Penderfyniad Rheoleiddio 32.1: Derbyn gweddillion o beiriant rhwygo metel a gweddillion triniaeth ôl-rwygo metel mewn safleoedd tirlenwi

Mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 30 Mehefin 2027, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.

Gall Cyfoeth Naturiol Cymru dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl, neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu, os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw’r gweithgareddau y mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud â hwy wedi newid.

Penderfyniad rheoleiddiol

Mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn berthnasol pan fyddwch chi’n derbyn gweddillion peryglus o beiriant rhwygo metel wedi’u codio fel 19 10 03* neu 19 10 05* (neu’r ddau) a gweddillion triniaeth ôl-rwygo metel wedi’u codio fel 19 12 11* i’w gwaredu mewn safle tirlenwi ar gyfer gwastraff nad yw’n beryglus.

Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw

Rhaid i chi wneud y canlynol:

  • dweud wrth Cyfoeth Naturiol Cymru cyn i chi ddefnyddio’r penderfyniad rheoleiddiol hwn drwy hysbysu eich swyddog rheoleiddio safle yn ysgrifenedig

  • cadw cofnodion am dair blynedd i ddangos eich bod wedi cydymffurfio â’r rheoliadau hyn a sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gais

  • cofnodi lleoliad cell safle tirlenwi’r dyddodiad gwastraff – gweler y canllawiau ar sut i ddiffinio gwastraff peryglus.

Ni chewch wneud y canlynol:

  • derbyn unrhyw weddillion o beiriant rhwygo metel wedi’u codio fel 19 10 04 neu 19 10 06 (neu’r ddau), neu weddillion triniaeth ôl-rwygo metel wedi’u codio fel 19 12 12 i’w gwaredu oni bai bod tystiolaeth eu bod yn wastraff nad yw’n beryglus trwy samplu a nodweddu yn unol â chanllawiau technegol WM3.

Pethau i’w nodi

Mae gweddillion o beiriant rhwygo metel yn golygu’r allbwn gweddilliol o rwygo gwastraff sy’n cynnwys metel, gan gynnwys cerbydau ar ddiwedd eu hoes wedi’u dadlygru (cyfeirir atynt weithiau fel gweddillion rhwygo modurol).

Mae gweddillion triniaeth ôl-rwygo metel yn golygu’r allbwn gweddilliol o drin gweddillion rhwygo metel ymhellach.

Gallwch chi ddyddodi’r gweddillion o beiriant rhwygo metel a’r gweddillion triniaeth ôl-rwygo metel yn eich safle tirlenwi gyda gwastraff arall nad yw’n beryglus. Nid oes angen i chi eu dyddodi mewn cell ar wahân.

Bydd angen i chi gydymffurfio â’r Rheoliadau Gwastraff Peryglus a chyflwyno ffurflenni gwastraff peryglus chwarterol ar gyfer y gwastraff a dderbynnir.

Rhaid i chi symud gwastraff gweddillion o beiriant rhwygo metel a gweddillion triniaeth ôl-rwygo metel sy’n beryglus o dan nodyn cludo. Mae angen i chi ychwanegu penderfyniad rheoleiddiol 32.1 a chod post eich safle yn adran y drwydded ar ffurflen y derbynnydd.

Gorfodi

Nid yw’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid eich gofyniad cyfreithiol i gydymffurfio â thrwydded amgylcheddol ar gyfer safle tirlenwi pan fyddwch chi’n derbyn gweddillion peryglus o beiriant rhwygo metel a gweddillion peryglus triniaeth ôl-rwygo metel i’w gwaredu.

Fodd bynnag, ni fydd Cyfoeth Naturiol Cymru fel arfer yn cymryd camau gorfodi os ydych chi’n cydymffurfio â’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.

Yn ogystal, rhaid i’ch gweithgaredd beidio ag achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i’r amgylchedd na niweidio iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:

  • achosi risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid

  • achosi niwsans drwy sŵn neu arogleuon

  • effeithio’n andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig
Diweddarwyd ddiwethaf