Dechrau prosiect cymunedol hirdymor ar dir rydyn ni'n ei reoli

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn os ydych chi am redeg prosiect cymunedol sy'n para am dros flwyddyn. Er enghraifft:

  • rhedeg ysgol goedwig nid-er-elw 
  • sefydlu grŵp gwirfoddoli i ofalu am lwybrau lleol
  • creu grŵp cymunedol i reoli ardal o goetir 

Mae Llais y Goedwig yn cynrychioli ac yn cefnogi grwpiau ac ymarferwyr coetir cymunedol ledled Cymru. Gallan nhw:

  • eich helpu i gwblhau eich cais
  • rhoi cyngor am gyllid
  • helpu gyda chynaliadwyedd
  • eich cyflwyno i rwydwaith o brosiectau coetiroedd cymunedol yng Nghymru
Diweddarwyd ddiwethaf