Cael y wybodaeth gywir

Gofynnwch i ni pa sefydliadau cefn gwlad sydd angen i chi gysylltu â nhw er mwyn cael y wybodaeth a fydd yn eich galluogi i fynd i'r afael â phob mater sy'n berthnasol i'ch prosiect. Bydd y wybodaeth hon yn eich helpu i baratoi eich Datganiad Amgylcheddol.

Cynnal cyfarfod cwmpasu

Mae'n hanfodol fod pob un o'r partïon perthnasol (cynrychiolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, ymgyngoreion a phartïon â diddordeb) yn cyfarfod er mwyn datblygu dealltwriaeth glir o'r materion dan sylw a sut y gellir ystyried y rhain o fewn cwmpas y prosiect. Mae hon yn weithdrefn safonol a chyfeirir ati fel cyfarfod 'cwmpasu'.

I gael rhagor o wybodaeth am drefnu a mynychu cyfarfodydd cwmpasu, darllenwch y canllaw Cyfarfod Cwmpasu (Saesneg yn unig).

Paratoi Datganiad Amgylcheddol

Diben Datganiad Amgylcheddol yw rhoi dealltwriaeth gyflawn i Cyfoeth Naturiol Cymru a phartïon eraill â diddordeb o ganlyniadau cynigion penodol.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i baratoi eich Datganiad Amgylcheddol, darllenwch Cwblhau Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol mewn Coedwigaeth a Paratoi Datganiad Amgylcheddol (Saesneg yn unig).

Paratoi'r cais

Dylech dynnu ffin y gwaith arfaethedig ar fap neu gynllun (map Arolwg Ordnans clir ar raddfa o 1:10,000 neu 1:2,500).

Rhowch disgrifiad cryno o'r gwaith arfaethedig a'r effeithiau posibl ar yr amgylchedd. Gall hwn fod yn grynodeb ysgrifenedig neu gellir ei roi fel rhan o gynllun grant neu gais am drwydded torri coed.

Paratoi a chasglu gwybodaeth

Paratowch Ddatganiad Amgylcheddol ar gyfer y gwaith sy'n cynnwys y materion a godwyd yn y cyfarfod cwmpasu.

Casglwch unrhyw wybodaeth arall all fod yn berthnasol, er enghraifft, mapiau rhywogaethau, cynlluniau, arolygon, ffotograffau ac ati.

Anfonwch eich dogfennau i Dîm Rheoliadau Coedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.

Efallai byddwn yn gofyn am gopïau lluosog o'r dogfennau cais, er mwyn eu hanfon ymlaen at ymgyngoreion fel y bo'r angen.

Rhoi cyhoeddusrwydd i'r Datganiad Amgylcheddol a'r ymgynghoriad

Unwaith y byddwn yn fodlon bod y Datganiad Amgylcheddol yn mynd i'r afael â phob mater sy'n achosi pryder, fel y cytunwyd yn y cyfarfod cwmpasu, mae'n rhaid paratoi hysbysiad cyhoeddus.

Mae'n rhaid i chi osod yr hysbyseb cyhoeddus (hysbyseb) mewn dau bapur newydd lleol. Noder mai chi sy'n gyfrifol am gost gwneud hyn. I gael manylion am gynnwys yr hysbysiad, gweler y llyfryn cyfarwyddyd AEA (Saesneg yn unig) neu gofynnwch i ni am gyngor.

Copïau mewn mannau cyhoeddus

Mae'n rhaid i chi hefyd sicrhau bod copïau ar gael mewn mannau cyhoeddus, megis y llyfrgell neu'r swyddfa bost leol. Byddwn yn eich helpu i benderfynu ar leoliadau addas.

Ymgynghori yn briodol

Byddwn hefyd yn rhoi manylion y cais i ymgyngoreion addas, cyrff statudol ac awdurdodau lleol. Mae'n rhaid i'r partïon hyn roi eu sylwadau i ni o fewn 28 diwrnod. Gellir rhoi sylwadau a gyflwynir i bartïon eraill â diddordeb. Bydd cynigion ar gyfer plannu coed newydd neu dorri coed yn ymddangos ar y Gofrestr Cynlluniau Grant a Cheisiadau i Dorri Coed.

Penderfyniadau terfynol

Bydd ein penderfyniad ar eich cais yn un o'r canlynol:

  • Rhoddwyd caniatâd yn amodol ar amodau safonol (y dylid cychwyn y gwaith o fewn 5 mlynedd o ddyddiad y caniatâd ac y'i gorffennir ddim hwyrach na 10 mlynedd o ddyddiad y caniatâd)
  • Rhoddwyd caniatâd yn amodol ar amodau safonol ac amodau eraill
  • Gwrthodwyd caniatâd

Cyhoeddi ein penderfyniad

Ar ôl eich hysbysebu chi a phartïon eraill â diddordeb am y penderfyniad, byddwn yn hysbysebu ein penderfyniad yn yr un papurau newydd lle rhoddwyd yr hysbysiad o'r cais am ganiatâd. Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yn gyfrifol am gost yr hysbysiad hwn.

Diweddarwyd ddiwethaf