Trwyddedau rhywogaethau ar gyfer gwaith arolygu a chadwraeth
Bydd arnoch angen trwydded os ydych chi’n bwriadu cynnal unrhyw fath o waith arolygu, ymchwil neu gadwraeth. Mae hyn yn cynnwys:
- wneud unrhyw fath o waith ymchwil neu arolygu
- dosbarthu, maglu neu drin rhywogaethau a warchodir
- difrodi, addasu neu rwystro mynediad at fan magu neu orffwys
Gwneud cais ar gyfer trwydded arolygu
Os hoffech gyflwyno cais am drwydded arolygu ac os nad ydych wedi meddu ar un o'r blaen, bydd angen i chi ddangos bod gennych yr hyfforddiant a'r profiad angenrheidiol. Bydd angen i chi anfon eich ffurflen gais am arolwg a thrwydded cadwraeth wedi’i chwblhau.
Ffurflen geirda
Os nad ydych wedi meddu ar drwydded berthnasol gennym o’r blaen, rhaid i’ch cais gynnwys ffurflen geirda.
Rhaid i'r canolwyr:
- allu rhoi sylwadau ar eu profiad o weithio gyda'r rhywogaethau perthnasol
- gallu defnyddio'r dulliau a'r offer a gynigir yn eich cais am drwydded
- bod yn gymwys eu hunain a rhaid eu bod wedi dal trwydded berthnasol o'r blaen
- bod â phrofiad o'ch gwaith am o leiaf un tymor arolwg
Dim ond un geirda y gallwn ei dderbyn gan y cwmni rydych chi'n gweithio iddo ar hyn o bryd. Efallai y byddwn yn cysylltu â'ch canolwyr i wirio eu datganiadau.
Adnewyddu eich trwydded ac adrodd ar eich gweithgareddau
Os ydych chi eisiau adnewyddu eich trwydded neu adrodd ar y gweithgareddau ydych chi wedi’u gwneud o dan eich trwydded, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais adrodd ac adnewyddu’r drwydded arolygu.
Diwygio eich trwydded
Gallwch ofyn am ddiwygiadau i'ch trwydded gan ddefnyddio'r ffurflenni perthnasol.
Ffurflen gais i ddiwygio
Ffurflen newid trwyddedai
Ffurflen newid ecolegydd
Cysylltu â ni
Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais ar gyfer trwydded.