Oes angen i mi wneud cais am drwydded neu gofrestru eithriadau?
Canfyddwch a oes angen i chi ymgeisio am drwydded neu eithriadau
Newidiadau pwysig i taliadau electronig
Mae ein manylion banc wedi newid. Os yr ydych eisiau talu eich gais trwydded trwy trosglwyddiad electronig, gallwch defnyddio ein manylion banc newydd isod. Gweler yn y adran “Ein Taliadau” ar ein wefan an manylion llawn or newidiadau.
Enw cwmni: | Natural Resources Wales |
Cyfeiriad y Cwmni: | Income Department, PO BOX 663, Cardiff, CF24 0TP |
Banc: | RBS |
Cyfieriad: | National Westminster Bank Plc, 2 ½ Devonshire Square, London, EC2M 4BA |
Côd didoli: | 60-70-80 |
Rhif cyfrif: | 10014438 |
Byddwn yn diweddaru ein ffurflennu gais môr gynt a ffosib, ond mae rhaid defnyddio y manylion isod cyn gwneud taliad electronig o hyn ymlaen. Peidiwch a defnyddio y manylion sydd weid ei rhoi y nein ceisiadau trwydded ac canllawiadau os fod nhw yn wahannol I hyn sydd ywchben.
Cam un: deall y gwahaniaeth rhwng eithriadau a thrwydded
Eithriadau– ar gyfer gweithgareddau nad oes angen trwydded ar eu cyfer. Mae angen i chi gofrestru llawer o’r rhain gyda ni er mwyn i ni wybod amdanyn nhw. Mae’r rhan fwyaf o eithriadau i’w cael am ddim.
Trwyddedau safonol – cyfres o reolau penodedig ar gyfer gweithgareddau cyffredin. Os ydych chi’n gallu bodloni’r gofynion mae gennych chi hawl i gael trwydded safonol. Mae yna dâl penodol amdanyn nhw.
Trwyddedau pwrpasol – mae’r rhain yn cael eu hysgrifennu’n benodol ar gyfer eich gweithgarwch chi. Maen nhw’n cymryd mwy o amser i’w prosesu na thrwyddedau safonol felly’n tueddu i fod yn ddrutach.
Os na allwch fodloni’r gofynion am eithriadau neu drwydded safonol bydd angen i chi wneud cais am drwydded bwrpasol.
Cam dau: a yw’r gweithgarwch yn eithriadau o’r angen am drwydded neu a oes angen trwydded
Rydym yn eich cynghori i gael trafodaeth cyn-ymgeisio gyda ni cyn paratoi a chyflwyno’ch cais. Dylai hyn eich helpu i gael y cais am drwydded yn iawn y tro cyntaf a thynnu sylw at unrhyw broblemau’n gynnar, gan arbed amser ac arian i chi yn y pen draw.
Yn y trafodaethau hyn gallwn roi cyngor i chi ar:
- sut i baratoi eich cais
- pa nodiadau canllaw sydd ar gael
- pa fath o wybodaeth sydd angen i chi ei darparu er mwyn dangos i ni y bydd eich cynigion yn diogelu’r amgylchedd ac na fyddan nhw’n niweidio iechyd pobl
Help gyda’ch cais
Os nad ydych chi mewn cysylltiad â swyddog lleol, ffoniwch ein Canolfan Cyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 065 3000 ac fe fyddan nhw’n eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun yn eich swyddfa leol. Fel arall, gallwch anfon e-bost neu ysgrifennu atom yn y cyfeiriad isod.
e-bost ymholiadau cyffredinol – ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Rhif ymholiadau cyffredinol 0300 065 3000
Canolfan Derbyn Trwyddedau
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Tŷ Cambria
Caerdydd
CF24 0TP
Beth rydym ni’n ei wneud
Ein cyfrifoldeb ni yw:
- asesu pob cais am effeithiau posib
- rhoi sylw dyledus i’n hamcanion a’n dyletswyddau cyfreithiol
- gwrando ar y cyhoedd a allai gael eu heffeithio gan y cynigion
I wneud cais am drwydded amgylcheddol defnyddiwch y dolenni ar gyfer trwydded bwrpasol, trwydded safonol, newid, trosglwyddo ac ildio trwydded yn yr adran isod.
Byddwch yn gallu gweld pa ffurflenni sydd angen i chi eu llenwi a pha wybodaeth ategol sydd angen i chi ei hanfon atom, yn dibynnu ar y math o drwydded rydych chi’n gwneud cais amdani.
Faint fydd y drwydded yn ei chostio?
Bydd ein cynllun taliadau ar gyfer 2015-16 ar waith rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2016. Gweler y ddolen i'n cynllun taliadau, isod. Bydd angen i chi gwblhau proffil OPRA ar gyfer trwyddedau pwrpasol
Pryd fydda i’n cael fy nhrwydded?
Byddwn yn penderfynu ar eich cais cyn gynted ag sy’n ymarferol bosib. Os yw’ch cais am drwydded yn fwy cymhleth oherwydd deddfwriaeth arall neu gyfyngiadau cynllunio, neu os oes gennym ni bryderon penodol am y cynnig, efallai y bydd angen i ni gytuno ar amserlen wahanol gyda chi.
Rhaid i ni benderfynu ar eich cais o fewn yr amserlenni a nodir yn ein siarter ar gyfer cwsmeriaid.