cludo gwastraff gwyrdd neu'n osodwr carpedi sy'n gwaredu hen garped
  • elusen neu'n sefydliad gwirfoddol
  • awdurdod casglu (WCA), gwaredu (WDA) a/neu reoleiddio gwastraff ar gyfer gweithgareddau a gynhelir o fewn yr ardal daearyddol y maent yn WCA neu WDA iddo. Ni fyddai cofrestriad haen is yn cwmpasu casglu gwastraff ar ran endid cyfreithiol arall ac/neu y tu allan i'r ardal hon. Ni fyddai hefyd yn cwmpasu gweithgareddau a gynhelir gan endid cyfreithiol arall, er enghraifft cwmni sy'n gweithredu ar ran y WCA neu WDA pa un a yw'r cwmni'n eiddo i'r WDA neu WCA, yn llawn neu yn rhannol. Os mae unrhyw un o'r gweithgareddau hyn yn berthnasol, bydd angen i'r awdurdod lleol gofrestru yn yr haen uchaf.
  • cludydd, brocer neu ddeliwr sydd dim ond yn ymdrin â sgil-gynhyrchion anifeiliaid, gwastraff o gloddfa neu chwarel, neu wastraff o safle amaethyddol

Cofrestrwch ar yr haen uwch os ydych yn:

  • cludo gwastraff adeiladu neu ddymchwel
  • cludo gwastraff a grëwyd gan rywun arall – er enghraifft, pobl sy'n casglu haearn sgrap o dai pobl
  • brocer neu ddeliwr – heblaw os ydych dim ond yn delio â sgil-gynhyrchion anifeiliaid, gwastraff o gloddfa neu chwarel, neu wastraff o safle amaethyddol, sy'n weithgareddau haen is, neu os ydych yn elusen/sefydliad gwirfoddol neu'n awdurdod casglu, gwaredu a/neu reoleiddio gwastraff

Darganfyddwch fwy am bwy sy'n cael ei ystyried fel gynhyrchydd gwastraff.

Dewiswch eich gweithgaredd

Cario, brocera, delio

Enghreifftiau o gludwyr gwastraff

Pwy Gweithgaredd Angen cofrestru Haen uwch neu haen is

Adeiladwyr

Cario gwastraff adeiladu a dymchwel rydych wedi'i symud, e.e. sinciau, baddonau

Oes

Uwch

Gosodwyr carpedi

Gosod carped newydd a mynd â'r hen garped ymaith neu dynnu darnau o garpedi

Oes

Is

Trydanwyr a phlymwyr

Cario gwastraff adeiladu a dymchwel rydych wedi'i symud, e.e. sinciau, baddonau

Oes

Uwch

Trydanwyr a phlymwyr

Cario darnau o bipellau ymaith, er enghraifft, ond nid gwastraff adeiladu neu ddymchwel

Oes

Is

Ysgubwyr simneiau

Cario lludw rydych wedi'i dynnu o simneiau

Oes

Is

Contractwyr ffensio

Cario ffensys rydych wedi'u tynnu ymaith (caiff ffensys eu hystyried yn wastraff adeiladu)

Oes

Uwch

Garddwyr, tirlunwyr, meddygon coed

Cario perthi a gwastraff gwyrdd rydych wedi'u tynnu ymaith

Oes

Is

Garddwyr, tirlunwyr, meddygon coed

Cario gwastraff adeiladu rydych wedi'i dynnu ymaith

Oes

Uwch

Llety gwyliau

Lle mae yna darpariad o wasanaethau llety fel rhenti tymor byr neu wyliau, y perchennog busnes yw'r cynhyrchydd gwastraff. Cludo'r gwastraff hwn, os nad yw'n wastraff adeiladu neu ddymchwel

Oes

Is

Gwestai

Lle mae yna darpariad o wasanaethau llety, y perchennog busnes yw'r cynhyrchydd gwastraff. Cludo'r gwastraff hwn, os nad yw'n wastraff adeiladu neu ddymchwel

Oes

Is

Tŷ bwyta, caffis

Lle mae yna darpariad o wasanaethau gweiny bwyd, y perchennog busnes yw'r cynhyrchydd gwastraff. Cludo'r gwastraff hwn.

