Datganiad rheoleiddio 117.2: Dosbarthu gwastraff wedi'i gloddio wrth osod ac atgyweirio cyfleustodau nas cynlluniwyd

Mae'r Datganiad Rheoleiddio (DRh) hwn yn ddilys tan 31 Mawrth 2027 a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio eto bryd hynny i sicrhau bod y DRh yn dal i fod yn ddilys.

Gall CNC dynnu'r DRh hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os byddwn o’r farn bod angen gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys lle nad yw'r gweithgareddau y mae'r DRh hwn yn ymwneud â nhw wedi newid.

Y datganiad rheoleiddio

Mae'r DRh hwn yn berthnasol i weithredwyr sy'n dosbarthu gwastraff a gloddiwyd a gynhyrchwyd wrth wneud gwaith ffyrdd a strydoedd lle nad yw samplu'n bosibl cyn symud y gwastraff o'r safle cloddio.

Nid yw hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i’r canlynol:

  • gwastraff peryglus gydag arogl col-tar neu hydrocarbonau petrolewm eraill
  • gwastraff sy'n cynnwys asbestos gweladwy neu ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos

Dim ond pan fyddwch chi'n gwneud gwaith o dan drwyddedau 'ar unwaith', 'mân', a 'safonol' gan ddilyn Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (NRSWA) y mae'r DRh hwn yn berthnasol. Mae hyn hefyd yn cynnwys 'gweithiau mawr' lle mae angen trwydded 'mawr' oherwydd rheoli traffig yn unig.

Mae'r terfynau cyfaint canlynol yn berthnasol i bob gwaith cloddio unigol o fewn gwaith a wneir o dan drwydded neu orchymyn gwaith NRSWA.

Bydd yn dal yn rhaid i chi nodi'r codau dosbarthu priodol gan ddefnyddio WM3.

Os byddwch yn cludo’r gwastraff heb ei ddosbarthu yn unol â'r DRh hwn, gallwch drosglwyddo'r mathau hyn o wastraff i safleoedd gwastraff trwyddedig nad oes ganddynt y codau gwastraff peryglus cyfatebol wedi'u rhestru os ydynt yn cydymffurfio ag amodau RS051.3 Storio a rheoli gwastraff wedi’i gloddio wrth osod ac atgyweirio cyfleustodau.

Os na fedrwch ddilyn yr amodau yn y DRh hwn, rhaid i chi ddilyn y canllawiau technegol dosbarthu gwastraff er mwyn asesu a dosbarthu’r holl wastraff a gloddiwyd.

Nid yw'r DRh hwn yn berthnasol i unrhyw weithgaredd arall, hyd yn oed os yw’n dod o dan yr un ddeddfwriaeth. Efallai y bydd angen trwyddedau neu ganiatadau eraill arnoch o hyd ar gyfer gweithgareddau eraill yr ydych yn eu cyflawni.

Mae'r DRh hwn wedi'i gysylltu ag RS51.3 Storio a rheoli gwastraff wedi’i gloddio wrth osod ac atgyweirio cyfleustodau. Dylech ddarllen y DRh hwnnw er mwyn deall ble allwch chi fynd â'r gwastraff rydych chi'n ei ddosbarthu o dan y DRh hwn.

Rydym yn ymwybodol bod y corff masnach Street Works UK wedi datblygu methodoleg ar gyfer asesu gwastraff sy’n deillio o gyfleustodau. Ar hyn o bryd rydym yn ystyried ein dull o weithredu ar gyfer y fethodoleg hon a bydd yr DRh hwn yn cael ei ddiweddaru maes o law.

Amodau y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â nhw

Mae’n rhaid i chi:

  • ddefnyddio’r DRh hwn yn unig pan na allwch gael mynediad cyfreithlon i'r safle i gynnal gwaith samplu rhagarweiniol cyn i chi ddechrau gwaith cloddio
  • gwahanu’r gwastraff yn ôl y math o god gwastraff yn ystod gwaith cloddio a chludo (er enghraifft, rhaid cadw'r haen fitwminaidd a'r is-sylfaen ar wahân)
  • symud gwastraff naill ai i safle dan reolaeth y cynhyrchydd, neu i safle a ganiateir yn addas sy'n cydymffurfio ag RS51.3 Storio a rheoli gwastraff wedi'i gloddio wrth osod ac atgyweirio cyfleustodau nas cynlluniwyd
  • cynnwys cyfeirnod y drwydded waith (neu rif yr archeb waith) a manylion y gwaith cloddio penodol y casglwyd y gwastraff ohono, a rhoi 'dosbarthwyd gan ddefnyddio RS117.2' yn y disgrifiad ar unrhyw nodyn cludo neu nodyn trosglwyddo gwastraff sydd gyda’r gwastraff
  • cadw cofnodion o holl symudiadau gwastraff am 2 flynedd (neu 3 blynedd yn achos gwastraff peryglus) i ddangos eich bod wedi cydymffurfio â'r DRh hwn a sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gais

Dylech gymhwyso'r DRh hwn i wastraff sydd â’r codau canlynol yn unig:

  • 17 01 01 concrit
  • 17 01 02 brics
  • 17 01 03 teils a cerameg
  • 17 01 06* a 17 01 07 cymysgeddau o goncrit, brics, teils a cerameg
  • 17 03 01* a 17 03 02 cymysgeddau bitwminaidd
  • 17 05 03* a 17 05 04 pridd a cherrig
  • 17 09 03* a 17 09 04 gwastraff adeiladu a dymchwel cymysg

Nodyn: mae seren (*) wrth ymyl y cod yn golygu ei fod yn wastraff peryglus. Dim ond ar gyfer gwastraff dros 15m3 sy'n cael ei ddosbarthu fel gwastraff peryglus y dylid defnyddio codau gwastraff peryglus.

Rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol:

  • trin neu ddefnyddio'r gwastraff o dan esemptiad gwastraff
  • trosglwyddo'r gwastraff i gyfleuster sydd wedi ei eithrio
  • defnyddio’r DRh hwn ar gyfer unrhyw wastraff sydd, neu y credir ei fod, yn beryglus

Gorfodi

Nid yw'r DRh hwn yn newid eich gofynion cyfreithiol i:

  • asesu a dosbarthu gwastraff yn unol â chanllawiau dosbarthu gwastraff (WM3) pan fyddwch chi'n symud gwastraff a gynhyrchir yn ystod gwaith stryd a gwaith cyfleustodau
  • ofalu bod y sawl sy'n derbyn y gwastraff wedi'i awdurdodi i'w dderbyn

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os byddwch yn bodloni'r gofynion yn y DRh hwn.

Yn ogystal, rhaid i'ch gweithgaredd beidio ag achosi (neu fod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, a rhaid iddo beidio â:

  • achosi risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion neu anifeiliaid
  • achosi niwsans drwy arwain at sŵn neu arogleuon
  • effeithio’n andwyol ar gefn gwlad neu fannau o ddiddordeb arbennig

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf