Gwneud cais i newid trwydded gwastraff rheolau safonol
BETA: Mae hwn yn wasanaeth newydd — rhowch adborth i'n helpu i'w wella
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i newid i, neu i amrywio trwydded wastraff rheolau safonol.
Cyn i chi ddechrau
Mae angen i chi wybod:
- rhif y drwydded
- unrhyw gyfeirnod cyn ymgeisio
- ynghylch hawlio cyfrinachedd a diogelwch gwladol
- pa ddatganiadau i’w gwneud
- pa newidiadau y gallwch eu gwneud a’n taliadau ni
- sut i dalu
Yna, bydd angen i chi roi’r wybodaeth sydd wedi’i newid neu’r wybodaeth newydd i ni yn unig.
Newidiadau gweinyddol
Mae arnom angen y manylion newydd a chrynodeb byr o'r newidiadau rydych am eu gwneud.
Newid ardal y safle
Mae angen cynllun safle newydd arnom sy’n gorfod:
- cynnwys ffin y safle wedi'i farcio mewn gwyrdd
- nodi'r rhan o'r safle lle’r ydych am wneud eich gwaith neu weithrediadau gwastraff ynddi
- cynnwys nodweddion lleol i'n helpu i osod y safle yn ei amgylchedd lleol
- cynnwys dyddiad
- lluniadu i raddfa ddiffiniedig
Ychwanegu gweithgaredd rheol safonol
Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym pa weithgaredd rheol(au) safonol ydych chi’n dymuno ei ychwanegu.
Os ydych yn gwneud cais i ychwanegu rheol safonol dodi gwastraff i'w adfer at eich trwydded, bydd angen i chi uwchlwytho cynllun adfer gwastraff. Byddwn yn gofyn i chi grynhoi unrhyw newidiadau a wnaed ers eich trafodaethau cyn ymgeisio gyda ni.
Cydgrynhoi trwyddedau
Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym nifer yr holl drwyddedau yr ydych am eu cydgrynhoi.
Graddfeydd amser
Byddwn yn gwneud penderfyniad cyn pen tri mis o dderbyn cais cyflawn a'r ffi gywir.
Byddwn yn gwirio eich cais ac yn cadarnhau a yw’n gyflawn ac, os bydd yn gyflawn, fe’i nodir fel hyn: ‘wedi’i wneud yn briodol’. Os na fydd yn gyflawn, efallai y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth gennych. Nid yw’r amserlen benderfynu o dri mis yn dechrau nes byddwn wedi ystyried bod y cais ‘wedi’i wneud yn briodol’.