Oes

Is

Tenantiaeth hir dymor ar gyfer defnyddio tir neu adeiladau

Y person sy'n defnyddio neu'n meddiannu'r eiddo yw'r cynhyrchydd gwastraff. Lle mae'r meddiannydd yn cludo gwastraff y maent hwy eu hunain wedi'i gynhyrchu, cyn belled nad yw'n wastraff adeiladu neu ddymchwel

Oes

Is

Tenantiaeth hir dymor ar gyfer defnyddio tir neu adeiladau

Y person sy'n defnyddio neu'n meddiannu'r eiddo yw'r cynhyrchydd gwastraff. Landlordiaid sy'n cludo gwastraff a gynhyrchir gan denantiaid

Oes

Uwch

Clirio tai

Cario gwastraff a dynnir o gartrefi ymaith. Yn cynnwys symud gwastraff gan y landlord o dai sydd ar rent hir-dymor.

Oes

Uwch

Delwyr haearn sgrap

Casglu a chario gwastraff ymaith o dai/busnesau

Oes

Uwch

Deiliaid tai

Mynd â'ch gwastraff chi neu wastraff pobl eraill (yn ddielw) i safle awdurdod lleol

Nac oes

Amherthnasol

Nyrsys a gweithwyr gofal iechyd

Cario gwastraff a gynhyrchwyd o ganlyniad i'ch gofal

Oes

Is

Nyrsys a gweithwyr gofal iechyd, gan gynnwys fferyllfeydd

Darparu gwasanaeth i gario gwastraff a gynhyrchir gan gleifion, nid o ganlyniad i'w gweithgareddau gofal ac nid fel rhan o'r busnes neu i wneud elw

Nac oes

Amherthnasol

Mecanydd symudol

Gwaredu gwastraff a gynhyrchir o ganlyniad i'ch gwaith

Oes

Is

Mecanydd symudol

Gwaredu gwastraff a gynhyrchir gan rywun arall

Oes

Uwch

Heddlu, gwasanaeth tân, ambiwlansys

Gwaredu gwastraff, ond nid fel busnes nac i wneud elw

Nac oes

Amherthnasol

Glanhawyr biniau ar olwynion

Gwaredu a chario gwastraff o'r bin ymaith

Oes

Uwch

Glanhawyr biniau ar olwynion

Dim ond yn cario dŵr gwastraff a gynhyrchir yn ystod y weithred o lanhau

Oes

Is

Sefydliadau cario gwastraff haen is

Cario gwastraff adeiladu a dymchwel

Oes

Is

Unigolion sy'n cofrestru ar haen is yn ôl y mathau o wastraff

Cario gwastraff heblaw am wastraff amaethyddol a gwastraff o gloddfeydd a chwareli neu sgil-gynhyrchion anifeiliaid

Oes

Uwch

Unrhywun yn cario deunydd sydd ddim yn gwastraff

Am unrhyw rheswm

Nac oes

Amherthnasol – ddim yn wastraff

Unrhyw un sy'n cario samplau nad ydynt yn wastraff

Am ba bynnag reswm, gan gynnwys i bennu a yw'n wastraff

Nac oes

Amherthnasol – ddim yn wastraff

Unrhyw un sy'n cario samplau o wastraff a gynhyrchir gan rywun arall neu sy'n wastraff adeiladu a dymchwel

Am ba bynnag reswm

Oes

Uwch

Gosodwyr teiars

Amnewid a chario hen deiars ymaith

Oes

Is

Unrhyw grefftwr

Cario gwastraff rydych wedi'i gynhyrchu fel mater o drefn arferol a rheolaidd nad yw'n wastraff adeiladu neu ddymchwel

Oes

Is

Unrhyw grefftwr

Cario gwastraff rydych wedi'i gynhyrchu nad yw'n fater o drefn arferol neu reolaidd

Nac oes

Amherthnasol


Enghreifftiau o froceriaid a delwyr

Pwy Gweithgaredd Angen cofrestru Haen uwch neu haen is Brocer a/neu ddeliwr

Yr heddlu

Cyfeirio gwastraff sydd i'w waredu

Nac oes

Amherthnasol

Amherthnasol

Rheolwyr asiantaethau gosod tai / canolfannau siopa

Trefnu i wastraff gael ei symud o lety/safle a gaiff ei rentu

Oes

Uwch

Brocer

GIG, Byrddau Iechyd Lleol, neu Ymddiriolaethau

Trefnu i waredu gwastraff o feddygfeydd

Oes

Uwch

Brocer

Cyfnewid gwastraff

Darparu fforwm i bobl fynd ato i chwilio am ddeunyddiau gwastraff, eu prynu neu eu gwerthu

Nac oes

Amherthnasol

Amherthnasol

Cyfnewid gwastraff

Cymryd camau i gyfeirio tynged gwastraff, h.y. dwyn gwastraff a phobl ynghyd

Oes

Uwch

Brocer

Cyfnewid gwastraff

Defnyddio asiant i brynu gwastraff ac yna ei werthu

Oes

Uwch

Brocer a deliwr

Nid oes angen i chi fod wedi bod ym meddiant y gwastraff ar unrhyw adeg i gofrestru fel brocer neu ddeliwr.

Gallwch ddewis unrhyw un o'r tri math o weithgarwch neu bob un ohonynt.

Diffiniadau

Gwastraff adeiladu a dymchwel

Gall gwastraff adeiladu a dymchwel ddod yn sgil gwaith paratoadol, gwella, trwsio neu addasu.

Mae'n cynnwys unrhyw eitemau a oedd yn rhan o seilwaith neu a oedd yn rhan o seilwaith yn y gorffennol. Mae hefyd yn cynnwys gwastraff wrth archwilio a thynnu adnoddau mwynol.

Mae enghreifftiau cyffredin o wastraff adeiladu a dymchwel yn cynnwys baddonau, sinciau, toiledau, drysau, ffensys, llwybrau, pyst concrit, rwbel, waliau, gwaith brics, gwaith pibellau, gwifrau, plastrfwrdd, rheiddiaduron a ffenestri.

Sgil-gynhyrchion anifeiliaid

Sgil-gynhyrchion anifeiliaid yw carcasau anifeiliaid, rhannau o garcasau neu gynhyrchion sy'n deillio o anifeiliaid na fwriedir iddynt gael eu bwyta gan ddynion.

Gwastraff o safleoedd amaethyddol

Caiff safle amaethyddol ei ddiffinio fel tir a ddefnyddir ar gyfer garddwriaeth, tyfu ffrwythau, tyfu hadau, ffermio llaeth, bridio a chadw da byw, tir pori, gweirgloddau, tir ar gyfer tyfu helyg gwiail, gerddi marchnad, a thir ar gyfer meithrinfeydd planhigion.

Mae hefyd yn cynnwys coetiroedd lle y'u defnyddir i gefnogi'r defnydd o dir at ddibenion amaethyddol eraill.

Mae'r diffiniad hwn yn cynnwys pob math o ffermio âr.

Nid yw pob gweithgaredd lle cedwir anifeiliaid yn cael ei ystyried yn amaethyddol. Nid yw stablau marchogaeth, canolfannau ceffylau, cytiau cŵn, parciau anifeiliaid a chynhyrchwyr pysgod addurniadol yn cael eu hystyried yn safleoedd amaethyddol. Ni fyddai gwastraff o'r safleoedd hyn yn eich gwneud yn gymwys i gofrestru ar yr haen is.

Cofrestru neu adnewyddu

Darllenwch fwy am gofrestru neu adnewyddu fel cludwr gwastraff, brocer neu ddeliwr

Diweddarwyd ddiwethaf